Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Davies a R. James
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
YMGYSYLLTU YSGOLION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Yn unol â'r Rhaglen Ymgysylltu ag Ysgolion y cytunwyd arni gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2021, cyflwynwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn canolbwyntio ar y broses adfer wrth i ysgolion ddod allan o bandemig Covid-19.
Esboniwyd i'r Aelodau fod strwythur amgen, ar ffurf sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein, wedi'i gyflwyno i gymryd lle ymweliadau ysgol dros dro yn ystod pandemig parhaus Covid-19, a fyddai'n galluogi'r Pwyllgor i barhau â'i swyddogaeth gwerthuso a gwella ysgolion.
Ystyriodd y Pwyllgor y cymorth ariannol a ddyrannwyd i ysgolion yn ystod 2021/22 drwy'r Rhaglen Dysgu Carlam, a oedd yn cynnwys Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar. Maes gorchwyl y Pwyllgor oedd canolbwyntio ar ddefnyddio'r cyllid ychwanegol a ddarperir i ysgolion i ddiwallu anghenion a gofynion y Grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ym meysydd Dysgu Carlam, Carfanau Blaenoriaeth ar gyfer Cymorth a Diwygio'r Cwricwlwm.
Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan gynrychiolwyr yr ysgol a oedd yn canolbwyntio ar y modd yr oeddent wedi mynd i'r afael â'r heriau a achoswyd gan bandemig Covid-19, yr effaith ar ddisgyblion a staff a'r heriau hirdymor canfyddedig sydd i ddod. Roedd trosolwg o sut yr oedd yr ysgolion wedi defnyddio'r arian ychwanegol a dderbyniwyd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i'r aelodau o effaith cymorth yr Awdurdod Lleol ar ddarpariaeth ar draws system yr ysgolion. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn y cyflwyniad cynnwys y canlynol:
|
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2022/23 i 2024/25 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/2022 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25.
Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ar 21 Rhagfyr 2021 ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf.
Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2022 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 9.2% (£26.335 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Felly, roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £311.957 miliwn yn 2022/23 a oedd yn cynnwys cyflog athrawon ac yn cynnwys £302k mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Er y mynegwyd pryderon bod llawer o grantiau gwasanaethau penodol yn aros ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn parhau ar gyfer 2022/23, ac y byddai'r grant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'r grant Datblygu Disgyblion yn cael eu cynyddu.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-
· Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. · Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. · Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant
Dywedwyd bod y setliad terfynol i fod i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mawrth 2022 a byddai unrhyw ddiwygiadau y mae'n ofynnol eu hystyried mewn perthynas â Strategaeth y Gyllideb sy'n deillio o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod a drefnwyd ar gyfer 2 Mawrth, 2022.
Roedd swyddogion wedi ymdrin â nifer o ymholiadau ac arsylwadau gan aelodau, fel a ganlyn:
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer yr ysgolion sy'n manteisio ar y gronfa Galedi, eglurodd Swyddogion yn briodol y paramedrau o ran ysgolion yn cyflwyno cais am y cyllid. Esboniwyd i'r Aelodau y byddai costau cyffredin fel arfer yn cael eu talu o gyllidebau adrannol corfforaethol. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES YR ADRAN ADDYSG A PHLANT 2022/23 - DRAFFT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r cynllun busnes drafft ar gyfer yr adran Addysg a Phlant a oedd â'r nod o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol. Aeth y Pwyllgor ati i ystyried blaenoriaethau'r adran ar gyfer 2022-23 mewn perthynas â'r meysydd canlynol sydd o fewn ei faes gorchwyl:
Cyfeiriwyd at yr arferion effeithiol a'r methodolegau newydd a ddatblygwyd o dan gyfyngiadau Covid-19; lle cydnabuwyd y byddai llawer o ddulliau a mentrau yn rhan o arferion gwaith yn y dyfodol.
Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i'r Aelodau fod Adroddiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen 208/19, a oedd yn cynnwys argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad o Bolisi Derbyniadau Ysgolion Sir Gaerfyrddin, i'w ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022. Nododd y Pwyllgor y byddai'r cynllun busnes yn cael ei ddiweddaru'n briodol i adlewyrchu penderfyniadau'r Cabinet.
Cyfeiriodd y Pwyllgor at y fformiwla ariannu ar gyfer ADY a gofynnodd am ddiweddariad yn hyn o beth. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y cytunwyd ar gyfeiriad clir ymhlith ysgolion uwchradd, ond, oherwydd yr amrywiadau o ran maint ymhlith ysgolion cynradd, penderfynwyd y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar sail blaenoriaeth fel rhan o'r gwariant twf. Eglurwyd bod y fformiwla ariannu cyffredinol wedi cael ei hadolygu i fynd i'r afael â'r pwysau a nodwyd gan ysgolion. Yn dilyn cyfnod ymgynghori sydd ar fin digwydd, rhagwelwyd y byddai'r fformiwla ariannu ddiwygiedig yn cael ei roi ar waith o fis Mawrth 2022.
Mynegwyd pryderon bod adborth wedi dod i law gan ysgol a oedd wedi cael anawsterau wrth gysylltu â'r Cyngor i roi gwybod am faterion cynnal a chadw a'u datrys. Rhoddwyd esboniad i'r Pwyllgor o'r broses i'w dilyn yn hyn o beth a rhoddwyd sicrwydd bod gweithdrefn un dudalen syml yn cael ei datblygu ar gyfer ysgolion ar hyn o bryd.
Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwasanaethau cerddoriaeth. Eglurodd Pennaeth Dros Dro Effeithiolrwydd Ysgolion fod cyfleoedd dysgu cyfunol wedi'u darparu i ysgolion yn ystod pandemig Covid-19 ar sail blaenoriaeth, yn ogystal â chymorth Cwricwlwm Cyfnod Allweddol 2. Roedd Aelodau'n falch o gael nodi bod cynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ar 16 Mawrth, 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai Swyddog Arweiniol newydd, sef Mr Ian Altman, yn cael ei wahodd i fynychu'r cyfarfod nesaf i gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch y Model Cydweithredu Rhanbarthol newydd.
Wrth adolygu Blaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2021/22, nodwyd y gallai'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 26 Ebrill 2022 gael ei ohirio yn unol â chanllawiau cyn yr etholiad, a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau maes o law.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23 RHAGFYR 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Rhagfyr, 2021 gan eu bod yn gywir.
|