Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J. Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

D. Phillips

3: PL / 00750 - Cadw'r estyniad i bwll slyri presennol at ddibenion lles yn Nantygoetre Isaf, Llandyfaelog, Cydweli, SA17 5YA

Yn hyfforddi tîm Tynnu Rhaff Llanboidy ac mae'r ymgeisydd yn y garfan

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 794 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40307

Estyniad arfaethedig a chodi lefelau'r iard storio ddiwydiannol bresennol ynghyd â llefydd parcio cysylltiedig, cabanau symudol ar gyfer staff, hopranau diwydiannol a phont bwyso ar dir ger ystâd ddiwydiannol WDA, Porth Tywyn, Llanelli, SA16 0NN

(Sylwer: mae'r caniatâd hefyd yn amodol ar Gytundeb Adran 106)

PL/00750

Cadw'r estyniad i bwll slyri presennol at ddibenion lles yn Nantygoetre Isaf, Llandyfaelog, Cidweli, SA17 5YA

 

(NODER: Gan fod y Cynghorydd D Phillips wedi datgan buddiant yn cais hwn eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor)

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau gwrthwynebiad y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Roedd y rheiny'n cynnwys pryderon ynghylch graddfa'r pwll slyri a pha mor agos yr oedd at eiddo’r gwrthwynebydd, effaith andwyol ar yr amwynderau oherwydd pryfed, aroglau a s?n, iechyd, diogelwch cymunedol, pa mor agos oedd pyllau slyri eraill y cludir slyri iddynt, y potensial i gludo slyri i'r safle o fferm gyfagos yr ymgeisydd  a bydd cynnydd mewn traffig yn cynyddu llygredd. Rhoddwyd hefyd ystyriaeth i'r ffaith fod y cynllun rheoli a gyflwynwyd yn wallus, roedd gwallau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac roedd y cynnig yn groes i bolisi GP1 y Cynllun Datblygu Lleol

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

PL/00935

Estyniad deulawr ar ochr yr eiddo a phortsh blaen newydd - Blaenau Isaf, Cross Hands, Llanelli, SA14 6DD

PL/01348

Bwriad i ddymchwel yr adeilad presennol ac ailadeiladu i ddarparu 12 fflat gofal preswyl (dosbarth c2) a swyddfa weinyddol gysylltiedig yn 33-35 Stryd Murray, Llanelli, SA15 1BQ

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 502 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00959

Cyfleuster arfaethedig ar gyfer gwaith potelu llaeth yn cynnwys swyddfa ategol (b2) gan gynnwys storio (b8) a gwaith seilwaith cysylltiedig.  Fferm Penrhiw, Cwmisfael, Caerfyrddin, SA31 8BY

PL/01054

Adeiladu preswylfa ar wahân newydd ar lain 4, rhan o gae rhif. 6555, Croesyceiliog, Caerfyrddin, SA32 8DS

 

Er nad oedd gwrthwynebydd y cais yn gallu bod yn bresennol wrth i'r pwyllgor roi ystyriaeth i'r cais uchod, cyflwynwyd sylwadau ysgrifenedig yn lle hynny, trwy e-bost, yn manylu ar y gwrthwynebiadau i'r datblygiad arfaethedig. Darllenwyd y sylwadau hynny i'r Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig ac ail-bwysleisiwyd y pwyntiau gwrthwynebu y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio. Roeddent yn cynnwys pryderon yn ymwneud â phreifatrwydd, edrych dros eiddo, balconi arfaethedig Juliette (a oedd wedi'i dynnu o'r cais), mynediad i'r briffordd a mabwysiadu ffordd yr ystâd.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

(Sylwer: mae caniatâd hefyd yn amodol ar lofnodi'r Ymgymeriad Unochrog ar gyfer y cyfraniad tai fforddiadwy)

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF EBRILL, 2021. pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau