Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Llun, 23ain Tachwedd, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michelle Evans Thomas  01267 224470

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

M.J.A. Lewis

 

5 – Strategaeth Addysg a Gwasanaethau Plant

Llywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin                           

 

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

EFFAITH COVID-19 AR BLANT A PHOBL IFANC SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn sgil y pandemig Covid-10, yr effaith ar ein plant a'n pobl ifanc ac ymateb yr Adran/Cyngor i'r heriau a wynebwyd dros y chwe mis diwethaf.

 

Er nad oedd yr adroddiad yn cwmpasu'r holl agweddau ar waith yr Adran ers mis Mawrth, roedd yn rhoi cipolwg ar rai o'r heriau a'r atebion a ddatblygwyd i fynd i'r afael â'r heriau hynny. 

 

Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau ac ysgolion yr adran yn parhau i fod o dan bwysau o ganlyniad i Covid-19.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mae llawer o sôn am Covid hir a gofynnwyd i swyddogion faint o ystyriaeth a roddir i hyn mewn perthynas â dyfodol y plant sydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd ac effaith y pandemig ar lythrennedd a rhifedd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y mater hwn wedi'i ystyried ers dechrau mis Medi. Mae swyddogion yn gweithio'n galed gyda phenaethiaid i gadw ysgolion ar agor, ond mae llesiant plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi arwain at cyflogi 28 o athrawon a 49 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol ar draws ein hysgolion. Cynhelir cyfarfodydd yn wythnosol â phenaethiaid i edrych ar y mater hwn ac i baratoi strategaethau. Bydd cymorth ar gael am gryn amser i gynorthwyo ysgolion a'u cefnogi drwy'r cyfnod heriol hwn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod yr adran wedi cyhoeddi Strategaeth Llesiant yn ddiweddar a oedd yn manylu ar y mesurau amrywiol sydd ar gael i gefnogi plant a staff. O ran llythrennedd a rhifedd, mae'r rhain yn rhan o'r cynlluniau addysgu. Ychwanegodd fod swyddogion yn edrych yn ofalus ar hyn a'u bod yn trafod dulliau amrywiol a allai helpu, er enghraifft dysgu carlam;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod llawer o feithrinfeydd yn mynd drwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd ac efallai y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod swyddogion wedi bod yn cefnogi darparwyr cyn-ysgol ers dechrau'r pandemig fel bod gweithwyr allweddol yn gallu mynd i'r gwaith. Rhoddwyd grantiau i rai ohonynt i sicrhau eu bod yn parhau i oroesi. Yn anffodus, dim ond canran fach o fusnesau a lwyddodd i gael y Grant Darparwyr Gofal Plant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei bod yn anodd bodloni'r meini prawf. Felly mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych ar hynny. Mae grantiau hefyd ar gael gan y Cyngor Sir ac mae 88 o grantiau wedi cael eu rhoi i fusnesau hyd yma;

·         O ran y fenter lle darperir offer cyfrifiadurol i blant ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud, gofynnwyd i swyddogion sut y gweithredir y cynllun hwn. Eglurodd yr Aelod Gweithredol o'r Bwrdd ei bod wedi dod i'r yn amlwg fod llawer o ddisgyblion o dan anfantais oherwydd nad oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

STRATEGAETH ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT 2020-2025. pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Gwasanaethau Addysg. Mae gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldebau diffiniedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc. Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae Gwasanaethau Addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y strategaeth, yn dilyn adborth gan y Bwrdd Gweithredol, bellach yn cwmpasu cyfnod o 10 mlynedd rhwng 2020 a 2030.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y datganiad yn y strategaeth na fyddai mwy na dau gr?p blwyddyn ym mhob dosbarth addysgu a mynegwyd pryder ynghylch goblygiadau hynny ar gyfer ysgolion gwledig bach. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai'r strategaeth yw gweledigaeth yr adran ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac un o'r elfennau ynddi fyddai peidio â chael grwpiau cymysg ac mai llesiant y plentyn oedd y sylfaen ar gyfer hyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod nifer o heriau'n wynebu ysgolion llai y gellir eu goresgyn drwy ffedereiddio a rhannu adnoddau.  Mae 95 o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, sef y nifer uchaf mewn unrhyw sir yng Nghymru;

·         Er y cytunir yn llwyr â'r datganiad yn yr adroddiad fod gan Sir Gaerfyrddin lawer o arweinwyr addysg ysbrydoledig, gofynnwyd i swyddogion beth sy'n digwydd i'r arweinwyr talentog hynny pan na allant wneud y gwaith mwyach am nad ydynt yn gallu ymdopi â'r straen.  Cytunodd yr Aelod Gweithredol o'r Bwrdd fod y sefyllfa'n un heriol ac efallai mai dyma pam ei bod mor anodd penodi penaethiaid ar gyfer ysgolion bach. Mae'r adran yn cadw mewn cysylltiad â phob pennaeth ac yn cynnig cymorth lle bo angen.  Tynnodd sylw at y ffaith bod Covid, yn anffodus, wedi ychwanegu at y straen.  Cytunodd y Cyfarwyddwr fod y sefyllfa'n un heriol, ond bod penaethiaid mewn cyfnod pontio. Er nad oedd ateb hawdd, cynigiodd yr adran gymaint o gymorth a phosibl, a phan fo ysgol yn tanberfformio oherwydd bod y pennaeth o bosibl yn ei chael hi'n anodd, cynigir cymorth ychwanegol i sicrhau nad yw hyn yn cael unrhyw effaith ar y disgyblion;

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydnabod y pwysau sydd ar dimau uwch-arweinwyr mewn ysgolion o ran Covid a'r cwricwlwm newydd, sy'n heriol iawn. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r llwyth gwaith. Ychwanegodd na fydd Estyn yn arolygu ysgolion am beth amser, a bydd hyn yn gwaredu rhywfaint o bwysau.  Ychwanegodd mai dim ond hyn a hyn y gall swyddogion ei wneud ac efallai fod angen i rywbeth yn yr ysgol newid;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod pob ysgol mewn clystyrau a'u bod yn gweithio ar y cwricwlwm. Awgrymwyd, pan fydd clystyrau ysgolion uwchradd yn cyfarfod â'i gilydd, y dylent wahodd yr ysgolion cynradd sy'n eu bwydo i’w cynghori er mwyn sicrhau parhad dysgu ac osgoi gweld y safon a gyflawnir yn gostwng pan fydd disgyblion yn dechrau ym mlwyddyn 7. Cytunodd y Cyfarwyddwr fod llawer y gallai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

RMA - CYNNIG I LEIHAU’R BROSES BENDERFYNU FEWNOL YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod pob aelod o dîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg (MEP), o ganlyniad i bandemig Covid-19, wedi'u hadleoli am gyfnod o tua 4 mis i weithio mewn meysydd hollbwysig eraill yn yr adran ac felly dim ond ychydig bach iawn o waith prosiect y gallent ei gwblhau. Cyn y pandemig, roedd y tîm wedi bwriadu cynnal nifer o ymgynghoriadau statudol (mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion neu faterion ffedereiddio) gan ddechrau ar unwaith, a bu'n rhaid gohirio pob un ohonynt, gyda dyddiadau newydd i'w cadarnhau. Nid oedd hyn yn cynnwys unrhyw waith ad-drefnu ysgolion statudol a fyddai wedi'u dwyn ymlaen o ganlyniad i gasgliad adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

Arweiniodd y gwaith o adleoli tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg at oedi o tua 6 mis o ran cynigion ad-drefnu ysgolion oherwydd yr angen i sefydlu amserlenni newydd ar gyfer pob cynnig a diweddaru'r holl ddogfennau gyda'r setiau data diweddaraf. O ran rhaglen fuddsoddi Cyngor Sir Caerfyrddin, caewyd pob prosiect gyda chontractwyr ar y safle ar adeg y cyfyngiadau symud cychwynnol, gyda dyddiadau ailgychwyn yn cael eu cymeradwyo'n barhaus i ganiatáu i waith barhau.  O ganlyniad, rhagwelwyd y bydd y pandemig yn cael effaith sylweddol ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg o ran cyllid ac amserlenni.

 

Roedd tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg bellach wrthi ar hyn o bryd yn ymgymryd â'r holl waith a gynlluniwyd cyn y pandemig ac roeddent yn gweithio ar ddatblygu Adolygiad y Rhaglen Moderneiddio Addysg ac amserlenni newydd ar gyfer yr ymgynghoriadau statudol a ohiriwyd. Y gobaith oedd y gellid parhau i wneud yr holl faterion perthnasol oedd yn ymwneud â phrosiectau o fewn amserlen a oedd cyn agosed â phosibl at yr amserlen wreiddiol, ond disgwylid y byddai rhywfaint o oedi cyn y gellir penderfynu ynghylch hyn a gweithredu.

 

Er mwyn gallu symud ymlaen ag unrhyw gynigion ynghylch ad-drefnu ysgolion (y gellid eu cysylltu â phrosiectau buddsoddi), rhoddwyd ystyriaeth i fyrhau'r Broses Benderfynu Ynghylch Trefniadaeth Ysgolion Mewnol unwaith eto. Er y derbyniwyd na fydd byrhau'r broses yn lleihau'r oedi a gafwyd oherwydd y pandemig, bydd yn helpu tîm y Rhaglen Moderneiddio Addysg rhywfaint i ail-flaenoriaethu ymgynghoriadau gofynnol mewn ffordd effeithiol ac amserol.

 

 

Nodwyd bod angen ymgynghori ar hyn o bryd â'r Pwyllgor Craffu a'r Bwrdd Gweithredol yng Nghamau 1 a 2 gan ychwanegu Cyngor llawn yng Ngham 3 er mwyn penderfynu ynghylch y cynnig. Cynigiwyd dileu'r broses ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu yng Nghamau 2 a 3.  Y rheswm am hyn yw bod y Bwrdd Gweithredol yn gallu cymeradwyo Cam 2 a bod y Cyngor Sir yn gallu cymeradwyo Cam 3. Byddai'r broses yn cymryd 2 fis yn llai drwy wneud hyn. Felly, byddai'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo fel a ganlyn:-

 

Cam 1 Bwrdd Gweithredol a Phwyllgor Craffu: Addysg a Phlant

Cam 2 Y Bwrdd Gweithredol

Cam 3 Y Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor Sir

 

Roedd y cynnig yn dal i sicrhau bod y Pwyllgor Craffu yn gallu ystyried y cynnig yn ffurfiol cyn cytuno ar unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ac roedd hefyd yn caniatáu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT 2019/20. pdf eicon PDF 303 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20 ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2019/20.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 2019/20.

 

 

8.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG & PHLANT AR GYFER 2020/21. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor 2020/21, a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ar gyfer 2017/18.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11EG MAWRTH, 2020. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y dylid diwygio enw Dr Caryl James, Ysgol Pen-boyr i Dr Carol James, Ysgol Pen-boyr a Hafodwenog yn y rhestr o'r rhai a oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Mawrth 2020 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

 

10.

GOHIRIO'R CYFARFOD AC AIL YMGYNNILL AM 2.00 P.M. ER MWYN YSTYRIED WEDDILL Y BUSNES AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd yn y rhan hon o'r cyfarfod y byddai'r cyfarfod yn cael ei ohirio tan 2.00 p.m.

 

Y CYFARFOD A AILYMGYNULLWYD

 

Ailymgynullodd aelodau'r Panel am 2.00pm.

