Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 8fed Gorffennaf, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Vera Kenny

 

DP

 

 

10.

 

9

2.             

3.             

Noreen Jackman yw ei merch

 

Diddordeb rhagfarnol gan fod ei wraig yn Ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN 2020/21 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r pwyllgor yn ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir yn nodi'r heriau yn ystod blwyddyn ddyrys oherwydd COVID-19 ac mae'n ymwneud â pherfformiad ar gyfer y flwyddyn 2020-21.  Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Addysg fod yr adran o dan lawer o bwysau oherwydd cynnydd yn y galw am gymorth lle mae'r Gwasanaethau i Blant wedi bod yn effeithiol iawn ac wedi blaenoriaethu drwy drefniant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Mae'r timau Gwaith Cymdeithasol a staff y gwasanaethau dydd wedi cadw mewn cysylltiad â gofalwyr ac wedi darparu cymorth pan fo angen; mae llawer o'r staff naill ai wedi cyflawni neu'n ymgymryd â'r Wobr Buddsoddwyr mewn Gofalwyr sy'n cydnabod y cymorth a ddarperir i ofalwyr ac mae pob tîm Gwaith Cymdeithasol wedi'u penodi'n Hyrwyddwyr Gofalwyr.

 

Mae'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac is-grwpiau cysylltiedig wedi parhau i gyfarfod yn rhithwir; gan fod yn rhan o gr?p ymateb Aml-asiantaeth Rhanbarthol ar gyfer Covid a gyfarfu'n wythnosol â sicrwydd ynghylch ymatebion diogelu yn ystod y pandemig ac sydd wedi parhau i weithio o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion Cymru Gyfan newydd ac mae Sir Gaerfyrddin wedi arwain ar sawl datblygiad ar draws y rhanbarth gan gynnwys datblygu dogfen Trothwy Covid a hyfforddiant ac mae wedi paratoi'n dda ar gyfer gweithredu'r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd yn 2022.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig.  Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Cwestiynau a sylwadau a godwyd:-

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch darparu gwasanaeth anabledd ar y cyd i blant, pobl ifanc 0-25 oed a'u teuluoedd yn seiliedig ar angen ac nid ar oedran lle mae'n ymddangos bod darpariaeth yn ystod gwyliau'r Haf yn ardal Heol Goffa, Llanelli yn bennaf ac nad yw'n cael ei rhannu ar draws gogledd a dwyrain y sir. Mae eglurhad cynhwysfawr wedi'i roi ers hynny ynghylch y mater hwn sy'n ymwneud â chostau gan fod gan blant ag anghenion cymhleth bwysau ychwanegol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod gweithgareddau eraill ar y gweill, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol o £270k a'u bod yn gweithio gyda llawer o bartneriaid ar hyn o bryd i ddarparu gweithgareddau ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae'r rhaglen yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd.

·         Gofynnwyd pwy sy'n bresennol yn y Cyfarfodydd Pod?  Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn elfen bwysig o sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu a dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod pob  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020-21 pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amcanion llesiant sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant.  Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod 2020/21 yn flwyddyn wahanol iawn oherwydd effaith Pandemig COVID-19.  Roedd rhaid i'r mwyafrif helaeth o wasanaethau'r Cyngor addasu a newid, ac roedd llawer yn wedi'u cau'n llwyr am gyfnodau hir o'r flwyddyn. Am y rheswm hwn, nid yw'n bosibl i Adroddiad Blynyddol 2020-21 weithredu fel adroddiad cynnydd ar berfformiad blaenorol nac fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r camau y bu'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd i gefnogi ei breswylwyr, ei gymunedau a'i fusnesau drwy'r pandemig. Gan fod llawer o staff wedi'u hadleoli i gynorthwyo ag ymateb y pandemig a llawer yn gweithio i gynorthwyo adferiad, bu'n rhaid i flaenoriaethau'r Cyngor newid yn sylweddol i wynebu'r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig

 

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant yr adroddiad i'r pwyllgor yn manylu ar bwysigrwydd rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn; gwella eu profiadau bywyd cynnar; eu helpu i fyw bywydau iach, cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniad i bob dysgwr a sicrhau bod pob person ifanc mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (EET) yn dilyn llwybrau dysgu a gyrfa cynhyrchiol.

 

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r camau y bu'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd i gefnogi ei breswylwyr, ei gymunedau a'i fusnesau drwy'r pandemig. Gan fod llawer o staff wedi'u hadleoli i gynorthwyo ag ymateb y pandemig a llawer yn gweithio i gynorthwyo adferiad, bu'n rhaid i flaenoriaethau'r Cyngor newid yn sylweddol i wynebu'r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig.

 

Mesurwyd amcanion llesiant yn ôl llwyddiant ac ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 ar gynnydd y Ddeddf dros y 5 mlynedd diwethaf a gwnaeth nifer o argymhellion ar gyfer cyrff cyhoeddus, sy'n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU ADDYSG A PLANT 2020-21 pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor, sydd wedi'i baratoi er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n nodi bod yn rhaid i Bwyllgor Craffu "Baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol."  Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau yn ystod blwyddyn ddinesig 2020/21

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL, yn amodol ar newid presenoldeb 2 Gynghorydd, dderbyn yr adroddiad.

7.

ADRODDIAD ARGYMHELLION INTERIM (GORCHWYL A GORFFEN) pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Argymhellion Interim i'r Pwyllgor er mwyn bwydo i mewn i gynlluniau'r adran ar sut yr ydym yn mynd i ymgynghori gan gofio bod angen atebion brys gan Lywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

·         fod yr Adroddiad Argymhellion Interim yn mynd i'r Bwrdd Gweithredol i'w gymeradwyo

·         derbyn yr adroddiad.

8.

CYNLLUN ADFER ADDYSG "CAMU YMLAEN" pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor yn rhoi trosolwg o ymateb covid yr Adran Addysg a sut y mae canfyddiadau'n llunio cynlluniau strategol ar gyfer symud ymlaen gan sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddiwallu anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg mai nod yr adroddiad yw cadarnhau bod ysgolion ynbodloni'r cymorth ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed a'r pwysigrwydd bod yr adran yn cydnabod y bylchau a'r angen i addasu i newid gyda diogelu addysg ac iechyd yn ffactorau pwysig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gyda'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Bwrdd Gweithredol i fyfyrio ar ein sefyllfa bresennol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Pan ofynnwyd sut yr ydym yn monitro llesiant a safonau addysg plant sy'n cael eu haddysgu gartref a'r rhai sy'n symud o gwmpas yn rheolaidd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y tîm wedi ehangu a bellach mae ganddynt fwy o swyddogion cymwysedig yn ymweld â theuluoedd ac yn ymgysylltu â nhw – gall rhieni ddilyn unrhyw gwricwlwm a llwybr dysgu y maent yn dymuno – rhoddir cyngor ac arweiniad a chyda'r cyllid gan Lywodraeth Cymru gellir eu cefnogi gan roi mynediad iddynt at arholiadau.

·         Gofynnwyd a oes cyfarfod gadael helaeth yn cael ei gynnal gyda Phenaethiaid i weld pam eu bod yn ymddeol o ystyried bod pwysau ar arweinyddiaeth mewn ysgolion gyda phob newid systematig yn digwydd?  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod cyfuniad o resymau; iechyd, teulu, llesiant.

·         Gofynnwyd am gwricwlwm newydd Cymru a fydd yn orfodol mewn ysgolion uwchradd flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl heb unrhyw oedi i ysgolion cynradd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod y Gweinidog Addysg wedi dweud y gallai ysgolion uwchradd ei gyflwyno'n ddiweddarach oherwydd heriau Covid a bydd hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfod Penaethiaid sydd wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 12 Gorffennaf 2021.  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y cwricwlwm newydd yn cael ei dreialu ar hyn o bryd a'i fod yn rhagweld y bydd pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ei fabwysiadu.

