Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 23ain Mehefin, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P Cooper.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd / Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd E. Skinner

3: PL/03872 Ceisir cymeradwyo Materion a Gadwyd yn ôl ar gyfer mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa ar gyfer Cam 1 Datblygiad Llesiant a Gwyddor Llanelli, a elwir bellach yn Bentre Awel ar gyfer datblygu Hwb Iechyd a Llesiant sy'n cynnwys cyfleusterau iechyd, hamdden, addysg, ymchwil a busnes a chanolfan ynni, ynghyd â'r amgylchfyd cyhoeddus cysylltiedig, mannau agored, tirlunio caled a meddal, draenio, cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr a pharcio, llefydd parcio ceir a seilwaith ategol gan gynnwys mesurau lliniaru a gwella o amgylch yr Hwb Iechyd a Llesiant arfaethedig a pherimedr Afon Dafen Newydd, Llynnoedd Delta ym Mhentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, Tir yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

Mae'n byw yn agos at y datblygiad arfaethedig.

Y Cynghorydd M. Donoghue

Y Cynghorydd N. Evans

Y Cynghorydd J. James

Y Cynghorydd E. Skinner

Y Cynghorydd M. Thomas

3. PL/02652 Dymchwel t? ac adeiladu t? newydd, lle parcio a gwaith cysylltiedig, Bronllys, Heol y Mynydd, Pen-bre, Porth Tywyn, SA16 0AJ.

 

Mae'r asiant (David Darkin o Darkin Architects)

yn gyfaill agos personol.

 

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 622 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00765

Newid defnydd hen stablau i fragdy ar raddfa fach (ôl-weithredol), Ysgubor, Felindre, Llandysul, SA44 5XS.

 

PL/02652

Dymchwel t? ac adeiladu t? newydd, lle parcio a gwaith cysylltiedig, Bronllys, Heol y Mynydd, Pen-bre, Porth Tywyn, SA16 0AJ.

 

[Noder: Wrth ystyried yr eitem hon, roedd y Cynghorwyr M. Thomas, E. Skinner, J. James, N. Evans ac M. Donoghue wedi datgan buddiant gan fod yr asiant, sef David Darkin oDarkin Architects, yn gyfaill agos personol.  Ar y pwynt hwn, gadawodd y Cynghorwyr M. Thomas, E. Skinner, J. James, N. Evans a M. Donoghue y cyfarfod, heb gymryd unrhyw ran bellach yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais].

 

PL/02659

Cadw llety byw y capel presennol fel preswylfa breifat, gan gynnwys ymestyn a newid defnydd llawr presennol y capel i lety preswyl sy'n gysylltiedig â'r prif breswylfa (defnydd dosbarth D1 i C3(A) preswylfa), Capel Stryd yr Undeb, Heol yr Undeb, Caerfyrddin.

 

PL/03777

Cynnig i greu pwll nofio (domestig) a chyfleuster ffitrwydd cysylltiedig, 4 Hendre Road, Llangennech, Llanelli, SA14 8TG.

 

PL/03872

Ceisir cymeradwyo Materion a Gadwyd yn ôl ar gyfer mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa ar gyfer Cam 1 Datblygiad Llesiant a Gwyddor Llanelli, a elwir bellach yn Bentre Awel ar gyfer datblygu Hwb Iechyd a Llesiant sy'n cynnwys cyfleusterau iechyd, hamdden, addysg, ymchwil a busnes a chanolfan ynni, ynghyd â'r amgylchfyd cyhoeddus cysylltiedig, mannau agored, tirlunio caled a meddal, draenio, cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr a pharcio, llefydd parcio ceir a seilwaith ategol gan gynnwys mesurau lliniaru a gwella o amgylch yr Hwb Iechyd a Llesiant arfaethedig a pherimedr Afon Dafen Newydd, Llynnoedd Delta ym Mhentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, Tir yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

 

[Noder bod y Cynghorydd E. Skinner, wrth ystyried yr eitem hon, wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch a ddylai ddatgan buddiant gan ei fod yn byw yn agos at y datblygiad arfaethedig.  Yn dilyn y cyngor hwnnw, datganodd y Cynghorydd E. Skinner fuddiant a gadawodd y cyfarfod, gan gymryd dim rhan bellach yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais].

 

Cafwyd sylw gan aelod lleol yn cefnogi'r cais ar sail yr arfarniad a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.  Yn benodol, croesawodd yr aelod lleol yr anogaeth a roddwyd i gwmnïau a chyflenwyr lleol gymryd rhan yn y prosiect, a allai arwain at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant ychwanegol yn ystod camau adeiladu a gweithredu'r prosiect yn y dyfodol.  At hynny, mynegodd yr aelod lleol gefnogaeth i greu Gwasanaeth Bws Arfordirol newydd a phwysleisiodd y dylid darparu'r seilwaith hwyluso o fewn cam 1 y prosiect.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd wrth i'r adroddiad gael ei ystyried.

 

4.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 4 pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Gwasanaeth Cynllunio Chwarter 4, a oedd yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ac a oedd yn adlewyrchu'r cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.  Darparwyd data cymharol mewn perthynas â 2020/21 hefyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Cenedlaethol 18 a 19 yn ymwneud â chanran yr holl geisiadau cynllunio a benderfynwyd a chanran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd wedi'u rhagori am y tro cyntaf. Cyflawnwyd gwelliant amlwg mewn perfformiad hefyd mewn perthynas â'r Dangosyddion Perfformiad Lleol.

 

Cyfeiriwyd at ddangosyddion perfformiad 13-15 sy'n ymwneud â gorfodi, lle'r oedd aelod yn holi ynghylch effaith materion sy'n ymwneud â ffosffadau ar lefelau perfformiad ac yn ceisio sicrwydd bod gan yr Is-adran ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â nifer y cwynion sy'n gysylltiedig â gorfodi.  Roedd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn falch o adrodd mai Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr awdurdod cynllunio cyntaf yng Nghymru i lansio cyfrifiannell ffosffadau i helpu datblygwyr i gyfrifo effaith eu prosiect ar lefelau ffosffadau lleol, ac roedd hyn wedi arwain at welliant sylweddol o ran mynd i'r afael â materion o'r fath.  At hynny, eglurwyd bod yr Is-adran wedi'i had-drefnu i alluogi aelodaeth lawn o Swyddogion Gorfodi i reoli achosion gorfodi ac y byddai'r sefyllfa'n parhau i gael ei monitro.  Yn hyn o beth, nododd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod Dangosydd Perfformiad 14 (Canran o achosion gorfodi sydd wedi cau yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod) yn dangos cynnydd o bron i 400% mewn achosion sydd wedi cau yng nghyfnod adrodd 2021/22 a bod y gostyngiad o 14% mewn achosion sydd wedi cau "ar darged" o 50% i 36% yn gysylltiedig â'r ffocws ar ddatrys achosion hanesyddol.

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, cytunodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd i gynnal cyfarfod diweddaru mewnol i Aelodau a Swyddogion y Pwyllgor ystyried ymhellach faterion yn ymwneud â gorfodi, gan gynnwys amserlenni a'r weithdrefn ar gyfer ymdrin ag achosion gorfodi.

 

PENDERFYNWYD

 

4.1

Derbyn yr adroddiad.

 

4.2

Trefnu cyfarfod diweddaru mewnol i Aelodau a Swyddogion y Pwyllgor ystyried ymhellach faterion sy'n ymwneud â gorfodi, gan gynnwys amserlenni a'r weithdrefn ar gyfer ymdrin ag achosion gorfodi.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28AIN EBRILL 2022 pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 28 Ebrill 2022 gan eu bod yn gywir.

 

Wrth ddirwyn y cyfarfod i ben, talodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorydd A. Lenny am y cyfraniad a'r arweiniad clodwiw a ddarparwyd yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.