3. |
PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 887 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn
amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y
Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
W/20622
|
Datblygu hyd at bymtheg o dai a ffordd
fynediad gysylltiedig - Tir ym Mronwydd
Arms, Caerfyrddin.
(NODER:
1.Mae
caniatâd hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106 sy'n cynnwys
cyfraniad tuag at gyfleusterau chwarae yn yr ardal.
2. Y
Pennaeth Cynllunio i gael ei awdurdodi i drafod cyfraniad gyda'r
datblygwr a rhoi gwybod i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd Cynllunio am
y trafodaethau hynny)
|
S/40672
|
Gwaredu amodau 4 (Deiliaid a'u dibynyddion),
5 (Adfer tir) a 6 (Caniatâd dros dro am 4 blynedd) o S/38535
– Helaethu'r Safle Teithwyr a roddwyd ar 28/02/20 – Tir
Hillside View, Yr Hendy, Llanelli, SA14
8JX.
|
PL/00103
|
Cadw'r llecyn manwerthu presennol ac 1 fflat
breswyl a chreu 4 fflat breswyl hunangynhwysol ychwanegol o fewn
ôl troed byngalo preswyl pâr. Cynigion i gynnwys
adeiladu estyniad dormer i'r to er mwyn hwyluso datblygiad yn 45
Heol Penllwynrhodyn, Llwynhendy,
Llanelli, SA14 9NN.
·
(NODYN
·
1. Am 1:00pm, wrth ystyried
y cais hwn, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor
– Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd bod y cyfarfod wedi bod
yn mynd rhagddo ers tair awr, penderfynwyd gohirio ystyried y
rheolau sefydlog, yn unol â Rheol 23.1 o Weithdrefn y Cyngor,
er mwyn galluogi'r Pwyllgor i gwblhau'r gwaith a oedd yn weddill ar
yr agenda.
2. Ar
ôl penderfynu ar y cais hwn, torrodd y Pwyllgor am ginio am
1.30pm gan ailymgynnull am 2.00pm.]
|
PL/00588
|
Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar
gyfer 13 preswylfa a rhyddhau amodau cysylltiedig 4,5,6,7,8,9,10,11
a 12 yn unol â chaniatâd amlinellol (cyf S/36817)
– Tir yn hen Wasanaeth Labordy Cenedlaethol CNC, Lôn
Pen y Fai , Ffwrnes, Llanelli, SA15 4EL.
Roedd
sylw wedi dod i law gan breswylydd lleol ynghylch mynediad i'w
eiddo wrth adeiladu'r datblygiad, pe bai caniatâd cynllunio'n
cael ei roi, a gofynnodd am sicrwydd y byddai mynediad yn cael ei
gynnal bob amser. Roedd hefyd o'r farn y byddai ymweliad safle (fel
y cytunwyd gan y pwyllgor ar 27 Mai) o fudd i drigolion
lleol.
Rhoddodd y Cadeirydd wybod ei fod wedi derbyn llythyr gan
breswylydd lleol ac aeth ymlaen i ddarllen ei gynnwys i'r pwyllgor.
Roedd yn cynnwys cyfeiriad at leoliad lleiniau 2,3 a 4 o fewn y
datblygiad sy'n edrych dros ei eiddo ac y byddai o ganlyniad, yn
colli preifatrwydd ynghyd ag awgrym y dylid cyfyngu'r datblygiad i
10 o breswylfeydd.
Ymatebodd yr Asiant a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a
godwyd.
|
PL/01737
|
Preswylfa ddeulawr newydd yn lle'r hen un
– Pencae, Llanarthne,
Caerfyrddin, SA32 8JP
(NODER:
Gan fod y Cynghorydd M. Charles eisoes wedi datgan buddiant yn y
cais hwn yn gynharach, gwnaeth ail-ddatgan y buddiant hwnnw a
gadawodd y cyfarfod ac ni wnaeth gymryd rhan yn y penderfyniad yn
ei gylch)
|
PL/02156
|
Estyniad llawr cyntaf yng nghefn yr eiddo,
adeiladu t? allan preswyl ategol yn lle'r hen un a datblygiad
cysylltiedig iddo ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.
|
|