Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Mercher, 6ed Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a D. Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol na unrhyw chwipiau pleidiau.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

LLESIANT A IECHYD MEDDWL STAFF A DISGYBLION - DIWEDDARIAD IONAWR 2021. pdf eicon PDF 518 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant ac iechyd meddwl staff a disgyblion o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cymorth ychwanegol a'r mesurau ataliol a roddwyd ar waith gan yr Adran Addysg a Phlant. Er ei fod yn canolbwyntio ar lesiant disgyblion a staff ysgolion, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at lesiant pobl ifanc eraill nad ydynt yn yr ysgol o bosibl ond sydd dal yn cael eu cynnwys o fewn maes gorchwyl yr Adran e.e. oedolion ifanc yn y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         O ran y cyfeiriad yn yr adroddiad bod costau'n cael eu hysgwyddo gan yr Adran Addysg, gofynnwyd i'r swyddogion a dderbynnir unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Adran yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, os yw'r swyddogion yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol, yn ychwanegol at yr hyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yna'r Awdurdod Addysg Lleol sy'n gyfrifol am y gost honno. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y byddai unrhyw gymorth gan lywodraeth ganolog yn cael ei groesawu, fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gyhoeddiad hyd yma;

·         O ran nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n aros am gwnsela, gofynnwyd i'r swyddogion faint sydd ar y rhestr aros ac a oedd y nifer hwnnw wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod pob cais am gymorth yn cael ei flaenoriaethu ac y bydd unrhyw un sy'n dioddef lefel uchel o drallod yn cael ei weld yn gyntaf.  Roedd swyddogion yn gwneud popeth posibl i leihau'r rhestr aros, fodd bynnag, nid argaeledd adnoddau oedd yr unig broblem gan fod hygyrchedd ac argaeledd y plant hefyd yn broblemau ar hyn o bryd. Er bod cymorth o bell ar gael, mae'n well gan rai plant aros nes bod sesiynau wyneb yn wyneb ar gael eto ac er bod hynny'n ddealladwy, mae hyn yn cael effaith ar y rhestr aros;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod tair haen o blant yn achos dysgu o bell - y rhai sy'n hawdd eu cyrraedd, y rhai â heriau a'r rhai sydd â mwy o heriau a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor fodlon oeddent eu bod yn gallu cyrraedd y plant hynny yn haenau 2 a 3. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth y Pwyllgor fod 95% o'r tîm bugeiliol yn treulio'u hamser ar 5% o'r disgyblion a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith cymorth yn ein hysgolion mor gryf ag y gall fod;

·         Mynegwyd pryder y gallai rhai plant syrthio drwy'r rhwyd ac na fyddent yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Atgoffwyd y Pwyllgor o bwysigrwydd cael perthynas dda rhwng yr ysgol a'r rhiant o ran dysgu o bell. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor y gofynnwyd i ysgolion ar ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf weithio gyda'r swyddogion i gategoreiddio pob disgybl yn goch,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

HERIAU ARIANNOL SY'N WYNEBU YSGOLION. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu'r heriau ariannol y mae ysgolion cynradd yn eu hwynebu. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y dyraniad cyllideb presennol  o ran Ariannu Teg i ysgolion a'r ymdrechion i ddosbarthu'n deg i'r ystod o ysgolion cynradd i ddiwallu anghenion addysgol pob dysgwr yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu rhai dylanwadau cyd-destunol allweddol sy'n effeithio ar y model ariannu mewn ysgolion ar hyn o bryd.

 

Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i bob plentyn a pherson ifanc ac ni ddylai ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, ar eich cefndir cymdeithasol nac ar ba iaith rydych chi'n dysgu ynddi. Addysg dda yw un o'r conglfeini pwysicaf y gall plentyn eu cael.  Mae’n hanfodol bod digon o gyllid teg ar gael i sicrhau y gellir darparu’r addysg y mae ein plant a’n pobl ifanc yn ei haeddu mewn modd effeithiol a chyson.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd unrhyw ffigurau ar gael mewn perthynas â chyfanswm y gwariant ar addysg gan Awdurdodau Lleol. Eglurodd Cyfrifydd y Gr?p fod y data hwn yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn a bod adroddiad dadansoddi ar gael. Ychwanegodd ei bod yn anodd cymharu data oherwydd bod pob Cyfarwyddiaeth Addysg ychydig yn wahanol ym mhob Awdurdod gan fod rhai yn cynnwys llyfrgelloedd, ac mewn rhai awdurdodau mae gwasanaethau ADY yn cael eu dirprwyo ond mewn rhai eraill fe'u cedwir yn ganolog;

·         Gofynnwyd iddi am ddadansoddiad o'r tair elfen - dysgwyr, amddifadedd a theneurwydd, a dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth hon drwy e-bost ar ôl y cyfarfod;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at yr heriau sylweddol yn ein hysgolion a nodwyd na allwn barhau fel yr ydym a theimlwyd ei bod bellach yn bryd cynnal trafodaethau ystyrlon a phwyllog am hyn. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant ei bod yn bryder bod rhai o'n hysgolion yn hen, mewn cyflwr gwael ac nad ydynt yn addas i'r diben, a dyna pam yr oedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg mor bwysig;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg a hefyd ynghylch y ffordd y mae rhai ysgolion wedi ymdopi'n dda dros y flwyddyn ddiwethaf ond mae rhai wedi gwaethygu'n sylweddol. Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod capasiti yn broblem a phan gaiff prosiect ei gynnwys yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, mae hynny oherwydd materion capasiti. Ychwanegodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gynllunio lleoedd mewn ysgolion ac felly roedd yn hanfodol cyflenwi'r galw.  Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu pob ysgol sydd â dros 10% o leoedd gwag;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Pwyllgor wedi bod yn pryderu am lefel y diffygion mewn ysgolion ac roedd yr adroddiad yn ddefnyddiol o ran dangos y rhesymau a'r manylion y tu ôl i hyn. Gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl derbyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD TERFYNOL Y GRŴP GORCHWYL A GORFFEN - FFORMIWLA ARIANNU ADY. pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod yn cynnig gohirio rhoi ystyriaeth i'r adroddiad hwn tan y cyfarfod nesaf er mwyn gallu cynnwys gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried yr adroddiad tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a nodwyd y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf:-

 

  • Cymorth addysg i ddysgwyr sy'n agored i niwed

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

 

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 23AIN TACHWEDD, 2020. pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 yn gywir.