Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd I. Davies, D. Williams a'r Parch. D. Richards
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg drosolwg o'r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Heol Goffa a nododd fod gan yr ysgol ddarpariaeth am 75 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae gan bob disgybl Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Capasiti Ysgol Heol Goffa yw 75 ac roedd 95 o ddisgyblion ar y gofrestr ym mis Ionawr 2019. O ganlyniad, mae'r Awdurdod Lleol wrthi'n datblygu cynllun i gynyddu'r capasiti i 120 o leoedd drwy ddarparu ysgol newydd gyda chyfleusterau wedi'u lleoli gerllaw Ysgol Pen Rhos sydd wedi'i chwblhau'n ddiweddar.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Mewn ymateb i gais am eglurhad ar sut y pennwyd y ffigur o 120. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant mai'r cynllun cychwynnol oedd cynyddu'r capasiti i 100, ond ar ôl rhywfaint o ystyriaeth a gwybodaeth leol sylweddol roedd y ffigur o 120 yn agosach at y gofynion a ddisgwylir ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ymhellach nad oedd rhagweld gofynion ar gyfer y dyfodol yn wyddor fanwl, ond roedd yr adran yn hyderus y byddai'n ddigonol. Nodwyd hefyd y byddai symud Ysgol Heol Goffa i safle ger ysgol prif ffrwd yn hwyluso rhywfaint o symud rhwng yr ysgolion.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r symud yn achosi costau ychwanegol o ran trafnidiaeth ar gyfer disgyblion neu newid o ran yr dalgylch. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr awdurdod yn gyfrifol am benderfyniadau mewn perthynas â chofrestru ar gyfer darpariaeth arbenigol a bod yr holl ddisgyblion â datganiad yn cael cludiant am ddim. Fodd bynnag, mae plant yn cael eu hannog i deithio'n annibynnol lle bynnag y bo'n bosibl.
Nododd yr aelodau fod y safle newydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer Pwll Hydrotherapi a gofynnwyd pam na fyddai'r ysgol yn cael mynediad i'r Pwll Hydrotherapi newydd a fydd yn rhan o'r Ganolfan Hamdden newydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, oherwydd anghenion difrifol a chymhleth y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol, fod yna heriau o ran cludo disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog i safle arall, ac felly ni fyddai'r holl ddisgyblion yn gallu teithio i safle arall.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal.
|
|
IECHYD MEDDWL MEWN ADDYSG PDF 673 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ystod y gwaith o gynllunio'r flaenraglen waith, nododd y Pwyllgor Ddarpariaeth Iechyd Meddwl mewn Addysg fel maes diddordeb a gofynnodd am adroddiad. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant drosolwg o'r adroddiad a oedd yn cynnwys data am hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, amlinelliad o'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sydd mewn perygl, mentrau mewn ysgolion a throsolwg o arferion da a'r cyd-destun cenedlaethol.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Cyfeiriodd y Pwyllgor at y Materion yn Codi ar dudalen 63 o'r adroddiad a oedd yn rhestru arholiadau a disgwyliadau ysgolion fel un o'r prif bwysau a heriau i lesiant. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod pobl ifanc yn onest mewn grwpiau ffocws a'u bod yn rhestru ystod eang o faterion, gan nodi bod disgwyliadau ysgolion yn uchel ar y rhestr ond nid hwnnw oedd y safbwynt diffiniol yn gyffredinol. Cydnabod bod yna bwysau sylweddol ar ysgolion i berfformio ac y gellir pasio hyn ymlaen i'r plant a allai deimlo hyn yn benodol yn ystod cyfnodau arholiadau. Nododd ymhellach y byddai'r cwricwlwm newydd yn cynnwys pwysau newydd a fyddai angen mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Roedd hefyd o'r farn y dylid rhoi sylw i lesiant dysgwyr yn gyntaf oll, gan sicrhau bod pobl ifanc yn byw heb orbryder, straen a phryderon; a bydd y safonau'n gwella o ganlyniad.