·         Pryderon am lwyth gwaith Penaethiaid.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant eu bod wedi lleihau'r llwyth gwaith e.e. Mae arolygiadau Estyn wedi'u gohirio tan y gwanwyn 2022, gan brofi'r broses asesu cymorth ac adroddiadau i rieni.

·         Gofynnwyd am lefelau dilyniant dysgwyr sy'n agored i niwed.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant fod rhai ysgolion wedi gofyn am gymorth pellach ynghylch dysgwyr sy'n agored i niwed ac yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid i edrych ar y dulliau mwyaf effeithiol o ran llesiant, ac mae swyddogion ar draws yr adran yn casglu cyngor ac arweiniad i ysgolion.

·         Gofynnwyd am eglurder yngl?n â'r gostyngiad ym mhresenoldeb mewn ysgolion uwchradd.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant ei fod yn ysgrifennu at ysgolion bob dydd Gwener ac mae'r ohebiaeth yn eu hatgoffa o'r gofyniad cyfreithiol i gwblhau'r gofrestr mewn modd amserol; i nodi bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 896 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynwyd drafft cyntaf Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd newydd i'r Pwyllgor cyn ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd (Tymor yr Hydref 2021)

 

Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg mai'r nod yw cyrraedd 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 i alluogi ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a chelfyddydau i ffynnu.  Bydd y cynllun newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2022.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro ei bod y Gymraeg yn orfodol o 3 blwydd oed a Saesneg o 7 oed.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant gyflwyniad powerpoint i'r Pwyllgor ar sut i hyrwyddo'r un parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd mewn addysg Gymraeg, ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar y Gymraeg, ehangu'r Rhaglen Trochi Disgyblion a chyflwyno prosiect peilot a fydd yn annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu i addysgu Cymraeg mewn ysgolion gyda dwyieithrwydd, ac amlieithrwydd.

 

Adeiladu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn 7 pwynt i gryfhau ei ddiben:

 

·         Mwy o blant meithrin (3 oed) yn dilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

·         Mwy o blant derbyn (5 oed) yn dilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

·         Mwy o blant yn gwella sgiliau iaith wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i un arall (cynnydd mewn dilyniant)

·         Mwy o ddysgwyr i astudio ar gyfer cymwysterau mewn Cymraeg fel pwnc a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

·         Mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau mewn ysgolion

·         Cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY, yn unol â'r Ddeddf ADY newydd

·         Cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg

 

Nodwyd bod 2 gyfarfod Penaethiaid wedi'u cynnal a bod adborth wedi bod yn dda, gan weithio gyda'i gilydd i ddatblygu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda'r amcan bod pob plentyn yn ddwyieithog erbyn 11 oed a, gyda methodoleg Drochi Cymru yn y Cyfnod Sylfaen, bod plant yn dod yn ddwyieithog erbyn 7 oed.

 

Cwestiynau a sylwadau a godwyd:-

·         Gofynnwyd a yw swyddi'n ddiogel?  Cadarnhaodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant nad yw diswyddiadau yn gysylltiedig â'r agenda hon a bydd staff yn cael eu cefnogi i ddatblygu'n broffesiynol drwy gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a hyblyg.

·         Pan ofynnwyd iddo ymhelaethu ar gyfarfodydd y Penaethiaid; dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod trafodaeth yn y sesiwn Cyfrwng Saesneg ynghylch y dull cam wrth gam o ystyried sylwadau rhanddeiliaid; trafodwyd capasiti staff, hyfforddiant a rhaglenni ar gyfer llywodraethwyr a gynlluniwyd ar gyfer yr Hydref ac ymgynghori â chymunedau'r ysgolion a thrafodaethau ar sut i gefnogi Penaethiaid am fwy o hyfforddiant.  Siaradodd Penaethiaid Ysgolion Cyfrwng Cymraeg am: cael cynllun peilot yn Sir Gaerfyrddin i hyrwyddo recriwtio mwy o athrawon; llwybrau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg; amlieithrwydd; gosod disgwyliadau uchel i gael 3 iaith ar gyfer dysgwyr.  Mae parodrwydd ymhlith Penaethiaid ffrwd Cymraeg a Saesneg ond roedd rhai wedi mynegi amheuon ynghylch sut i'w roi ar waith ond, yn gyffredinol, teimlai swyddogion eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

GWASANAETHAU PLANT (CYFRADDAU CYFEIRIO CYNYDDOL) pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor i edrych ar y cynnydd mewn cysylltiadau ac atgyfeiriadau yn y Gwasanaethau Plant yn rhoi gwybod am y lefelau uwcho weithgarwch yn y gwasanaeth a'r goblygiadau pe bai'r patrwm hwn yn parhau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg fod y Tîm Atgyfeirio Canolog yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan gan ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un sydd â phryderon ynghylch lles plentyn.  Mae'r Tîm yn ymdrin â'r holl gysylltiadau ac atgyfeiriadau newydd i'r Gwasanaethau Plant sydd wedi darparu dull mwy cyson o wneud penderfyniadau.  Yn ogystal ag ymateb i bryderon, mae'r tîm hefyd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i blant, teuluoedd, aelodau o'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill.

 

Ers y pandemig mae cysylltiadau ac atgyfeiriadau wedi cynyddu'n raddol drwy gydol y flwyddyn ac roedd 141 yn fwy o atgyfeiriadau nag yn 2020 a materion staffio.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mynegwyd pryder ynghylch staffio yn y tîm.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod staffio wedi bod yn her gyda salwch a'i fod wedi llwyddo i sicrhau 1 aelod newydd o staff ond nad yw wedi elwa oherwydd prinder staff parhaus ond ei fod wedi bod yn ffodus bod staff wedi'u hadleoli o wasanaeth ataliol i helpu i gyda'r ôl-groniad.   Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod angen sgiliau penodol ar y tîm hwn er mwyn delio â'r gofynion a bod angen amrywiaeth o arbenigedd arnynt a bod yn rhaid adleoli pobl brofiadol iawn o dimau eraill i helpu i gefnogi ac ar hyn o bryd maent yn ystyried cael cynllun prentisiaeth yn yr adran fel y gallant gefnogi'r timau hynny mewn ffordd effeithiol

·         Gofynnwyd am eglurder ynghylch y 9 cwyn Cam 1 a ddaeth i law mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant; cadarnhawyd 5 ohonynt yn unig.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth yn glir nad oedd yr un o'r cwynion yn ymwneud â gallu cael gafael ar y tîm ac, pryd bynnag yr ymdrinnir â chwyn, eu bod yn cael eu rhoi ar Gynllun Gweithredu i ddysgu oddi wrthynt.

·         Gofynnwyd a yw'r Tîm Atgyfeirio Canolog mewn cysylltiad ag ysgolion i hyrwyddo cyfleoedd sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gyflogi pobl.  Mae'r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wedi cael sgyrsiau gydag ysgolion ar sut i ymgysylltu a rhannu'r cyfleoedd hyn i ddangos i'r bobl ifanc yr ystod o obeithion o ran cael swyddi yn y Cyngor Sir gyda datblygiadau'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i weithio gydag ysgolion yn rhannu'r wybodaeth hon wrth ddewis y llwybr gyrfa cywir ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

·         Mae'r adroddiad yn mynd gerbron y Tîm Atgyfeirio Canolog a'r Bwrdd Gweithredol oherwydd pryderon ynghylch staffio i asesu'r tîm a'r pwysau.

·         derbyn yr adroddiad.

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau sydd i ddod i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 6 Hydref 2021 yn dilyn cynnwys y canlynol yn yr Adroddiad ar Effaith Iechyd Meddwl ar

 

·         Safbwynt y Pennaeth a'r Arweinydd

·         Asesu Iechyd Meddwl athrawon a disgyblion a pha gymorth sydd ar gael

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MEHEFIN, 2021 pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mehefin 2021 yn gofnod cywir.