Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Jones ac E. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

LLES: GWASANAETHAU ADDYSG A PHLANT. pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r ffyrdd helaeth y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn cefnogi ein hysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau arbenigol o ran llesiant dysgwyr a staff.

 

Mae'r adran yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ysgolion yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, teuluoedd a staff, wrth iddi barhau i fynd i'r afael â phandemig COVID.  Mae'r heriau llesiant sy'n wynebu ysgolion yn fwyfwy amlwg a chymhleth, gan ychwanegu pwysau ychwanegol ar staffio.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi:-

 

-       yr hyn sy'n hysbys am lesiant staff a disgyblion ar hyn o bryd;

-       sut mae'r Tîm Gwella Ysgolion yn cefnogi llesiant ei staff a'i ddysgwyr;

-       mentrau cymorth pellach;

-       y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant a'r Tîm Iechyd Emosiynol;

-       cymorth corfforaethol a chymorth arall sydd ar gael.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am awyru a monitro CO2 mewn ysgolion a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau awyru da er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd unrhyw batrwm adnabyddadwy yn y data a gasglwyd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd patrwm ar y cyfan, fodd bynnag, efallai bod teuluoedd o gefndiroedd mwy difreintiedig yn wynebu mwy o heriau.  Roedd yn bwysig nodi bod heriau gwahanol yn codi mewn gwahanol ardaloedd gan fod yr heriau'n newid dros amser;
  • Pan ofynnwyd sut mae Rhwydweithiau Cymheiriaid i Gymheiriaid yn gweithio, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai fforwm gr?p yw hwn lle mae penaethiaid yn dod at ei gilydd i rannu pryderon a phrofiadau.  Yn ogystal, os oes angen cymorth pellach ar unrhyw bennaeth yna trefnir hynny ac mae yna hefyd gyfeirio at gymorth sydd ar gael gan sefydliadau allanol;
  • Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn syniadau hunanladdol ac ymgeisiau i gyflawni hunanladdiad a'r ffaith y gall gymryd hyd at 3 wythnos cyn y gellir gweld cwnselydd oherwydd rhestrau aros a gofynnwyd i swyddogion a oes mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith os yw'r risg yn uchel.  Sicrhawyd yr Aelodau, os nodir angen sylweddol ar ddechrau'r cwnsela, bod y plant hynny'n cael sylw'n gyflym.  Pan fydd unrhyw ddisgybl yn achosi pryderon, caiff ysgolion gefnogaeth gadarn ar unwaith gan y seicolegwyr addysg a'r timau diogelu.  Darperir cymorth uniongyrchol i'r person ifanc a'i deulu;
  • Gofynnwyd i swyddogion am lefel y cynnydd.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod 58 o achosion o hunanladdiad neu syniadau hunanladdol wedi'u cyfeirio at y gwasanaeth cwnsela yn 2020/21 o gymharu â 38 yn y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn gynnydd eithaf sylweddol ond dyma'r darlun cenedlaethol hefyd;
  • Cyfeiriwyd at y pwysau digynsail sylweddol a roddwyd ar rieni yn ystod y pandemig o ran addysg yn y cartref a materion cysylltiedig eraill a chyfeiriwyd at y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at ymgysylltu â rhieni h.y. helpu rhieni i helpu eu plant.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod llawer o ysgolion yn ymwneud â'r Rhaglen Iechyd a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH 10 MLYNEDD YR ADRAN ADDYSG. pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Strategaeth 10 Mlynedd yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant a oedd yn dwyn ynghyd feddylfryd strategol, gweledigaeth gyfunol, datganiadau cenhadaeth a blaenoriaethau'r adran dros y 10 mlynedd nesaf.  Gweledigaeth arfaethedig newydd yr adran oedd "Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwerthfawrogi'n gyfartal".

 

Mae'r strategaeth yn adeiladu ar yr arfer sy'n gwella a oedd eisoes yn amlwg yn y gwasanaeth addysg, er mwyn darparu'r un cyfle i bob dysgwr â chanlyniadau cyson rhagorol. Mae'n nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol. Bydd y strategaeth lefel uchel hon yn cael ei gweithredu drwy gynlluniau adrannol ac is-adrannol a bydd hefyd yn amlwg mewn Cynlluniau Datblygu Ysgolion.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried a rhoi sylwadau ar y materion canlynol a llunio barn arnynt i'w cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried:-

 

1. A yw'r Strategaeth yn bodloni'r nodau fel y nodwyd yn yr adroddiad?

2. A yw'r 20 Darn Diben yn berthnasol ac a ydynt yn adlewyrchu dyheadau'r

    Cyngor Sir?

3. A ellir gwella'r Strategaeth mewn unrhyw ffordd?

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Pan ofynnwyd sut yr ymgynghorodd swyddogion ag ysgolion ar y strategaeth, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddwy lefel – cynhaliwyd tri gweithdy gyda phenaethiaid a chynhaliwyd ymgynghoriad hefyd gyda chynghorau ysgolion uwchradd;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd carfan sylweddol o blant y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt dros y 10 mlynedd nesaf yn mynd drwy'r system ysgolion a phwysleisiwyd yr angen i sicrhau nad oes unrhyw blant yn llithro drwy'r system.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Dyheadau 2, 4 a 5 yn y strategaeth wedi'u hysgrifennu'n benodol gyda hynny mewn golwg.  Mae llawer o'r dyheadau lefel uchel hyn wedi'u hysgrifennu gan gofio y byddwn yn delio ag effeithiau'r pandemig am amser maith;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod argaeledd staff sydd â phrofiad perthnasol a sgiliau dwyieithog yn parhau i fod yn her i'r Awdurdod.  O ran y Strategaeth 10 Mlynedd a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gofynnwyd i swyddogion sut y bydd yr Awdurdod yn mynd i'r afael â'r materion hyn h.y. sut y byddwn yn recriwtio'r holl staff sydd â sgiliau iaith angenrheidiol a sut y byddwn yn cadw'r staff hynny.  Esboniodd y Cyfarwyddwr mai o dan y strategaethau hyn mae'r cynlluniau busnes adrannol sy'n cynnwys y manylion mewn perthynas â sut yr ydym yn cefnogi'r strategaethau.  Mae llawer o staff wedi cymryd rhan mewn dysgu ar-lein yn ystod y pandemig ac mae addysgu'n dal i fod yn alwedigaeth ddeniadol gyda nifer uchel yn ymgymryd â hyfforddiant athrawon ar hyn o bryd;

·         Pan ofynnwyd sut y bydd y strategaeth yn gysylltiedig â mesuriadau y gellir eu monitro megis Dangosyddion Perfformiad Allweddol ac amserlenni, eglurodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion yn trafod ar hyn o bryd yngl?n â'r ffordd orau o fesur cynnydd o ran yr 20 dyhead lefel uchel;

·         O ran dyhead  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

TREFNIANT SESIYNAU YMGYSYLLTU A'R YSGOL YN Y DYFODOL. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn amlinellu'r trefniadau arfaethedig ar gyfer ymgysylltu ag ysgolion yn y dyfodol yn ystod y cyfyngiadau presennol.  Cynhaliwyd ymweliadau ysgolion yn flaenorol gan y Pwyllgor, fodd bynnag, roedd y cyfyngiadau'n golygu nad oedd ymweliadau'n bosibl ac felly roedd swyddogion wedi darparu strwythur newydd, ar ffurf sesiynau ymgysylltu ag ysgolion, a fyddai'n caniatáu craffu er mwyn sicrhau bod gwerthuso a gwella yn gweithio'n effeithiol.

 

Bydd y sesiynau ymgysylltu arfaethedig ag ysgolion yn helpu'r Pwyllgor Craffu i oruchwylio ansawdd y ddarpariaeth gan yr Awdurdod Lleol ac wrth wneud hynny, yn cyflawni ei swyddogaethau atebolrwydd democrataidd. Byddant hefyd yn rhoi cipolwg i'r Pwyllgor Craffu ar sut mae ysgolion yn paratoi ar gyfer newidiadau sylweddol mewn meysydd fel y cwricwlwm newydd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

 

Bydd ymgysylltu uniongyrchol ag ysgolion yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i aelodau ddeall yn well yr effaith y mae cymorth yr Awdurdod Lleol yn ei gael ar ddarpariaeth ar draws ein system ysgolion.

 

Dylai sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ganolbwyntio ar ansawdd ac effaith trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd o ran ysgolion ac effeithiolrwydd yr Awdurdod Lleol i gefnogi ysgolion a dysgwyr a ddylai gynnwys gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau atebolrwydd democrataidd wrth gefnogi ysgolion.

 

Byddai'r sesiynau ymgysylltuar ffurf ymweliadau corfforol ag ysgolion (pan ganiateir hynny eto), cyfarfodydd rhithwir/o bell neu ofyn i ysgolion fynychu cyfarfodydd yn siambr y cyngor (pan fo'n bosibl).

 

Roedd y themâu allweddol a awgrymwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd 2021/22 ac ar gyfer tymor yr Hydref 2022/23 fel a ganlyn:-

 

 

Thema

Ymagwedd

Ionawr 2022

Adferiad o covid a llesiant staff

O bell

Gwanwyn 2022

Parodrwydd ar gyfer trawsnewid ADY

Ar hyn o bryd o bell

Haf 2022

Parodrwydd ar gyfer y Cwricwlwm a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Ar hyn o bryd o bell

Hydref 2022

Rhaglen Moderneiddio Addysg – adeiladau

Ymweliadau Ysgol

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1      nodi'r adroddiad;

6.2      bod sesiynau ymgysylltu ag ysgolion yn cael eu trefnu fel y nodir

yn yr adroddiad.

 

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd i'w gynnal ar 23ain Rhagfyr, 2021.

 

Gan fod adroddiad ymgynghori ynghylch y gyllideb wedi'i symud i gyfarfod mis Ionawr, gan adael dim ond un adroddiad i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf, gofynnwyd bod yr adroddiad "Timau o Amgylch y Teulu" y bwriedir ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr.  Awgrymodd y Cyfarwyddwr y dylid rhoi'r teitl "Cymorth i Deuluoedd" i'r adroddiad a fyddai'n caniatáu cwmpas llawer ehangach.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys y newid uchod.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 8FED GORFFENNAF 2021. pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi yn gofnod cywir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau