Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Iau, 6ed Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

J.Jenkins a S. Najmi.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

G. Jones

5. Diweddariad am y Gwasanaeth Cerdd

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

D. Jones

5. Diweddariad am y Gwasanaeth Cerdd

Mae ei phlant yn defnyddio'r Gwasanaeth Cerdd ac mae perthnasau iddi'n gweithio yn yr Adran Addysg

 

 

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

DIWEDDARIAD RHAGLEN DRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 507 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at dri amcan cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a'r chwe maes ffocws (a nodir ar dudalennau 9 a 10 o'r adroddiad).

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Nododd yr Aelodau fod y llinell amser yn yr adroddiad yn eithaf tynn a gofynnwyd a oedd yr adran yn hyderus y gallai gyflawni'r gwaith gofynnol o fewn yr amserlen. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud o ran cynyddu ymwybyddiaeth, gweithio mewn partneriaeth, yn benodol mewn perthynas â Chynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion (PCP), Cynlluniau Datblygu Unigol a Phontio Ôl-16. Roedd yr adran hefyd wedi nodi Hyrwyddwyr PCP i arwain hyfforddiant PCP, a ddylai sicrhau y bydd gan bob ysgol gynradd ac uwchradd Anogwr PCP erbyn diwedd 2020. Nodwyd hefyd bod yr awdurdod wedi arwain y cynllun peilot cychwynnol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn Ysgol Glan-y-Môr a'r ysgolion sy'n ei bwydo, ac o ganlyniad mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gyfarwydd ag egwyddor PCP a CDU. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol ei bod yn hyderus bod y gwaith angenrheidiol yn mynd rhagddo'n dda.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y chwe awdurdod lleol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig i gefnogi'r newidiadau. Er bod pryderon wedi'u mynegi mewn perthynas â chapasiti'r Bwrdd Iechyd i ddarparu clinigwr i fynychu pob ymweliad ysgol, mae'r Côd Ymarfer o fewn y Bil yn nodi'n glir yr hyn a ddisgwylir gan bob Bwrdd Iechyd a'i ddyletswydd mewn perthynas â darparu'r hyn sydd ei angen. Hefyd dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr awdurdod, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, yn rhoi mwy o bwyslais ar gyngor y Bwrdd Iechyd nag ar adroddiadau ffurfiol strwythuredig, gan nodi y gallai gymryd hyd at 26 wythnos i lunio CDU. Fodd bynnag, roedd presenoldeb y bobl gywir, e.e. Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac ati, mewn cyfarfodydd cynllunio yn galonogol. Cydnabu hefyd fod achosion mwy cymhleth yn cael eu hadolygu'n flynyddol a bod angen dull mwy ffurfiol o weithredu yn ystod y broses honno. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod gan y Bwrdd Iechyd Gr?p Llywio Amlasiantaeth y gall awdurdodau lleol weithio gydag ef, pe bai angen gwneud hynny.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y dulliau ymgynghori a nodwyd yn adran 5(ii) o'r adroddiad ac am ragor o wybodaeth. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol mai'r blaenoriaethau oedd meithrin partneriaethau da rhwng rhieni a lleoliadau er mwyn cefnogi hawliau'r plentyn, a dylid cyfleu'r blaenoriaethau hyn yn glir i'r rhieni er mwyn iddynt allu deall beth i'w ddisgwyl. Roedd nifer dda'n bresennol yn y gweithdai a hysbysebwyd ac mae cysylltiadau â'r isadran cynhwysiant wedi gwella drwy ddefnyddio Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gweithdai wedi'u cynnal ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

DIWEDDARIAD AR Y GWASANAETH CERDD: MAI/MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r aelodau at gyflawniadau diweddar a pharhaus y Gwasanaeth Cerdd.