 

YN BRESENNOL: Y Cynghorydd D. Price [Chair]

 

Y Cynghorwyr:

L. Bowen, K.V. Broom, D.M. Cundy (in place of B. Thomas), I.W. Davies,  B.W. Jones, D. Jones, G.R. Jones, M.J.A. Lewis, E.M.J.G. Schiavone, E.G. Thomas and D.T. Williams

 

Aelodau Cyfetholedig:

A. Enoch                   -           Rhiant-lywodraethwr

V. Kenny               -          Cynrychiolydd o'r Eglwys Gatholig

 

Hefyd yn bresennol:

Y Cynghorydd G. Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant

 

Roedd y Swyddogion canlynol yn bresennol yn y cyfarfod:

G. Morgans - Director of Education & Children's Services

S. Davies - Head of Access to Education

A. Rees - Head of Curriculum and Wellbeing

S. Smith - Head of Children's Services

A. Thomas - Head of Education and Inclusion Services

S. Griffiths - Modernisation Team Manager

J. Antoniazzi - Lead Officer for Behaviour Services

M. Evans Thomas - Principal Democratic Services Officer

A. Eynon - Principal Translator

E. Bryer - Democratic Services Officer

R. Lloyd - Democratic Services Officer

J. Corner – Swyddog Technegol

 

 

 

11.

RMA - CYNNIG I AD-DREFNU YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120. pdf eicon PDF 380 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu cynnig i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd o 75 i 120.

 

Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol arbennig yn Llanelli ac mae'n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer 75 o ddisgyblion rhwng 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae gan bob disgybl Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol.  Ar hyn o bryd roedd mwy o blant yn Ysgol Heol Goffa na'r lleoedd oedd ar gael ac roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld gan fod galw cynyddol am leoedd a oedd yn rhoi pwysau sylweddol ar yr Awdurdod Lleol i leoli disgyblion. Y nifer presennol o leoedd yn Ysgol Heol Goffa yw 75 gyda 101 o ddisgyblion ar y gofrestr ar ôl Ionawr 2020.  O ganlyniad, roedd yr Awdurdod wrthi'n datblygu cynllun i gynyddu'r lleoedd yn Ysgol Heol Goffa i 120 o leoedd drwy ddarparu ysgol newydd â chyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ar safle newydd.  Roedd y safle newydd arfaethedig wedi'i leoli wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar.

 

Roedd ymgynghoriad ffurfiol wedi'i gynnal rhwng 21 Medi 2020 ac 1 Tachwedd 2020, ac roedd yr ymatebion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder nad oedd y gwaith ehangu arfaethedig efallai yn ddigon mawr i ddiogelu'r ysgol at y dyfodol, o gofio'r angen amlwg am y ddarpariaeth yn yr ardal. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod swyddogion yn ceisio cynllunio ymlaen o ran pob cynllun ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'r Awdurdod yn cael 75% o arian grant tuag at gost y cynllun, ond nid oedd yn bosibl defnyddio'r arian hwn i ddarparu lleoedd ychwanegol.  Byddai'n anodd iawn cyfiawnhau cynnydd yn y ddarpariaeth i Lywodraeth Cymru.  Mae swyddogion yn hyderus bod y ffigur o 120 wedi'i bennu'n iawn;

·         Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ffigur presenoldeb yn yr ysgol eisoes yn 101 a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl ymestyn yr ysgol yn y dyfodol petai angen.  Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y posibilrwydd o ehangu yn y dyfodol wedi'i gynnwys wrth adeiladu ysgolion newydd dros y blynyddoedd diwethaf;

·         Cyfeiriwyd at y diffyg manylion yn yr Asesiad o'r Effaith ar Ansawdd (QIA). Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod templed corfforaethol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr Asesiad o'r Effaith ar Ansawdd.  Byddai'n ystyried y sylwadau ac os oes angen cynnwys mwy o resymeg yn hytrach na gwneud "dim sylw" yna gwneir hynny;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod y ddarpariaeth hon wedi'i lleoli mewn ysgolion uwchradd yn Rhydaman a Chaerfyrddin er mwyn hwyluso'r broses o integreiddio'n haws i addysg brif ffrwd, ond yn Llanelli y ddarpariaeth oedd ysgol ar wahân a phwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hi fod plant yn gallu cymysgu â'u cyfoedion a'u bod yn cael pob cyfle i fynd i addysg prif ffrwd.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

RMA - CYNNIG I ADOLYGU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YN ARDALOEDD BLAENAU A LLANDYBIE. pdf eicon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Blaenau a Llandybïe.

