Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Mercher, 11eg Mawrth, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, E. Thomas a J. Jenkins

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai'r cyfarfod diwethaf ar gyfer Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a oedd wedi cyrraedd diwedd cyfnod eu penodiad. Diolchodd iddynt am eu hamser, eu gwaith caled a'u hymroddiad a dymunodd yn dda iddynt.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd dim wedi dod i law.

4.

CWRICWLWM NEWYDD pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau gyflwyniadau ar y Cwricwlwm Newydd a chododd y materion canlynol –

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar sut y gellir canolbwyntio ar ddosbarth o 30 o ddisgyblion yn unigol at ddibenion cwricwlwm sy'n cael ei arwain gan ddysgwyr/plant, cynghorwyd yr Aelodau mai prif nod y cwricwlwm newydd oedd darparu'r addysg orau i bob plentyn. Nid yw'r cwricwlwm ei hun yn gwricwlwm unigoledig ond bydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac nid ar y canlyniad terfynol, gan roi mwy o bwyslais ar symud y dysgwr ymlaen. Cyfeiriodd yr Aelodau at ddisgyblion sydd â chyraeddiadau is a dywedwyd bod y cwricwlwm newydd yn cynnig profiad dysgu i unigolion ar draws ystod ehangach o bynciau.

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu y byddai Addysg Grefyddol fel pwnc yn mynd ar goll o fewn y dyniaethau yn y cwricwlwm newydd, ond dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant nad oedd hyn yn debygol. Dywedodd hefyd ei fod yn parhau i fod yn ofyniad statudol i ddarparu Addysg Grefyddol a bod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Byddai Addysg Grefyddol hefyd yn rhan o'r cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar ddinasyddiaeth a diwylliant.

 

Nododd yr Aelodau, gan fod data Llywodraethwyr Ysgolion yn cael ei ddefnyddio i graffu ar faterion a'u nodi, efallai na fydd hyn yn bosibl gyda'r cwricwlwm newydd. Dywedodd Pennaeth Diwygio'r Cwricwlwm ac Arloesedd na fyddai data sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn adlewyrchu'r hyn yr oedd disgybl wedi'i ddysgu, dim ond pa mor galed yr oedd wedi gweithio ar gyfer arholiad penodol, ond, nod y cwricwlwm newydd yw creu pobl sy'n gallu perfformio'n well yn y gweithle, nid ar adeg arholiadau TGAU yn unig. Yn y dyfodol, byddai angen i'r pwyllgor craffu ganolbwyntio ar y cynnydd a wnaed a allai olygu bod angen proses adolygu fwy ymarferol yn nhrefniadau llywodraethu ysgolion. Mae ERW yn datblygu hyfforddiant i lywodraethwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm newydd.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch faint o amser paratoi a neilltuwyd ar gyfer ysgolion er mwyn iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, gan nodi bod yr amser yn cyfateb i un wythnos. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod barn gyffredinol bod yr amser a neilltuwyd yn annigonol, fodd bynnag, mae deddfwriaeth yn pennu sawl diwrnod y flwyddyn y mae'n ofynnol i blentyn fod yn yr ysgol, ac felly faint o ddiwrnodau y gall staff ei dreulio yn cynllunio heb fod mewn ystafell ddosbarth. Dywedodd y Cyfarwyddwr hefyd y byddai'n codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru.

 

Mewn perthynas â'r pwynt blaenorol, gofynnodd yr Aelodau a oedd ysgolion yn gwneud paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd a rhoddwyd gwybod iddynt fod oddeutu 55% o ysgolion wedi mynychu digwyddiadau ERW yn ddiweddar a bod mwyafrif helaeth o arweinwyr ysgolion yn falch bod cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

GWEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr adroddiad anghywir wedi cael ei ddarparu. Dosbarthwyd y wybodaeth ddiweddaraf yn nodi bod yr holl gamau gweithredu ac atgyfeiriadau wedi'u cwblhau i'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Adolygodd yr Aelodau adroddiad yn amlinellu'r rhesymau dros beidio â chyflwyno adroddiadau fel y nodwyd yn y Flaenraglen Waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL A'R BLAENRAGLEN WAITH pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau'n ystyried yr eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD 23 IONAWR 2020 pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.