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ateb i gwestiwn ynghylch y diffyg y nodwyd yn yr adroddiad ei fod wedi gostwng dros y blynyddoedd blaenorol, dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai £147,000 oedd y diffyg yn y flwyddyn flaenorol ac y gellid ystyried ei fod yn gysylltiedig ag elfen cyllid craidd y gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag integreiddio'r Gwasanaeth Cerdd yn y cwricwlwm newydd a'i effaith ar y ddarpariaeth yn y dyfodol. Dywedodd Cydgysylltydd y Gwasanaeth Cerdd fod cyfarwyddyd eisoes wedi'i gyhoeddi a bod llawer o'r meysydd a gwmpesir gan y Celfyddydau Mynegiannol eisoes ar waith, ond nid oedd yn glir a fyddai Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd pellach. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod rhai meysydd yn y Celfyddydau Mynegiannol sy'n gofyn am sgiliau trawsbynciol. Mae sawl awdurdod lleol wedi gosod Cerddoriaeth o fewn y Celfyddydau Mynegiannol, a hynny o bosibl er mwyn denu mwy o gyllid grant, ac mae eraill wedi cynnwys Cerddoriaeth yn y Dyniaethau. Nodwyd bod potensial a risg ynghlwm wrth bob un o'r modelau hyn, ond os ceir cyfarwyddyd pellach gan Lywodraeth Cymru, gallai'r sefyllfa fod yn wahanol iawn mewn chwech i naw mis. Nodwyd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dal cyllid yn ôl i ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori i wella'r ddarpariaeth ledled Cymru, gyda maes gorchwyl i wella mynediad ac i edrych ar yr arferion gorau presennol. Gallai hyn lywio dyfodol y gwasanaeth ymhellach.

 

Er eu bod yn cydnabod cyfyngiadau'r gyllideb, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y costau a drosglwyddir i ddisgyblion a'r cyngor a roddir i ysgolion mewn perthynas â chostau. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod ysgolion yn codi ffioedd amrywiol ar ddisgyblion e.e. £30 y tymor, a oedd yn cynnwys ensembles a gwersi. Ni chodir tâl ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim na disgyblion sy'n astudio TGAU neu Safon Uwch Cerddoriaeth. Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion yn trosglwyddo'r ffioedd i ddisgyblion. Cydnabu Cydgysylltydd y Gwasanaeth Cerdd y gallai ysgolion gael gwersi cerddoriaeth ar gyfradd is o ffynonellau allanol, ond na fyddai'n cynnwys ensemble, cerddorfa a chyrsiau preswyl. Drwy godi tâl am wersi cerddoriaeth mae ysgolion a'r gwasanaeth wedi gweld gwelliant mewn presenoldeb, ymarfer a datblygiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y penderfyniad i godi tâl neu beidio yn fater i bob Corff Llywodraethu; gallant gael eu cynghori gan y Gwasanaeth Cerdd ond pob ysgol unigol sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad. Dywedwyd bod £86,289 ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi a gwella'r ddarpariaeth cerddoriaeth o fewn unrhyw un o naw maes posibl, a bod Cymorth Prydau Ysgol am Ddim yn un maes. Cydnabu'r Cyfarwyddwr y gallai ysgolion elwa ar gyfarwyddyd cliriach mewn perthynas â ffioedd a'r modd y cânt eu codi.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd gwneud unrhyw beth arall i annog cyfranogiad. Dywedodd y Pennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 29 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad canlynol:-

 

-  Adroddiad Blynyddol Maethu

 

PENDERFYNWYD y dylid dosbarthu'r wybodaeth i'r Aelodau y tu allan i broses y pwyllgorau.

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

Gan gyfeirio at y Diweddariad am y Strategaeth Ysgolion digidol, gofynnodd yr Aelodau am i'r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys yn yr adroddiad, neu ei nodi gyda'r adroddiad -

 

- Sut y caiff y strategaeth ei hariannu a lefel y gwariant cyfalaf

- Yr hyfforddiant sydd ar gael i athrawon

- Ysgolion sy'n llwyddo yn y maes hwn ac ysgolion sy'n gwneud llai o gynnydd

- Lefel y cymorth a roddir i lywodraethwyr ysgol i ddeall yr agenda hon

- Y cymorth sydd ar gael gan yr adran i ysgolion nad oes ganddynt y seilwaith angenrheidiol. Ai mater i ysgolion mewn ardaloedd gwledig yn unig yw hwn?

- Y strategaeth mewn perthynas â'r newidiadau i'r cwricwlwm newydd

 

Hefyd, adolygodd yr Aelodau benderfyniad y Pwyllgor i ddosbarthu'r Agenda ar gyfer y cyfarfod yn electronig yn unig, a chytunwyd y byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn ddi-bapur - gan gydnabod y byddai pob cyfarfod o'r Cyngor yn ddi-bapur o 2 Medi 2019.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 - cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 4 Gorffennaf 2019

7.2 – y dylai pob cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn y dyfodol fod yn ddi-bapur.