Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Davies a R. James.   Hefyd, dywedodd y Cadeirydd na fyddai'r Cynghorydd G. Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phlant, yn bresennol yn y cyfarfod.

</AI1>

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynychwr

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

E. Schiavone

 

5

Mae aelod o'r teulu yn gweithio i PARTNERIAETH.

 

V. Kenny

6

Mae ei merch yn gweithio yn yr is-adran Gwasanaethau Plant.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.

4.

SESIYNAU YMGYSYLLTU YSGOLION pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Rhaglen Ymgysylltu ag Ysgolion y cytunwyd arni gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2021, cyflwynwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn nodi pa mor barod oedd yr ysgolion am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ac am roi'r ddeddf honno ar waith.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i baratoi ar gyfer cyflwyno'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Yn hyn o beth, darparwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r gwaith ymgysylltu ag ysgolion hyd yn hyn er mwyn hwyluso'r broses o gyflwyno system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr yn Sir Gaerfyrddin, a fyddai'n sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi'n gynnar a'u diwallu'n gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.

 

Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y cynrychiolwyr o'r ysgol a oedd yn canolbwyntio ar y broses o symud yr ysgol i'r system newydd. Nod y system hon oedd darparu strwythur addysgol teg a chynhwysol a sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc ag ADY. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

  • Roedd y system ADY yn ceisio trawsnewid y dulliau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol rhwng 0 a 25 oed.

 

  • Roedd yr egwyddorion trawsbynciol ar gyfer diwygio addysg sy'n deillio o ganllawiau a rheoliadau cenedlaethol yn galluogi cyfleoedd i newid a oedd yn ceisio darparu:

·       cydraddoldeb mynediad;

·       dysgu 'sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn' wedi'i bersonoli;

·       ffocws ar lesiant, drwy addysgu cytbwys a strwythuredig o ansawdd uchel ac asesu ystyrlon, gan symud i ffwrdd o ystadegau;

·       ethos ysgol cynhwysol i sicrhau amgylchedd dysgu diogel, cefnogol ac ysgogol;

·       diwylliant o gydweithio.

 

  • Byddai'r system ADY yn cael ei hategu gan God ADY gorfodol a fyddai'n rhoi barn, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses o gynllunio'r cymorth sydd ei angen, a fyddai wedyn yn eu galluogi i ddysgu'n effeithiol a chyflawni eu potensial llawn.

 

  • Byddai Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Unigol yn raddol a fyddai'n nodi disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc.

 

  • Ystyriwyd bod cysyniad addysgu cyffredinol da, yn ogystal ag ymyriadau pwrpasol, a'r angen i groesawu'r cwricwlwm a strategaethau newydd i gefnogi pob disgybl o'r pwys mwyaf i fodloni gofynion y Ddeddf.

 

  • Byddai'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn chwarae rhan strategol allweddol ym mhob ysgol.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch rôl rhieni a gwarcheidwaid wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol, eglurodd y Cynrychiolwyr o'r Ysgol y dulliau cyfathrebu a oedd yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r system newydd.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu rhoi wrth wraidd y broses, drwy gyfathrebu'n effeithiol ac yn rheolaidd â'r ysgol, er mwyn sicrhau darpariaethau ac addasiadau priodol i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.  Sicrhawyd y Pwyllgor wrth nodi bod y broses yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DIWEDDARIAD AR PARTNERIAETH pdf eicon PDF 675 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried].

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried a oedd yn nodi'r trefniadau cydweithredol ar gyfer sefydlu 'PARTNERIAETH', sef consortiwm rhanbarthol i hyrwyddo rhagoriaeth, a fyddai'n gwasanaethu'r ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. 

 

Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Swyddog Arweiniol PARTNERIAETH, a oedd yn manylu ar y strwythur staffio, y blaenoriaethau, y swyddogaethau a'r dulliau ariannu sydd eu hangen i gyflawni ei nodau a'i amcanion.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod y consortiwm rhanbarthol yn seiliedig ar weledigaeth o weithio mewn partneriaeth ar ran yr Awdurdodau Lleol perthnasol ac a oedd yn cyfrannu at wella perfformiad yr ysgolion yn y consortiwm ac addysg plant a phobl ifanc.   Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y cynllun busnes ar gyfer 2022/23, a oedd yn dangos sut y byddai PARTNERIAETH yn cefnogi blaenoriaethau pob Awdurdod Lleol, wedi'i hwyluso gan Uwch-ymgynghorwyr Strategol penodedig, a hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Mynegwyd pryder mai ychydig o effaith gadarnhaol y byddai'r consortiwmrhanbarthol newydd yn ei chael ar ysgolion o bosib ac felly na fyddai'n gwella perfformiad y system 'ERW' flaenorol, yn enwedig yng ngoleuni'r strwythur staffio llai a oedd yn cyfateb i 26.8 o swyddi llawn amser. 

