Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 28ain Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr T.A.J. Davies ac S. Najmi.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad oedd Mr Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd salwch ac ar ran y Pwyllgor, dymunodd wellhad buan i Mr Morgans.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-

 

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Cyng B. Thomas

7 – Cynnig i Newid Natur y Ddarpariaeth yn Ysgol y Felin

 

Mae'n Llywodraethwyr yn Ysgol y Felin a benodir gan yr AALl

Mr A. Enoch

6 – Cynnig i Newid Natur y Ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Model

 

Mae'n Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Model

Y Parch D. Richards

6 – Cynnig i Newid Natur y Ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Model

 

Mae hi'n Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Model a benodir gan yr Eglwys yng Nghymru

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2021/22-2023/24. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2021/22 i 2023/24 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/2022 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2021 a 2023/2024.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y mis i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, ymgysylltu ag aelodau'r cyngor a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd y setliad terfynol i fod i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2021.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod Covid-19 wedi arwain nid yn unig at gostau ychwanegol na welwyd eu tebyg o'r blaen ond hefyd at ostyngiad mewn incwm pwysig, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau symud. Rhagwelwyd y byddai'r cyfuniad o wariant ychwanegol a cholli incwm yn cael effaith o £30 miliwn ar gyllidebau Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae awdurdodau wedi cyflwyno hawliadau misol, sydd wedi'u hasesu ac i raddau helaeth iawn, wedi'u had-dalu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, nid yw cyllid parhaus Llywodraeth Cymru fel hyn wedi'i ymrwymo ar hyn o bryd, yn bennaf gan nad oes gan Lywodraeth Cymru ei hun gyllid wedi'i gadarnhau eto o ganlyniad i wariant San Steffan sy'n gysylltiedig â Covid-19.

 

Nododd yr adroddiad y prif resymau dros orwariant adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant a oedd yn deillio'n bennaf o'r cynnydd a ragwelir mewn balansau diffyg mewn ysgolion.

 

Er bod y Strategaeth yn cynnig cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi argymell y dylid lleihau'r cynnydd ar gyfer 2021/22 i 4.48%.  Byddai'r Cyngor yn ystyried yr argymhelliad hwn yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2021 wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.  Yn ogystal, byddai ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a byddai unrhyw ddiwygiadau y mae'n ofynnol eu hystyried mewn perthynas â Strategaeth y Gyllideb sy'n deillio o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 3 Mawrth.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

 

Er bod cynigion y gyllideb yn rhagdybio y byddai'r holl gynigion arbedion yn cael eu cyflawni'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GWERTHUSIAD O SUT YR YMATEBODD ADRAN ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT SIR GAERFYRDDIN I COVID-19. pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o sut y mae'r Awdurdod Lleol a'r rhanbarth wedi gweithio gydag ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i hyrwyddo dysgu a chefnogi disgyblion sy'n agored i niwed yn ystod cyfnod COVID-19 rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2020 h.y. y cyfnod ar ôl y cyfyngiadau symud cychwynnol wrth i ysgolion ailagor.

Bu'n rhaid i swyddogion yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant addasu'n sylweddol y ffordd y maent yn gweithio'n draddodiadol er mwyn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi ysgolion a gwasanaethau fel bod y plant a'r bobl ifanc yn ein gofal yn gallu cael mynediad at yr holl gymorth ac ymyriadau yr oedd eu hangen arnynt. Roedd yn gyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen ac roedd yn rhaid i'r Cyfarwyddwr, y Tîm Rheoli Adrannol a'r Rheolwyr Gwasanaeth wneud penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael bryd hynny.

Yn ystod tymor yr Hydref 2020 cynhaliodd ESTYN arolwg thematig i fyfyrio ar ymagwedd Awdurdodau Lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion tuag at addysgu, dysgu a llesiant disgyblion.  Byddai'r adolygiad yn rhoi adroddiad i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol unigol a chonsortia rhanbarthol sy'n adlewyrchu eu gwaith a'u dulliau gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud ac ar ddechrau'r cyfnod pan oedd ysgolion yn dechrau gweithredu'n llawn unwaith eto. Bydd yr adroddiadau'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall y cryfderau a'r gwersi eang a ddysgwyd yn y ffordd yr oedd Awdurdodau Lleol a rhanbarthau'n gweithredu yn ystod y cyfnod hwn.  Byddai hefyd yn nodi sut y defnyddiwyd y gwersi a ddysgwyd o'r cyfnod cyn yr haf i gefnogi'r gwaith o gynllunio ar gyfer dulliau dysgu cyfunol a chymorth i ddysgwyr sy'n agored i niwed yn ystod tymor yr Hydref. Byddai hyn hefyd yn galluogi dysgu gwersi o'r arferion mwyaf effeithiol mewn perthynas â chapasiti, cydweithredu, cynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoli newid a fydd yn cefnogi diwygiadau arfaethedig ym maes addysg a llywodraeth leol dros y blynyddoedd nesaf.

