Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 4ydd Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan I.W Davies, J. Jenkins, G. Cornock-Evans, S. Najmi a D. Richards.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs M Mothobi, Swyddog Addysg o Lesotho, i'r cyfarfod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

V. Kenny

4

Mae perthynas iddi'n gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

G. Jones

5

Mae ei briod yn gweithio yn yr Adran Addysg

D. Jones

5

Perthnasau iddi'n gweithio yn yr Adran Addysg

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella ystod eang o wasanaethau cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol. Roedd yn rhoi sylw i bob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2018/19, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20.  Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Cyfarwyddiaethau y Gwasanaethau Cymunedol ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar gais Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, rhoddodd yr aelodau adborth ar gynnwys a fformat yr adroddiad, a nodwyd ganddynt feysydd yn yr adroddiad yr oedd angen eu datblygu'n bellach. Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol am y gwaeth a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac am baratoi'r adroddiad hwn.

 

Codwyd yr arsylwadau / cwestiynau canlynol ar y wybodaeth a oedd yn yr adroddiad:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad o ran pennu targedau a mesur perfformiad yn y gwasanaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod gwahanol feysydd yn mesur llwyddiant mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft mae gostyngiad mewn ymyrraeth yn cael ei ystyried yn llwyddiant mewn rhai meysydd, ond mewn meysydd eraill roedd yn bosibl mesur perfformiad cadarnhaol trwy gynnydd neu ostyngiad canrannol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am beth oedd yn cael ei wneud i ddatblygu darpariaeth arbenigol ar gyfer anghenion cymhleth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yna bosibilrwydd y byddai adnodd anghenion cymhleth preswyl yn cael ei ddatblygu. Nodwyd bod rhai awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn gosod plant ag anghenion cymhleth mewn lleoliadau preswyl yn yr Alban, ac mae'n amlwg bod angen datblygu'r math hwn o wasanaeth yn lleol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at graff ar dudalen 24 yr adroddiad a oedd yn rhoi cipolwg ar nifer y plant oedd ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31 Mawrth 2019, a gofynnwyd a oedd perygl y gallai'r plant gael eu rhoi nôl ar y gofrestr. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol y gallai nifer fach gael eu rhoi nôl ar y gofrestr, er hynny mae modd eu holrhain a byddai'n bosibl cynnwys y wybodaeth yn yr adroddiad. Yn ogystal, roedd adran o'r adroddiad dan sylw yn nodi bod 84.6% yn fodlon ar y gofal a'r gefnogaeth, a gofynnodd yr aelodau pa fesurau oedd ar waith i olrhain y 15.4% nad oeddent yn fodlon â'r gofal a'r gefnogaeth a dderbyniwyd. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod data cymharol y blynyddoedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2019/20 - DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU DRAFFT pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gwmpas yr ymchwiliad Gorchwyl a Gorffen nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1 derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.2 cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

5.3 bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

·         Y Cynghorydd Kim Broom

·         Mr James Davies

·         Y Cynghorydd Gary Jones

·         Y Cynghorydd Shahana Najmi/John Jenkins

·         Y Cynghorydd Darren Price (Cadeirydd)

·         Y Cynghorydd Edward Thomas (Is-Gadeirydd)

·         Y Cynghorydd Dorian Williams

 

6.

AMSERLEN DDRAFFT Y FLAENRAGLEN WAITH 2019/20 pdf eicon PDF 114 KB

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor Amserlen y Flaenraglen Waith a dywedwyd y byddaidogfen fanylach yn cael eidosbarthu.Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y byddai ymweliadau safle a gweithdai ychwanegol yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn a diwrnod craffu ymchwiliol ar Ffedereiddio Ysgolion ar 6 Tachwedd 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 30 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad canlynol:-

 

-  Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion

-  Camau Gweithredu ac Atgyfeiriadau

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 Dylai'r Wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ddigidol ar gyfer   

      Ysgolion gael ei dosbarthu i aelodau y tu allan i broses y pwyllgor;

8.2 Dylid cyflwyno'r Adroddiad am Gamau Gweithredu ac Atgyfeiriadau

      yn y cyfarfod nesaf

 

9.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24AIN O EBRILL 2019 pdf eicon PDF 332 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2019 yn gofnod cywir.