Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 14eg Hydref, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd I.W. Davies.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C. Jones

3: PL/02307 – Ailddatblygu Oriel Myrddin i gynnwys estyniad i mewn i 26/27 Heol y Brenin i ffurfio siop newydd, caffi, man cymdeithasol, swyddfeydd a man ategol a 'hwb celf' yn Oriel Myrddin, Lôn y Llan, Caerfyrddin, SA31 1LH

Un o ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

C. Jones

3: PL/02317 – Ailddatblygu Oriel Myrddin i gynnwys estyniad i mewn i 26/27 Heol y Brenin i ffurfio siop newydd, caffi, man cymdeithasol, swyddfeydd a man ategol a 'hwb celf' yn Oriel Myrddin, Lôn y Llan, Caerfyrddin, SA31 1LH

3.               

Un o ymddiriedolwyr Oriel Myrddin.

J. Gilasbey

3: PL/02390 - Creu un llain ychwanegol i deuluoedd sy'n deithwyr gydag un uned sefydlog breswyl, carafán deithiol, ystafell amlbwrpas/dydd (cyfeillgar i'r anabl) gan ddefnyddio mynediad amaethyddol cymeradwy (S/33780) yn y Garafán, Stablau Melden, Pen-bre, Llanelli, Porth Tywyn, SA16 0JS

 

Ffrind agos yn byw yn yr ardal

D. Cundy

3: S/40505 - Cadw newid defnydd o breswylfa i gyfleuster gofal preswyl yn 7 Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4BG

 

Roedd eisoes wedi penderfynu ynghylch y cais

H.I. Jones

3: S/00313 - Dymchwel dau fwthyn sy'n is na'r safon a chodi dau fwthyn newydd ynghyd â 3 chaban glampio ar gyfer llety gwyliau yn Sarnisel, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33 6HT

 

Yn adnabod yr ymgeisydd

Mr. I. Llewellyn (Rheolwr Blaen-gynllunio)

3: PL/02057 - Amrywio Amod 4 o gais E/26447 (er mwyn caniatáu ymestyn oes y tyrbin gwynt presennol) ar gae i'r de-orllewin o Ddepo Tanwydd Blaenau, Ffordd Pantyblodau, Blaenau, Rhydaman, SA18 3BX

 

Aelod o Gyngor Cymuned Llandybïe

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1     PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40505

Cadw newid defnydd o breswylfa i gyfleuster gofal preswyl yn 7 Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4BG.

 

(NODER: Roedd y Cynghorydd D. Cundy wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:-

 

·       Hygrededd a chywirdeb y wybodaeth a ddarparwyd

·       Defnyddio ystafell yn yr adeilad fel swyddfa, gan gynnwys ei defnydd gan gyfarwyddwr y cwmni

·       Ymholiad ynghylch lefel y ddarpariaeth llety cysgu ar gyfer staff nos

·       Roedd nifer y llefydd parcio presennol ar y stryd wedi gostwng yn sgil nifer y cerbydau oedd eu hangen yn y datblygiad. Honnwyd bod angen 6 lle parcio ar y datblygiad, ond roedd hyd at 8-11 o lefydd yn cael eu meddiannu'n rheolaidd gan staff ac ymwelwyr â'r datblygiad, gan olygu nad oeddent ar gael i drigolion lleol eraill

·       Ymholiad a oedd angen y cartref yn ei leoliad presennol a'r pwysau ar y gwasanaethau lleol o ganlyniad i hynny 

·       Diffyg ymgynghori

·       Nid oedd cais am barcio i breswylwyr wedi'i roi.

·       Roedd parcio anghyfreithlon yn digwydd ar linellau melyn dwbl yn yr ardal

·       Roedd s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r datblygiad yn effeithio ar amwynder trigolion lleol a'r modd gallent fwynhau eu gerddi cefn

·       Roedd y safle'n gweithredu fel busnes ac nid fel cartref

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd, yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) a'r Uwch-dechnegydd (Cyswllt Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd

PL/00313

Dymchwel dau fwthyn sy'n is na'r safon a chodi dau fwthyn newydd ynghyd â 3 chaban glampio ar gyfer llety gwyliau yn Sarnisel, Bronwydd, Caerfyrddin, SA33 6HT.

 

(NODER: Datganodd y Cynghorydd H.I. Jones fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Roedd sylw wedi dod i law a dderbyniai'r elfen o'r cais oedd yn ymwneud â'r bythynnod ond a wrthwynebai'r podiau glampio. Roedd y gwrthwynebiad yn ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac a oedd yn cynnwys:

 

·       lleoli podiau glampio mewn ardal breswyl a'u hagosrwydd at eiddo preswyl cyfagos

·       amcangyfrifwyd y gallai rhwng 20 a 25 o bobl aros yn y llety ar unrhyw un adeg a allai gael effaith andwyol ar amwynder trigolion lleol a'r modd gallent fwynhau eu gerddi cefn oherwydd s?n

·       gallai'r llety arfaethedig gael ei archebu en-bloc ar gyfer partïon plu a stag.

·       pryder am ddiffyg rheoli'r safle yn ddyddiol gan fod yr ymgeisydd yn byw y tu allan i'r Sir

·       roedd y cynnig yn golygu datblygu safle gwersylla yng nghanol ardal breswyl

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd

PL/00977

Amrywio Amod 2 (cynlluniau cymeradwy) ac Amod 3 ar gais S/40401 (ailadeiladu ysgubor a ddifrodwyd gan storm – ôl-weithredol)  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEDI 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 yn gofnod cywir.