 

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo yn yr ardal ac a yw'n llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.

 

Mae Ysgol Gynradd Blaenau yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei lleoli ym mhentref Blaenau ac mae lle i 99 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng. Ym mis Ionawr 2020 roedd 34 o ddisgyblion yn yr ysgol a oedd yn golygu bod 65 o leoedd gwag neu 66%. Mae Llywodraeth Cymru, drwy'r Côd Trefniadaeth Ysgolion, yn cynghori Awdurdodau Lleol i adolygu eu darpariaeth lle bo mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal.  Yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol ynghylch nifer y disgyblion, amcangyfrifwyd y bydd nifer y disgyblion yn parhau i fod yn isel yn y dyfodol rhagweladwy.  Yn ogystal, roedd cyflwr adeilad yr ysgol yn wael ac mae'r ysgol wedi bod mewn diffyg ers 2011/12 ac yn parhau i fod â diffyg o £83,895 ar gyfer 2019/20.  Y dyraniad cyllid gwreiddiol ar gyfer 2020/21 oedd £149,000 a'u rhagolwg am y flwyddyn yw y bydd y diffyg yn cynyddu.

 

O safbwynt addysgol mae cael cyn lleied o ddisgyblion ond â dosbarthiadau oedran cymysg yn ei gwneud yn anodd iawn i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder o ran profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol y mae ar ddisgyblion yr oedran hwn eu hangen i ddatblygu'n llawn. Mae'r ffeithiau anochel hyn wedi arwain yn y pen draw at fodel ysgol nad yw'n fodel addysgol gadarn na sefydlog nac yn ddefnydd gorau o'r adnoddau. Gan na ddisgwylir gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd angen ystyried cynaliadwyedd yr ysgol.

 

Mae Ysgol Gynradd Llandybïe yn ysgol gynradd drawsnewidiol (gweithio tuag at fod yn gyfrwng Cymraeg) i blant 3-11 oed. Lleolir yr ysgol ym mhentref gwledig Llandybïe.  Mae'n ysgol lwyddiannus a oedd yn llawn erbyn mis Ionawr 2019 ac er bod gostyngiad bach yn nifer y disgyblion ym mis Ionawr 2020 roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol o ran y disgyblion. O ganlyniad, mae'r Awdurdod Lleol yn datblygu cynllun i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Llandybïe i 315 a 45 o leoedd meithrin drwy ddarparu ysgol newydd ar safle newydd, gyda chyfleusterau sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif. Bydd y prosiect yn adleoli Ysgol Gynradd Llandybïe o'i safle presennol i safle newydd sydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gynradd Llandybïe. Bydd yr ysgol newydd yn darparu adeilad ysgol gynradd o safon Llywodraeth Cymru gyda'r gallu i ddarparu ar gyfer 315 o ddisgyblion a 45 o ddisgyblion meithrin rhwng 3 a 11 oed, a sicrheir bod yr ysgol yn gallu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

RMA - AD-DREFNU AC AILFODELU GWASANAETHAU CYMORTH YMDDYGIAD YN YSGOL RHYDYGORS I WELLA'R DDARPARIAETH AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC. pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynnig i ad-drefnu ac ailfodelu Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Yn dilyn adolygiad strategol o Wasanaethau Ymddygiad yr Awdurdod, cynigiwyd rhoi'r gorau i ganolbwyntio'n unig ar ymddygiad a defnyddio dull mwy cyffredinol o gynnwys llesiant disgyblion ac ennyn eu diddordeb. Er mwyn cyflawni hyn, mae model pedwar cam o wasanaethau ymddygiad wedi cael ei ddatblygu a oedd yn cynnwys darparu cymorth o ran ymddygiad ac ymgysylltu ar bedair lefel. Mae'r cymorth yn amrywio o ymyrraeth a chymorth mewn ysgolion prif ffrwd i leoliadau seibiant neu breswyl arbenigol.

 

Ar hyn o bryd, mae gan yr Awdurdod ystod o leoliadau lle caiff disgyblion eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys Ysgol Rhyd-y-gors, Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion uwchradd), Canolfan Bro Tywi (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion cynradd) a Chanolfan y Gors (Uned Cyfeirio Disgyblion ar gyfer disgyblion uwchradd sydd â phroblemau sylweddol o ran gorbryder a/neu lesiant emosiynol a phroblemau iechyd meddwl sydd angen cefnogaeth gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Mae gweledigaeth y model pedwar cam yn cynnwys annog pob un o'r lleoliadau hyn i gydweithio fel un Tîm y Gwasanaeth Cymorth ar gyfer Ymddygiad Arbenigol a Llesiant. Un o'r prif ffyrdd o gyflawni hyn yw creu cysondeb yn y math o ddarpariaeth a gynigir ym mhob un o'r lleoliadau a chreu system sy'n sicrhau bod cysylltiadau ag ysgolion prif ffrwd.

 

Ar hyn o bryd, unwaith y bydd plentyn yn cael ei roi yn Rhyd-y-gors, mae'r dystiolaeth hanesyddol yn awgrymu bod y person ifanc yn aros yno hyd nes ei fod yn 16 oed heb unrhyw brofiad pellach o fod mewn prif ffrwd. Mae'r Model Pedwar Cam newydd yn datblygu gwasanaethau cymorth ymddygiad i ganiatáu mynediad haws at ymyrraeth gynnar fel bod gan ysgolion fynediad uniongyrchol i aelod o dîm y Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad a fydd yn cael ei hyfforddi mewn dulliau adferol, arferion sy'n ymwybodol o drawma ac sy'n datblygu'n broffesiynol yn barhaus i gefnogi anghenion eu clwstwr o ysgolion.

 

Mae yna ddysgwyr bob amser sydd ag anghenion cymhleth ac sydd angen pecynnau cymorth cadarn y tu allan i ddarpariaeth brif ffrwd ond mae ethos yr Awdurdod yn cefnogi cynwysoldeb ac yn datblygu cymorth a gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan anghenion. O fewn y model Pedwar Cam, pan argymhellir bod plentyn yn cael lle yng Nghamau 3 neu 4 dylai fod cyfle bob amser i ddychwelyd i'r brif ffrwd, neu hyd yn oed gael mynediad i'r brif ffrwd ar gyfer pynciau sydd yn ennyn eu diddordeb mewn modd cadarnhaol, ac nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar ddysgu rhai eraill, pan all y person ifanc reoli emosiynau a chymryd rhan yn ei addysg mewn modd cadarnhaol a diogel. Gellir gwneud hyn drwy fonitro ac asesu parhaus a chyda pherthynas agos, dryloyw sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth â'n hysgolion prif ffrwd.

 

Er mwyn cysondeb, mynediad at gymorth arbenigol iawn, mynediad i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

RMA - CYNNIG I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL SWISS VALLEY O 4-11 I 3-11. pdf eicon PDF 472 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnig i newid yr ystod oedran yn Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11 oed. 

 

Mae Ysgol Dyffryn y Swistir wedi bod yn cynnal cynllun peilot i fod yn ysgol 3-11 ers 2013 a gychwynnwyd yn rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru i roi hyblygrwydd a dewis i rieni o ran darpariaeth feithrin. Fodd bynnag, gan fod yr ysgol yn cael ei hysbysebu'n swyddogol ar hyn o bryd fel ysgol 4-11 oed, roedd rhieni'n gymysglyd ynghylch pa ddarpariaeth feithrin a gynigir gan yr ysgol neu nid oeddynt yn ymwybodol o'r ddarpariaeth.

Nod y cynnig oedd darparu darpariaeth gyfartal yn ardal Llanelli, gan alinio Ysgol Dyffryn y Swistir ag ysgolion cyfagos a oedd eisoes yn ysgolion 3-11 oed. Roedd y corff llywodraethu a'r pennaeth yn teimlo'n gadarnhaol yn dilyn canlyniad y cynllun peilot ac roeddent bellach am fwrw ymlaen â gwneud yr ysgol yn ysgol 3-11 oed yn swyddogol drwy broses statudol.

 

Felly cynigiwyd newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11 o 1 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

14.1      gymeradwyo'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn y Swistir o 4-11 i 3-11 o 1 Medi 2021, fel y nodir yn yr adroddiad;

14.2      argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod proses ymgynghori ffurfiol yn cael ei chynnal.

 

 

15.

RMA - CYNNIG I ADOLYGU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD YN ARDALOEDD MYNYDDYGARREG A GWENLLIAN. pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar gynnig i adolygu'r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardaloedd Mynyddygarreg a Gwenllian.

 

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo mewn ardal ac a yw'n llwyddo ai peidio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddarparu'r cyfleoedd y mae plant yn eu haeddu.

 

Mae Ysgol Gynradd Mynyddygarreg yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg sydd wedi ei lleoli ym mhentref Mynyddygarreg ac mae lle i 55 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ond maent yn dal i fod tipyn yn is na nifer y lleoedd. Dangosodd ffigurau Ionawr 2020 fod 36 o ddisgyblion yn yr ysgol a bod 19 o leoedd gwag, neu 35%. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori Awdurdodau Lleol i adolygu eu darpariaeth lle bo mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal. Yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol, amcangyfrifwyd y bydd nifer y disgyblion yn parhau tipyn yn is na nifer y lleoedd yn y dyfodol rhagweladwy.  Yn ogystal, roedd cyflwr adeilad yr ysgol yn wael ac roedd yr ysgol wedi bod mewn diffyg ers 2016/17 ac mae'n parhau i fod â diffyg o £48,265 wrth gamu i flwyddyn ariannol 2020/21.  Eu dyraniad cyllid gwreiddiol ar gyfer 2020/21 oedd £172,000.

 

O safbwynt addysgol mae bod â chyn lleied o ddisgyblion a dosbarthiadau oedran cymysg yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i'r ysgol ddarparu ehangder a dyfnder o ran y profiadau cwricwlaidd a chymdeithasol y mae ar ddisgyblion o’r oedran hwn eu hangen i ddatblygu'n llawn. Roedd y ffeithiau anochel hyn wedi arwain yn y pen draw at fodel ysgol nad yw'n fodel addysgol gadarn na sefydlog nac yn ddefnydd gorau o'r adnoddau. Gan na ddisgwylir gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd angen ystyried cynaliadwyedd yr ysgol.

 

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg 3-11 oed yw Ysgol Gymraeg Gwenllian sydd wedi'i lleoli yng Nghydweli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ac ychydig yn is na chapasiti'r ysgol o 140.  Fodd bynnag, yn seiliedig ar amcanestyniadau cyfredol disgyblion, roedd disgwyl i nifer y disgyblion gynyddu ac roedd disgwyl i'r ysgol fod bron yn llawn erbyn 2025 ac roedd y duedd hon yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld. O ganlyniad, mae'r Awdurdod Lleol yn datblygu cynllun i ddarparu cyfleusterau i ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ar safle newydd.

 

Byddai'r prosiect yn adleoli Ysgol Gymraeg Gwenllian o'i safle presennol i safle newydd sydd o fewn dalgylch presennol Ysgol Gymraeg Gwenllian. Bydd yr ysgol newydd yn darparu adeilad ysgol gynradd o safon Llywodraeth Cymru gyda'r gallu i ddarparu ar gyfer 240 o ddisgyblion (210 + 30 o leoedd ar gyfer oedran meithrin) rhwng 3 ac 11 oed, a sicrheir bod yr ysgol yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm llawn mewn amgylcheddau dysgu modern, diogel ac ysbrydoledig gydag ardaloedd allanol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.