Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 4ydd Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Joseph Davies

5. PL/00778 - Addasiadau ac estyniad llawr cyntaf / to i S?n y Gân, Llangadog, SA19 9HP

Ymgeisydd yn berthynas.

 

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 686 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol:-

 

S/40505

Cadw newid defnydd o breswylfa i gyfleuster gofal preswyl yn 7 Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4BG

 

RHESWM – Rhoi cyfle i'r aelodau lleol annerch y pwyllgor ar ran y trigolion lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/01002

Estyniad unllawr yn y cefn a llawr estyll newydd yn 16 Haulfryn, Bryn, Llanelli, SA148QL

PL/01056

Estyniad dormer, ynghyd ag estyniad cefn unllawr a balconi.  Dymchwel yr estyniad cegin unllawr presennol yn 16 Heol Elkington, Porth Tywyn SA16 0AA

 

 

4.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 617 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

W/39628

Adeiladu Preswylfa Menter Wledig yn On Yard, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, SA40 9RA

 

Cafwyd sylwadau gan yr aelod lleol i gefnogi'r cais, a dywedodd fod y busnes wedi hen ennill ei blwyf, yn gwasanaethu'r ardal wledig, a hefyd yn darparu gwaith amser llawn i'r ymgeiswyr. 

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: Gan i'r Cynghorydd J.A. Davies ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch].

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00778

Addasiadau ac estyniad llawr cyntaf / to i S?n y Gân, Llangadog, SA19 9HP

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD CHWEFROR, 2021 pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 4 Chwefror 2021 gan eu bod yn gywir.