Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr G.B. Thomas a J. E. Williams. 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cyng. C. Jones

3: PL/02036 - Estyniad i'r bloc swyddfeydd presennol – Adeiladau'r Goron, Stryd yr Eglwys, Llanelli, SA15 3TH

Cyn-weithiwr i Tinopolis.

Y Cyng. S.J.G. Gilasbey

3: PL/02036 - Estyniad i'r bloc swyddfeydd presennol – Adeiladau'r Goron, Stryd yr Eglwys, Llanelli, SA15 3TH

Mae merch ei chefnder yn gweithio yn y cyfryngau.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle:-

 

W/35975

Newid defnydd y tir a'r adeiladau i greu lleoliad ar gyfer digwyddiadau corfforaethol er mwyn cynnal gweithgareddau saethu colomennod clai, pysgota a rheoli ceirw ar dir ger Fferm Pantgwyn, Felin-wen, Caerfyrddin

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i ddeall pryderon gwrthwynebwyr yn well ynghylch:

·         Effaith s?n posibl ar eiddo cyfagos.

·         Pryderon diogelwch llwybrau troed.

W/37473

Cadw trapiau colomennod clai, mannau saethu a strwythurau cysylltiedig - tir ger Fferm Pantgwyn, Felin-wen, Caerfyrddin

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i ddeall pryderon gwrthwynebwyr yn well ynghylch:

·         Effaith s?n posibl ar eiddo cyfagos.

·         Pryderon diogelwch llwybrau troed.

 

3.2       PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00938

Preswylfa newydd - paddock plot gerllaw 100 Heol y Cyrnol, Betws, Rhydaman, SA18 2HP

PL/01196

Datblygiad preswyl arfaethedig sy'n cynnwys 33 o anheddau a chartref gofal 84 gwely gyda mynediad cysylltiedig, parcio ceir, tirlunio a gwaith seilwaith - Hen Ysgol yr Ynys, Ynys Las, Llanelli, SA14 9BT

 

Derbyniwyd ceisiadau e-bost am ymweliad safle gan Aelodau Lleol, Cynghorwyr. F. Akhtar ac S.L Davies oherwydd pryderon ynghylch materion traffig, parcio a thagfeydd posibl. Ystyriwyd y cais am ymweliad safle gan y Pwyllgor ond fe'i gwrthodwyd wedyn ar y sail bod yr adroddiad a'r cyflwyniad ffotograffig yn darparu gwybodaeth ddigonol i'r Pwyllgor ystyried y cais.

PL/01621

Gwaredu'r sied storio bresennol, cadw ystafell haul ar gyfer llety atodol ac addasiadau i annedd er mwyn hwyluso newidiadau i gynlluniau mewnol a phrif ystafell ychwanegol - 13 Llys y Crofft, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0HG.

PL/02036

Estyniad i'r bloc swyddfeydd presennol – Adeiladau'r Goron, Stryd yr Eglwys, Llanelli, SA15 3TH

 

[Noder: Datganodd y Cynghorydd C. Jones a'r Cynghorydd S.J.G. Gillasbey fuddiant wrth ystyried y cais a gadawsant y cyfarfod cyn i'r bleidlais gael ei chynnal.]

 

3.3       PENDERFYNWYD gohirio'r cais canlynol er mwyn galluogi'r Swyddog Rheoli Datblygu i drafod gyda'r ymgeisydd a yw'n barod i wneud unrhyw newidiadau i ddyluniad ac ymddangosiad yr adeilad, a allai wneud y datblygiad yn dderbyniol o fewn ardal gadwraeth. 

 

PL/01992

Cadw adeiladau allanol domestig ar wahân – 4 Maes yr Eglwys, Llansaint, Cydweli, SA17 5JE

 

Daeth sylw i law gan yr aelod lleol i gefnogi'r cais ar y sail bod y cais:

·         wedi'i gefnogi gan y gymuned leol

·         dim ond o fan agos yr oedd yr adeilad yn amlwg

·         byddai'r ymgeisydd yn cael ei orfodi i werthu'r eiddo pe bai'r cais yn cael ei wrthod.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR29AIN GORFFENNAF, 2021 pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021, gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau