Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB / MATERION ERAILL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Jones oherwydd busnes y Cyngor.

Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Dorian Phillips a oedd wedi cael MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Lewis

3.              3: PL/01932 - Adeiladu preswylfa ar wahân a gweithdy newydd ar dir ger Rhydygwin, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6SU

Ymgeisydd yn berthynas.

 

3.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 546 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1 caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio i'w wrthod ar y sail bod y Pwyllgor o'r farn  

      a)  bod Cyfiawnhad Menter Wledig dros y breswylfa, dan Nodyn Cyngor Technegol 6, ac y dylid cefnogi arallgyfeirio'r economi wledig fel ffordd o ddarparu cyfleoedd gwaith lleol, cynyddu ffyniant yr economi leol a lleihau'r angen i deithio ar gyfer cyflogaeth;

b) nad oedd unrhyw unedau gweithdy addas eraill yn yr ardal;

3.2 bod y caniatâd yn amodol ar amod safonol Preswylfa Menter Wledig sy'n ofynnol gan Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

PL/01932

Adeiladu preswylfa ar wahân a gweithdy newydd ar dir ger Rhydygwin, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6SU

 

(NODER: Gan fod y Cynghorydd J. Lewis wedi datgan buddiant yn y cais hwns eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor)

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 489 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00775

Creu pedair llain teithwyr i deuluoedd gydag un uned breswyl sefydlog, carafan deithiol, ystafell ddydd/aml-bwrpas a man parcio ar gyfer pob llain, gwelliannau i'r mynediad presennol, ffordd fynediad fewnol a gwella tirlunio ar dir Cam 2 ym Maes y Dderwen, Llangennech, Llanelli

 

5.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 585 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/01452

Newid defnydd o C3 (Preswylfa) i C2 (Sefydliad Preswyl) yn West Winds, Heol Pantyffynnon, Rhydaman, SA18 3HL

 

[NODER; Ar ôl penderfynu ar y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Lenny y cyfarfod a chadeiriodd y Cynghorydd H.I. Jones y cyfarfod)

PL/01552

Cadw a gwneud newidiadau i'r wal flaen yn 2 Heol Fach, Cae'r-bryn, Rhydaman, SA18 3DJ

 

 

6.

LLOFNODWR Y SIARTER CREU LLEOEDD pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd L. M. Stephens, y Dirprwy Arweinydd, adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Cyngor fod yn llofnodwr i Siarter Creu Lleoedd Cymru. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun a diben Creu Lleoedd, ei rôl a'i statws o ran polisi cynllunio cenedlaethol a lleol yn ogystal â chynnwys y Siarter. Datblygwyd y Siarter gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid sy'n cynrychioli ystod eang o fuddiannau a sefydliadau sy'n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol.  Roedd yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd ac ymrwymiad unigol y sefydliadau hyn i gefnogi datblygiad lleoedd o ansawdd uchel ledled Cymru er budd cymunedau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL A'R CYNGOR fod Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cael ei chymeradwyo a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn llofnodwr.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

7.1

27AIN MAI 2021 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021 yn gofnod cywir.

 

7.2

8FED MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau