Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. B. Thomas. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 705 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
[Noder: Gan fod y Cynghorydd M. Charles wedi datgan buddiant yn y cais canlynol yn gynharach fel aelod o Gyngor Cymuned Llanegwad, cyflwynodd sylwadau fel yr Aelod Lleol, ond nid oedd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau na'r bleidlais.]
|
|||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 566 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle. Bydd yr ymweliad safle yn cael ei drefnu yn amodol ar Reoliadau/Canllawiau Covid Llywodraeth Cymru ac yn unol â hwy ac yn dilyn asesiad risg a gynhelir gan yr Awdurdod hwn.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Am 1.00 p.m., yn unol â Rheol 9 o Weithdrefn y Cyngor, tynnodd y Cadeirydd sylw'r aelodau at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr a chynigiodd fod y cyfarfod yn cael ei ohirio tan 1.30 p.m. Fodd bynnag, roedd gan nifer o aelodau gyfarfodydd eraill wedi'u trefnu ar gyfer y prynhawn hwnnw ac nid oeddent yn gallu dychwelyd am 1.30 p.m. Felly
PENDERFYNWYD y dylid gohirio ystyried yr eitemau canlynol tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a gynhelir ddydd Mawrth, 8 Mehefin, 2021 am 10:00am:-
· E/40650 - Dymchwel ysgol a chodi datblygiad preswyl 6 preswylfa, dyluniad manwl o'r lleoliad, dyluniad, gwedd allanol a gwaith tirweddu yn y datblygiad, Ysgol Gynradd Gymunedol Nantygroes, Milo, Llandybïe, Rhydaman, SA18 3NZ
· PL/01427 – Estyniad deulawr ar ochr y breswylfa, 67 Heol Pontarddulais, T?-croes, Rhydaman, SA18 3QA
· Llofnodi bod cofnodion cyfarfod y pwyllgor ar 29 Ebrill, 2021 yn gofnod cywir
|