Roedd canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn gadarnhaol, gan fyfyrio ar waith partneriaeth effeithiol rhwng pawb sy'n ymwneud â'r system addysg. Fodd bynnag, roedd angen ystyried rhai meysydd ymhellach a byddent yn cael eu cynnwys yn y Cynllunio Busnes Adrannol ar gyfer 2021/22.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mynegwyd pryder yngl?n â'r ysgolion hynny sy'n cael eu monitro gan Estyn a gofynnwyd i'r swyddogion a ddylid gohirio hyn nes bod ysgolion ar agor fel arfer eto.  Dywedodd y Prif Ymgynghorydd Cymorth Addysgol wrth y Pwyllgor fod amrywiaeth o arferion gan Estyn yn hyn o beth ac maent hefyd yn cynnal galwadau bugeiliol ag ysgolion i sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd gyda'u plant a'u staff yn ôl yr angen.  Ar gyfer ysgolion sy'n cael eu hadolygu gan Estyn, cynhelir cyfarfod yr wythnos nesaf pan fydd cynnydd ysgolion yn cael ei drafod felly bydd cynnydd yn cael ei drafod gan swyddogion yn hytrach na rhoi pwysau ar ysgolion i lunio adroddiadau.  Cafwyd adborth cadarnhaol mewn perthynas â'r galwadau bugeiliol sy'n cael eu cynnal gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL GYNRADD WIRFODDOL A GYNORTHWYIR Y MODEL. pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Gan fod Mr A. Enoch a'r Parch D. Richards wedi datgan buddiant rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, bu iddynt adael y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model.

 

Yn unol â Chynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru, lansiodd yr Awdurdod Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a'i weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog. Er mwyn cyflawni hyn bydd yr Awdurdod yn sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â’r gallu i ddefnyddio’r ieithoedd yn hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

Gan gofio hyn, mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i ddarparu'r addysg a'r cyfleoedd gorau posibl i'w gymunedau ac mae'n credu y gellir cyflawni hyn drwy amcanion penodol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwbl gefnogol i'r nod bod yr holl ddisgyblion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 a bydd yn darparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cyfleoedd dysgu o ansawdd da ar gyfer holl blant, pobl ifanc ac oedolion Sir Gaerfyrddin, a thrwy
hynny’n eu galluogi i wireddu eu llawn botensial fel dysgwyr gydol oes yng nghyd-destun natur ddwyieithog unigryw’r Sir.

 

Er mwyn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol o ran symud ysgolion y sir ar hyd continwwm y Gymraeg, cynygir nodi natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir y Model.  Cynigir y bydd natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022. Bydd hyn ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen.  Ni fydd yn effeithio ar ddisgyblion presennol sy'n mynychu'r ysgol.

 

Oherwydd y bydd dysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, gydag amser byddai hyn yn golygu y bydd angen sefydlu Ffrwd Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Pwysleisiwyd pwysigrwydd mynd â phobl gyda ni os ydym am i'r continwwm iaith weithio a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd modd ymestyn y cyfnod ymgynghori yng ngoleuni'r pryderon a fynegwyd.  Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd yn bosibl ymgynghori heb gymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol a cheisiodd yr adroddiad hwn gymeradwyaeth y Pwyllgor i argymell i'r Bwrdd Gweithredol y dylid dechrau ar broses ymgynghori ffurfiol;

·       Cyfeiriwyd at yr angen i ymgynghori â rhieni a'u cynnwys yn gynnar yn y broses;

·       O ran y rhieni hynny y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn effeithio arnynt gyntaf, gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd cysylltu â rhieni plant sy'n mynychu meithrinfeydd lle mae plant yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN. pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin.

 

Yn unol â Chynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru, lansiodd yr Awdurdod Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a'i weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog. Er mwyn cyflawni hyn bydd yr Awdurdod yn sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â’r gallu i ddefnyddio’r ieithoedd yn hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

Gan gofio hyn, mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i ddarparu'r addysg a'r cyfleoedd gorau posibl i'w gymunedau ac mae'n credu y gellir cyflawni hyn drwy amcanion penodol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwbl gefnogol i'r nod bod yr holl ddisgyblion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 a bydd yn darparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cyfleoedd dysgu o ansawdd da ar gyfer holl blant, pobl ifanc ac oedolion Sir Gaerfyrddin, a thrwy
hynny’n eu galluogi i wireddu eu llawn botensial fel dysgwyr gydol oes yng nghyd-destun natur ddwyieithog unigryw’r Sir.

