Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
YSTYRIED ADRODDIADAU'R PENNAETH CYNLLUNIO YNGHYLCH Y CEISIADAU CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'U SAFLEOEDD YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CEISIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Chwefror 2020), a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd yn lleol ynghylch yr effaith ar yr amwynderau. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Daeth sylwadau i law gan yr Aelod Lleol a phreswyliwr a oedd yn gwrthwynebu'r cais, gan ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd a oedd yn peri pryder oedd colli preifatrwydd oherwydd y ffenestri yn yr atig a'r to.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) ac asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebwyr.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio S/39984 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. |
|
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 967 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-
E/38576- PRESWYLFA UNLLAWR Â LLE BYW YN Y TO A GAREJ INTEGROL AR DIR YN YMYL RHIF 15 HEOL PLAS GWYN, PEN-Y-GROES, LLANELLI, SA14 7RY
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais ar sail problemau posibl o ran cysylltu'r safle â'r prif wasanaethau, maint yr adeilad a mynediad gwael i'r brif ffordd.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld y mynediad i'r brif ffordd. |
|
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 886 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r safle:-
W/40091- PRESWYLFA MENTER WLEDIG AR DIR YN LLWYNONNILL FAWR, HEOL LLANDDAROG, LLANDDAROG, SA32 8AL
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn cais gan yr Aelod Lleol.
Cafwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol a oedd yn cefnogi'r cais yn seiliedig ar asesiad TA6 ynghyd â chais am ymweliad safle.
RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i weld yr adeiladau allanol presennol a chynllun y safle. |