Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB / MATERION ERAILL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Jones oherwydd busnes y Cyngor. Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Dorian Phillips a oedd wedi cael MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 546 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
3.1 caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn a) bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros y breswylfa, dan Nodyn Cyngor Technegol 6, ac y dylid cefnogi arallgyfeirio'r economi wledig fel ffordd o ddarparu cyfleoedd gwaith lleol, cynyddu ffyniant yr economi leol a lleihau'r angen i deithio ar gyfer cyflogaeth; b) nad oedd unrhyw unedau gweithdy addas eraill yn yr ardal; 3.2 bod y caniatâd yn amodol ar amod safonol Preswylfa Menter Wledig sy'n ofynnol gan Nodyn Cyngor Technegol 6.
(NODER: Gan fod y Cynghorydd J. Lewis wedi datgan buddiant yn y cais hwns eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor)
|
|||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 489 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 585 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||
LLOFNODWR Y SIARTER CREU LLEOEDD PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd L. M. Stephens, y Dirprwy Arweinydd, adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Cyngor fod yn llofnodwr i Siarter Creu Lleoedd Cymru. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun a diben Creu Lleoedd, ei rôl a'i statws o ran polisi cynllunio cenedlaethol a lleol yn ogystal â chynnwys y Siarter. Datblygwyd y Siarter gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod eang o fuddiannau a sefydliadau sy'n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Roedd yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd ac ymrwymiad unigol y sefydliadau hyn i gefnogi datblygiad lleoedd o ansawdd uchel ledled Cymru er budd cymunedau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL A'R CYNGOR fod Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cael ei chymeradwyo a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodwr.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021 yn gofnod cywir.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.
|