Nododd yr aelodau yr astudiaeth achos mewn perthynas ag Ysgol Brynsierfel gan ofyn a yw hyn yn cael ei ailadrodd ym mhob ysgol, cyfeiriodd yr Aelodau at raglen SPEAKR a oedd yn cael ei defnyddio'n eang. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod yna arferion da iawn mewn nifer o ysgolion ac mae rhai ohonynt wedi'u cydnabod gan ESTYN. Dywedodd fod rhaglen SPEAKR yn becyn masnachol sydd ar gael i ysgolion ei phrynu. Mae'r rhaglen yn caniatáu i ddisgyblion nodi pan fyddant yn hapus ai peidio a gall yr athrawon adolygu'r data ar nifer o adegau yn ystod y diwrnod ysgol. Dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod yna lawer o fentrau a rennir ledled rhanbarthau ERW yn ogystal â gwaith rhyngwladol gan gynnwys prosiect Lost Words.
Bu'r aelodau yn holi ynghylch nifer isel yr atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant mewn perthynas â'r ffigurau cenedlaethol, a nifer uchel y merched sy'n defnyddio gwasanaethau cwnsela o gymharu â nifer y bechgyn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y data o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gywir ond roedd yn cydnabod bod nifer yr atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn is na'r disgwyl. Mewn ymateb i'r ffaith bod nifer y bechgyn sy'n defnyddio gwasanaethau cwnsela yn cyfateb i hanner cyfanswm nifer y merched, awgrymodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y gellid ystyried rhai ffactorau, megis a yw bechgyn yn debygol o guddio'u problemau a bod merched yn fwy agored fel arfer ac yn llai tebygol o guddio'u problemau. Nododd hefyd fod bechgyn mwy tebygol o gael atgyfeiriad ar gyfer ymddygiad na merched ac mae'n bosibl bod hyn yn ffactor. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr aelodau adroddiad a oedd yn cynnwys Canlyniadau Arholiadau Allanol (amodol), Canlyniadau Asesiadau Athrawon a Data Presenoldeb Ysgolion; cyn yr adroddiad llawn a ddisgwylir ym mis Mawrth 2020 ynghyd â'r data wedi'i gadarnhau.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gwella perfformiad, dywedodd y Pennaeth Effeithiolrwydd Ysgolion fod gwaith yr Ymgynghorwyr Her yn gweithio gydag ysgolion i nodi'r cynnydd ac ystyried themâu allweddol i wella. Os bydd angen gwelliant mewn maes penodol megis Rhifedd, byddai Ymgynghorwyr Her yn adolygu'r meysydd lle nad oedd canlyniadau arholiadau'n llwyddiannus ac yn datblygu'r cymorth perthnasol wedi'i deilwra.
Roedd yr aelodau'n cydnabod bod y canlyniadau cyffredinol yn gadarnhaol iawn, ac y dylid llongyfarch y dysgwyr. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant eu bod wedi gwneud yn rhagorol o dda, a bod llythyr wedi'i anfon at bob ysgol i'w llongyfarch ar eu llwyddiant. Nododd yr aelodau hefyd fod llwyddiant sylweddol wedi cael ei gyflawni ymhlith y disgyblion Mwy Abl a Thalentog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 748 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i'r aelodau adolygu'r Flaenraglen Waith ac ystyried adroddiadau a ddosbarthwyd y tu allan i broses y pwyllgor ers y cyfarfod diwethaf ar 4 Medi 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1: fod yr adroddiad ar y Cwricwlwm Newydd yn cael ei symud i gyfarfod yn y dyfodol bod adroddiad y Gwasanaeth Ieuenctid yn cael ei gyflwyno yn y cyfarod nesaf ar 25 Tachwedd 2019 7.2: y dylid gwahodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i'r cyfarfod nesaf
7.3: bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gorwariant a ragwelir ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn y cyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd 2019
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 4YDD O FEDI 2019 PDF 319 KB Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019 yn gofnod cywir.
|