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod consortiwmPARTNERIAETH yn canolbwyntio ar ddull partneriaeth cydlynol, â dulliau cyfathrebu a monitro perfformiad cryf i fynd i'r afael ag anghenion ysgolion.  Er enghraifft, roedd rhaglen arweinyddiaeth yn cael ei datblygu yn unol â maes blaenoriaeth yr Awdurdod o ran sgiliau arwain.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Swyddog Arweiniol PARTNERIAETH y byddai gwaith craffu rheolaidd yn cael ei wneud i fonitro ac adolygu'rmodd y caiff nodau ac amcanion y consortiwm eu cyflawni.  Byddai pwyslais yn cael ei roi ar gydweithio fel cryfder allweddol, lle byddai'r system yn cael ei datblygu a'i strwythuro ar sail partneriaeth.

 

Cyfeiriwyd at y strwythur staffio a gofynnodd aelod a oedd angen rhagor o adnoddau i ddarparu cymorth o ansawdd tebyg i'r gwasanaeth rhagorol a ddarparwyd gan yr Ymgynghorwyr Her.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y strwythur staffio yn cael ei ystyried yn briodol i fodloni nodau ac amcanion y consortiwm ac y byddai'n cael ei adolygu o bryd i'w gilydd yn unol â phrotocolau cynllunio olyniaeth i sicrhau bod sgiliau gweithwyr yn mynd i'r afael â'r gofynion o ran cymorth. 

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch dyblygu gwaith, esboniwyd bod cyd-greu, gyda llinellau cyfathrebu clir, yn brif flaenoriaeth, a fyddai'n golygu bod modd defnyddio sgiliau a nodwyd o fewn y consortiwmi gynnig gwell darpariaeth i ysgolion.

 

Tynnodd aelod sylw at y ffaith y gallai'r gwahanol flaenoriaethau ar draws yr Awdurdodau yn y consortiwmolygu bod rhai Awdurdodau yn defnyddio mwy o adnoddau a chymorth nag eraill a holodd sut y byddai'r anghydbwysedd hwn yn cael ei unioni.  Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydnabod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYSYLLTIADAU AC ATGYFEIRIADAU I'R GWASANAETHAU PLANT pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod mewn perthynas â'r cysylltiadau a'r atgyfeiriadau, y pwysau a'r gofynion yn yr is-adran Gwasanaethau Plant.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf 2021 ac felly ystyriwyd ei bod yn amserol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y cynnydd yn y llwyth gwaith yn yr is-adran; yr heriau sy'n cael eu hwynebu a'r angen posibl am adnoddau ychwanegol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar faes gorchwyl a strwythur yr is-adran Gwasanaethau Plant ac yn nodi gwybodaeth berthnasol i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r lefelau staffio a'r prosesau a ddilynir gan y Tîm Cyfeirio Canolog, y Tîm Asesu a'r Timau Gofal Plant Tymor Hir, i ddelio ag achosion.  Hefyd, roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y gwasanaethau ataliol a ddarperir gan yr is-adran, gan gynnwys mentrau Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf a chyfeiriodd hefyd at strwythur newydd a gyflwynwyd mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd mewn cysylltiadau ers dechrau'r pandemig, er y nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi gostwng yn ystod 2021/22 a allai fod wedi'u priodoli i'r ffaith bod y Gwasanaethau Ataliol wedi ailddechrau darparu cymorth wyneb yn wyneb wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr argyfwng recriwtio cenedlaethol parhaus a chodwyd pryderon ynghylch y risgiau i'r Awdurdod yn sgil yr anawsterau i benodi gweithwyr cymdeithasol.  Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth grynodeb i aelodau o'r amrywiaeth o fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i liniaru'r risgiau hynny, gan gynnwys adolygiad parhaus a oedd yn ceisio gwella cyflog gweithwyr cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y gyfradd gyflog yn unol ag Awdurdodau eraill, a recriwtio gweithwyr cymdeithasol â chymwysterau addas o wledydd tramor.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at yr amodau gwaith ffafriol yn yr Awdurdod, felly roedd yn braf nodi nad oedd cadw gweithwyr yn faes sy'n peri pryder.  Hefyd, cafodd y gwasanaeth o ansawdd uchel a gynhelir gan yr is-adran, sy'n gorfod delio â materion cymhleth, ei ganmol gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ac aelodau'r Pwyllgor.

 

HYD Y CYFARFOD

Wrth roi ystyriaeth i'r eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - Hyd Cyfarfod - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly:

 

PENDERFYNWYD atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

Mynegwyd pryder nad oedd pob plentyn sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref wedi cael ymweliad cartref blynyddol statudol gan yr Awdurdod.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod arian ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n mynd i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 IONAWR, 2022 pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 yn gofnod cywir. 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau