Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 82296527#. (For call charges contact your service provider)
Rhif | eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I. Jones a J.E Williams.
|
|||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 997 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/40464 yn amodol ar yr amodau yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio ac amod ychwanegol sef bod y coed sy'n ffinio â'r eiddo yn cael eu diogelu rhag cael eu cwympo.
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|
|||||||||||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
4.2 Cais cynllunio DNS/00427– DNS (Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol) – Parc Solar Arfaethedig (DNS/3227364) gan gynnwys llwybr cebl arfaethedig ar dir i'r dwyrain o'r A48 a thir i'r de-orllewin o D?-croes, gerllaw Fferm Solar Clawdd Ddu, T?-croes, Rhydaman, SA18 3RE
[Sylwer: Am 11:45am ac wrth ystyried yr eitem hon, cafodd y Pwyllgor ei ohirio am 15 munud oherwydd materion technegol.]
Hysbyswyd y Pwyllgor, yn dilyn cyflwyno dau Ddatblygiad Cenedlaethol ei Arwyddocâd (DNS) i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy megis ynni'r haul yn Sir Gaerfyrddin yn Llangennech a ger T?-croes, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor, fel ymgynghorydd, greu Adroddiad Effaith Leol (LIR) yn tynnu sylw at effeithiau lleol posibl y byddai angen i Lywodraeth Cymru eu hasesu wrth iddi ystyried y ceisiadau.
Er y byddai'r Adroddiad Effaith Leol yn cael ei gwblhau gan y Pennaeth Cynllunio, yr oedd angen awdurdod dirprwyedig ar ei gyfer, hysbyswyd y Pwyllgor y gallai wneud ei sylwadau ei hun i Lywodraeth Cymru. Byddai'r sylwadau hynny’n cael eu nodi yng nghofnodion y cyfarfod hwn cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Nodwyd bod y cais presennol yn ymwneud â safle T?-croes yn unig a bod safle Llangennech wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020.
Yn sgil hynny, derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad sleidiau, gan gynnwys lluniau drôn o'r lleoliad y manylir arno yn y cais, cyfeirnod DNS/00427.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020, gan eu bod yn gywir.
|