 

Er mwyn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a pholisïau cenedlaethol o ran symud ysgolion y sir ar hyd continwwm y Gymraeg, cynigir newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin.  Cynigir y bydd natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn newid i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022. Bydd hyn ond yn effeithio ar ddisgyblion sy'n dechrau yn y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol o fis Medi 2022 ymlaen.  Ni fydd yn effeithio ar ddisgyblion presennol sy'n mynychu'r ysgol.

 

Wrth i ddysgwyr gael addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen bydd yn rhaid monitro ac adolygu gallu'r ffrwd Gymraeg yn CA2 i ymdopi â'r galw cynyddol posibl am leoedd yn unol â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1      bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Felin, fel y manylir arno yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo;

7.2       argymell i'r Bwrdd Gweithredol y dylid dechrau ar broses ymgynghori ffurfiol.

 

 

8.

ADRODDIAD TERFYNOL Y GRŴP GORCHWYL A GORFFEN - FFORMIWLA CYLLIDO ADY pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb terfynol o waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i gynnal adolygiad o'r model cyllido Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion.  Mae'r cymorth ariannol ar gyfer ADY wedi profi llawer o bwysau a straen ers peth amser oherwydd y galw cynyddol ar y lefel bresennol o adnoddau sydd ar gael. Roedd y Pwyllgor hefyd yn ymwybodol o'r newidiadau allweddol sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn a fydd yn arwain at ffordd newydd o ddarparu cymorth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Sefydlwyd yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen i archwilio'r fformiwla cyllido bresennol ac i ystyried modelau amgen posibl i fodloni gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).  Mae'r Ddeddf yn pwysleisio'r angen am broses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol. Roedd yr angen sylfaenol am fodel cyllido mwy ymatebol yn ystyriaeth allweddol.

 

Manylwyd ar nodau ac amcanion allweddol yr adolygiad mewn dogfen gynllunio a chwmpasu a gymeradwywyd yn y cyfarfod ar 4 Gorffennaf 2019 pan benderfynwyd sefydlu'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ynghyd â'r aelodaeth.

 

Fel rhan o'i ystyriaethau, ystyriodd y gr?p ystod eang o wybodaeth ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a llafar a oedd yn cynnwys modelau cyllido presennol a pharamedrau newydd posibl ar gyfer cyllido. Nododd y gr?p fod angen dirprwyo mwy o adnoddau ADY i ategu'r canlynol:-

 

·         cryfhau darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi'i thargedu ar gyfer plant ag ADY;

·         cefnogi ysgolion i sefydlu ymyrraeth gynnar a dulliau gweithredu fesul cam mewn modd amserol;

·         galluogi ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau statudol i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â Darpariaeth Dysgu Ychwanegol;

·         meithrin hyder rhieni/gofalwyr y gellir diwallu anghenion yn brydlon heb broses neu anghydfod diangen;

·         sicrhau adnoddau'n brydlon ar gyfer disgyblion sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy;

·         lleihau'r gofyniad am brosesau asesu a datganiadau statudol i gyfeirio cyllid ar gyfer disgyblion ADY â nifer fach o achosion o angen mawr;

·         cronfa ganolog ar gyfer anghenion meddygol cymhleth;

·         rhoi hyblygrwydd ariannol i ysgolion, galluogi ysgolion i gael gafael ar gymorth allanol amserol i blant, sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddiwallu anghenion plant, a chynnwys ysgolion yn well mewn penderfyniadau sy'n ymwneud ag ADY.

 

Roedd y Gr?p yn ystyried model cyllido dirprwyedig presennol y Cyngor. I'r rhan fwyaf o blant mewn ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys y rhai ag ADY ac anableddau, dyrennir cyllid iddynt drwy gyllideb yr ysgol ac fe'i gelwir yn gyllid fesul disgybl.  Mae'r cyllid hwn yn cefnogi'r holl ddysgu ac fe'i defnyddir ar gyfer cyflogau staff, gan gynnwys y Cydlynwyr ADY, cyfleusterau ac adnoddau ADY.  Dylid gwario canran o gyfanswm y cyllid fesul disgybl a dderbynnir gan ysgol ar ddarparu ar gyfer disgyblion ag ADY.  Yn Sir Gaerfyrddin, disgwylir i ysgolion ddyrannu o leiaf 5% o'u cyllid fesul disgybl i'w cyllideb ADY.

 

Ystyriodd cyfres o weithdai gyda phenaethiaid amrywiol fodelau cyllido.  Cytunwyd yn ystod y gweithdai hyn bod angen i unrhyw fecanwaith cyllido fformiwla  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD YNGHYLCH PEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

  • Cynnig i adleoli Ysgol Dewi Sant
  • Strategaeth Gorfforaethol
  • Cynlluniau Busnes Adrannol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

 

11.

LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 6 IONAWR 2021 YN GOFNOD CYWIR. pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021 yn gofnod cywir.