Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch cyfrin-gôd' 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorydd J. Lewis a'r Cynghorydd G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 965 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodir yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu a adroddwyd yn y cyfarfod ac ar ôl cyflwyno'r cytundeb cyfreithiol perthnasol a Thystysgrif y Teitl:-

 

E/40072

Preswylfa dwy ystafell wely gan gynnwys cartref symudol dros dro.Caniatawyd cais amlinellol E/22189, caniatawyd materion a gadwyd yn ôl ar 15/04/2016 sydd wedi dod i ben erbyn hyn. Bydd cynlluniau gwreiddiol yn cael eu hailgyflwyno ar gyfer tir yn 12A Heol Hendre, T?-croes, Rhydaman SA18 3LA

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39973

Cynnig i godi preswylfa ar wahân newydd ar dir, Brynbedw, 57 Heol Rehoboth, Pump-hewl, Llanelli SA15 5DJ

 

S/40324

Newid defnydd o'r Uned Ddiwydiannol bresennol o Ddosbarth D1 i ddefnydd Dosbarth B1/B2, T.A.D. Builders, Uned 5 Temple Works, Ffwrnes, Llanelli SA15 4HT

 

Cafwyd sylw gan Gynghorydd dros Hengoed o Gyngor Gwledig Llanelli yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig gan ailbwysleisio’r rhai o'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a ganlyn:

  • tagfeydd traffig/ardal brysur,
  • llygredd aer,
  • pryderon ynghylch storio gwastraff diwydiannol a
  • phryderon ynghylch datblygu ar orlifdir dosbarth C2.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/40466

Estyn y Wal Derfyn a Chodi Ffens Newydd. Hefyd, cadw lefelau gardd uwch a gwaith draenio newydd (Ôl-weithredol). 105 Pentre Nicklaus Village, Llanelli, SA15 2DF 

 

Cafwyd sylwadau a oedd yn gwrthwynebu'r cais gan ailbwysleisio'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, ac roedd y prif feysydd a berai bryder fel a ganlyn:

 

 

·       Lefelau tir annerbyniol

·       Diffyg ystyriaeth i reolau neu gymdogion

·       Diffyg ymgynghori â chymdogion

·       Safle adeiladu sy'n ddolur llygad

·       Mae gwaith cloddio a gwaith pellach wedi cael eu gwneud yn ddiweddar heb ganiatâd cynllunio

·       Mae'r ymgeisydd wedi diystyru rheoliadau cynllunio

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r materion a godwyd.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gwrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio

 

S/40411

Preswylfa unllawr ar wahân ar dir y tu cefn i Heol Trostre Isaf, Llanelli SA15 2DY

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] wrth y Pwyllgor ei fod wedi derbyn gohebiaeth hwyr gan yr Asiant yn gofyn am estyniad o 2 wythnos.  Eglurodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] nad oedd y cais yn gais amodol ac felly nad oedd yn briodol gohirio'r cais ymhellach.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn cefnogi’r cais.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r materion a godwyd.

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio/yr atodiad a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/39207

Cais cynllunio amlinellol ar gyfer codi 1 breswylfa (mynediad i'w gymeradwyo) ar dir ger Colts Park, Sir Johns Hill Lane, Gosport Street, Talacharn SA33 4TD

 

W/39998

Cynnig i ailddatblygu'r adeilad presennol (Dosbarth A1) gan gynnwys estyniad, newidiadau a gwaith allanol cysylltiedig ar gyfer siop gyfleusterau arfaethedig a chadw'r mynediad a'r mannau parcio ceir presennol ar gyfer siop atgyweirio cyrff ceir cyfagos, New Road Antiques, Heol Newydd, Castellnewydd Emlyn SA38 9BA

 

W/40140

Caniatâd amlinellol ar gyfer 1 cartref newydd, cadw'r holl faterion yn ôl, 112 Heol Caerfyrddin, Cross Hands, Llanelli SA14 6TD

 

 

W/40177

Adeiladu preswylfa ddeulawr gyda chyfleusterau parcio ceir, Arwerydd, Heol Arad, Aberarad, Castellnewydd Emlyn SA38 9DB

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn cefnogi’r cais.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau