Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Gwener, 11eg Mehefin, 2021 10.00 yb, NEWYDD

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Cyng. Jean Lewis

2.            4.  Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid

Mae’n Gadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc yn Sir Gaerfyrddin

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o chwipiau plaid.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

GWASANAETHAU CYMORTH IEUENCTID pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd J. Lewis wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddodd drosolwg o ymateb y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod pandemig COVID-19, ynghyd â gwybodaeth gefndir berthnasol.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a Chyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli gan ganiatáu i ddull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid gael ei ddatblygu ledled Sir Gaerfyrddin.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant y gwasanaeth ar ennill y wobr Arian wrth gefnogi'r gwaith o gyflwyno Gwobr Dug Caeredin a bod yn gyfrifol am yr holl ddarpariaethau mynediad agored sydd ar gael ym mhedwar tîm y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

 

Dywedodd Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid fod y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wedi dangos hyblygrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud a'i fod wedi ymateb yn dda i’r heriau a wynebwyd drwy gefnogi’r gwaith o staffio’r hybiau ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, cynnig cymorth i deuluoedd pan oedd hynny’n briodol, cyflawni dyletswyddau dosbarthu bwyd ledled y sir, cynnal ymweliadau wrth y drws/yn yr ardd i'r rhai y barnwyd eu bod yn agored i niwed ac maent wedi addasu'n gyflym i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn modd diogel ochr yn ochr â gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bwrdd Iechyd a'r Adran Addysg gyfan.

 

Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd diogelu yn parhau i fod o'r pwys mwyaf i'r gwasanaeth; mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn sefydliad dysgu sydd wedi'i ailstrwythuro i ddiwallu'r anghenion ar draws Sir Gaerfyrddin.   Cafodd y gwasanaeth ei integreiddio ym mis Ionawr, 2016 er mwyn gweithio yn y modd gorau posibl gyda'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a chwblhaodd y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid hunanasesiad yn erbyn Safonau Cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Plant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Mawrth, 2020.

 

Cyn y cyfyngiadau symud roedd staff yn gweithio gyda'i gilydd i nodi proffil anghenion a risgiau llwyth achosion y tîm i helpu i flaenoriaethu a nodi’r math o gyswllt/cymorth sydd ei angen ar bob plentyn lle cwblhaodd rheolwyr a staff statws Coch / Ambr / Gwyrdd ar gyfer pob achos Llys a phob achos y Tu Allan i'r Llys gan ddefnyddio templed a oedd yn nodi perygl o niwed difrifol, pryderon diogelwch a llesiant neu unrhyw ymateb gofynnol neu angen arall.

 

Mae Pen-reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wrthi'n llunio Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a fydd yn cynnwys ffocws ar y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer 2021/22 yn ogystal â throsolwg o'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chynllunio yn y dyfodol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at y sefyllfa o ran digartrefedd a dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod llawer o heriau yn cael eu hwynebu o ran digartrefedd yn ogystal â lleoliadau maeth sydd angen gofal ychwanegol a bod staff yn gysylltiedig â'r Adran Dai.
  • Gofynnwyd a yw capasiti staff yn is oherwydd bod rhai'n gweithio mewn meysydd eraill a chadarnhaodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN GWEITHREDU TRAWSNEWID ADY pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar gynnydd Cynllun Gweithredu Trawsnewid ADY Sir Gaerfyrddin a'r adolygiad o Ariannu Fformiwla ADY sy'n amlinellu sut mae'r awdurdod lleol yn helpu ysgolion o ran eu gwaith cynllunio wrth roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) ar waith.

 

Y system ADY yw'r system cymorth statudol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY, sydd i ddod i rym ym mis Medi 2021.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant y bydd y system statudol newydd yn cael ei chyflwyno ym mis Medi, 2021 gan nodi ei phwysigrwydd i bawb sy'n ymwneud â thrawsnewid ADY bod pob ysgol yn sicrhau bod yr hyn sydd ar waith yn briodol iddi, ac yn bwysicach, i'r dysgwyr yn yr ysgol.  Bydd y Cod ADY Newydd yn cael ei gyflwyno i ddechrau i leoliadau meithrin, Blynyddoedd 1, 3, 5, 7 a 10.  Mae'r newid yn gosod mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion a llai ar yr Awdurdod. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y model Cydlynydd ADY wedi'i gyhoeddi ym mis Mawrth, 2021.  Nododd nad yw'r trawsnewidiad yn newydd i'r awdurdod a'i fod wedi bod yn gweithio arno ers 2018; mae'r gwasanaeth wedi ehangu o ran ADY ac yn yr Adran Gynhwysiant. Mae'r Rheolwyr ADY wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag ERW gyda'r 6 Awdurdod Lleol rhanbarthol yn dogfennu'r Egwyddorion a chynllunio wedi'i bersonoli i ddiwallu eu hanghenion o ran Cynlluniau Datblygu Unigol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi trosolwg ar gyfer canllawiau gweithredu technegol manwl gyda 4 gorchymyn cychwyn allweddol a bydd hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr ADY yn cael ei deilwra i'r unigolyn.

 

Cyflwynodd y Rheolwyr ADY adroddiad ar ddatblygu rhaglen mapio darpariaeth ADY, model  gwneud penderfyniadau, darpariaeth gyffredinol a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol o ran datblygu offeryn mapio electronig ar gyfer ysgolion. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant fod y Ganolfan Athrawon wedi'i chomisiynu i gefnogi Cynlluniau Datblygu Unigol ar draws ysgolion, teuluoedd, plant a phobl ifanc.  Dywedodd y Rheolwyr ADY y bydd llawlyfr cyfeirio ar gyfer ysgolion yn cael ei lunio yn y dyfodol a bod rhaglen amlasiantaeth yn cael ei datblygu i'w rhannu â chydweithwyr Iechyd yn Hywel Dda a darparu hyfforddiant ar draws Gofal Cymdeithasol a'r sector Addysg.

 

Dywedodd y Rheolwyr ADY y bydd angen i bob plentyn gael adolygiad a bod y meini prawf yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Datblygu Unigol a nodwyd na fydd cofrestr ADY mwyach / dim Plant â Datganiad gan y bydd hyn yn dod i ben.

 

Mae cyllid ychwanegol yn cael ei roi i ysgolion i ryddhau'r Cydlynydd ADY i ystyried y gwaith o roi'r system newydd ar waith.  Bydd ysgolion yn derbyn y taliadau atodol canlynol ar sail cymorth prydau ysgol am ddim, y gofrestr AAA i fonitro a herio lle mae datganiadau yn gofyn am fwy nag 1 cynorthwyydd addysgu fesul disgybl, bydd yr Awdurdod Lleol yn ariannu'r gofyniad ychwanegol yn llawn a'r bwriad yw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

SESIYNAU YMGYSYLLTU AG YSGOLION (YMWELIADAU YSGOLION CRAFFU BLAENOROL) pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch ailgyflwyno sesiynau ymgysylltu ag ysgolion ac effaith gwasanaethau cymorth yr awdurdod ar gynnal darpariaeth o ansawdd uchel yn ein hysgolion a disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cyfrannu at wella ysgolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant fod y flwyddyn ddiwethaf, yn sgil y pandemig, wedi cael effaith negyddol ar gynlluniau gan fod ysgolion ar gau am fisoedd ac na wnaed unrhyw ymweliadau.  Y gobaith yw y bydd trafodaethau gydag ysgolion yn cael eu cynnal ar gyfer y flwyddyn academaidd Medi, 2021 a'r cwricwlwm newydd.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Gofynnwyd sut y gall ysgolion fod yn rhan o drafodaeth ynghylch pa strwythur / trafodaethau y gellir eu gwneud heb ymweld ag ysgolion. A ellir eu gwahodd i rannu eu profiadau gyda'r Pwyllgor Craffu?  Dywedodd y Cadeirydd a'r Pennaeth Addysg a Chynhwysiant y byddant yn cysylltu ag ysgolion ac yn ffurfio 3 gr?p o aelodau'r pwyllgor i gael trafodaethau rhithwir. Bydd amserlen o themâu awgrymedig / mathau o gwestiynau i'w gofyn a thystiolaeth y gofynnir amdani yn cael ei chreu ar gyfer tymor yr hydref fel y gall gwaith ddechrau ar gyfer y 2 dymor nesaf a bydd adeiladau ati yn cael eu trafod yn y trydydd tymor. Bydd y Pennaeth Addysg a Chynhwysiant yn cysylltu gwaith ac ymweliadau â’r tîm gwella ysgolion i edrych ar gymorth ac unrhyw elfennau ar gyfer gwella.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurwyd i'r Pwyllgor pam na chyflwynwyd yr adroddiad craffu canlynol a nodwyd y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf:-

 

  • Gwasanaethau Plant (Cyfraddau Atgyfeirio Uwch)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 8 Gorffennaf 2021 ac fe'i nodwyd ar lafar y bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor hefyd ar 8 Gorffennaf 2021 ac y bydd o bosibl yn rhoi argymhelliad interim gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 EBRILL, 2021 pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn amodol ar y newid canlynol o ran aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen oherwydd amgylchiadau annisgwyl-

 

Plaid Cymru:  Y Cynghorydd Jean Lewis i gymryd lle'r Cynghorydd Emlyn Schiavone

Llafur: Y Cynghorydd Dot Jones i gymryd lle'r Cynghorydd Bill Thomas

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi ei gynnal ar 21 Ebrill 2021 yn gywir.