Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Edward Thomas a Mrs V. Kenny (Cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

G. Jones

7

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

D. Jones

8

 

Mae ei meibion yn aelodau o Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

PLANT YN GYNTAF pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ychwanegol at yr adroddiad, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyflwyniad ar y dull Rhoi Plant yn Gyntaf a bu iddynt wylio ffilm fer ar brofiadau plant yn wardiau Glanymôr a Thy-isha yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y dull yn ceisio ysgogi newid ar lefel leol, yn seiliedig ar anghenion man penodol, a oedd wedi'u nodi drwy wrando ar blant a phobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y dull Rhoi Plant yn Gyntaf yn cyfrannu at liniaru effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, gan ymchwilio i ffyrdd mwy newydd ac effeithiol o drechu tlodi.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:

 

Nododd yr Aelodau nad oedd y gr?p llywio yn cynnwys cynrychiolaeth gan Heddlu Dyfed-Powys a grwpiau eraill a gâi eu hystyried yn allweddol i'r dull, a oedd hefyd yn rhannu'r un blaenoriaethau â'r Parthau Plant. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at droseddu ac ofn troseddu. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth mai newydd gychwyn oedd y Parthau Plant, ac wrth iddynt ddatblygu roedd yn debygol y byddai aelodaeth y gr?p llywio yn ehangu ac yn cynnwys Heddlu Dyfed-Powys.

 

Nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo unrhyw gyllid i'r dull hwn, gan fod hon yn cael ei hystyried yn ffordd wahanol o weithio ac nid yn waith newydd o reidrwydd. Cafodd swm bach ei neilltuo ar gyfer 2018/19 a oedd wedi ariannu amser swyddog am 2 ddiwrnod yr wythnos.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr ymrwymiad oedd yn cael ei geisio mewn perthynas â Rhoi Plant yn Gyntaf. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno er mwyn rhannu gwybodaeth â'r Aelodau. Yn y tymor hir byddai aelodau lleol yn rhan allweddol o'r dull. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant mai dull strategol o weithio oedd Rhoi Plant yn Gyntaf ac nid prosiect dan arweiniad y Gwasanaethau Plant yn unig. Er mwyn i'r dull hwn fod yn llwyddiannus a chael effaith ar gymunedau penodol, roedd angen ymrwymiad strategol hir dymor gan holl adrannau'r Awdurdod Lleol, yn ogystal ag ymrwymiad gan sefydliadau allanol i gydweithio.

 

Nodwyd bod y plant yn y ffilm fer wedi rhannu profiadau negyddol o fyw yn yr ardal, a gofynnodd yr aelodau am ragor wybodaeth ynghylch y gwasanaethau oedd ar gael yn yr ardal. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth fod Canolfan Deulu Sant Paul, Canolfan Blant Integredig y Morfa, a gwasanaethau cymorth eraill ar gael yn yr ardal. Roedd y rhan fwyaf o ward Ty-isha yn yr ardal roedd Dechrau'n Deg yn ei chwmpasu. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth y byddai'r dull Rhoi Plant yn Gyntaf yn tynnu ynghyd y gwasanaethau oedd ar gael eisoes ac yn adrefnu'r ddarpariaeth yn unol â dymuniadau plant lleol. Nodwyd mai byrdwn y dull hwn oedd chwilio am atebion o fewn y gymuned a gweithio tuag at roi'r rheiny ar waith; 'doing with, not doing to' yn Saesneg.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y Pentref Llesiant, sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a gofynasant a fyddai cyllid ar gael ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a datblygu i bobl leol, a hefyd ar gyfer datblygu'r ardal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig a chrynhoad ar lafar o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch parhad y ddarpariaeth rhwng Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod heriau ynghlwm wrth sicrhau darpariaeth yn y ddwy iaith a byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau ariannol darparu'r mesur addysg yn gydradd yn y ddwy iaith yn ein hysgolion 2B.

 

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cynnwys cyfeiriad at sefydlu un ysgol Gymraeg drwy beidio â chynnal pedair ysgol gynradd mwyach. Gofynnwyd am eglurhad pa ysgolion oedd wedi'u clustnodi i'w cau. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant na fyddid yn enwi'r ysgolion ond bod Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Pennaeth ym mhob ysgol yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gau. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd wedi cymeradwyo datgelu enwau'r ysgolion a glustnodwyd i'r aelodau lleol perthnasol.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y ddwy Ganolfan Iaith arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad. Roedd cymorth grant o £985,248 wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru i sefydlu dwy Ganolfan Iaith er mwyn codi safonau a chefnogi'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y pryderon yn ymwneud â chynaliadwyedd y Canolfannau Iaith yn y tymor hir, yn enwedig mewn perthynas â sicrhau cyllid refeniw parhaus. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod Canolfannau Iaith yn rhan o strategaeth ddatblygu genedlaethol ehangach ac roedd yn hyderus y byddai cyllid tymor hir yn parhau i gael ei geisio gyda Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad am y term 'ysgolion trosiannol', a nodwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant mai ystyr 'ysgolion trosiannol' oedd ysgolion a oedd wrthi'n newid o fod yn rhai dwy ffrwd i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg (Categori Iaith). Gan nad oedd unrhyw ganllawiau ynghylch pa mor hir y dylai'r broses hon ei chymryd, gallai ysgol fod yn y cyfnod pontio hwn am gryn amser. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod unrhyw newidiadau mewn categori yn dilyn proses statudol a bod yr adran yn ymwybodol o'r ddwy ysgol.

 

Trafodwyd darpariaeth ddwyieithog mewn Addysg Bellach, ac roedd yr aelodau'n poeni na fyddai addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau ar lefel Brifysgol yn achos y rhan fwyaf o bynciau, gan gynnwys Milfeddygaeth a Meddygaeth, ac y gallai myfyrwyr fod dan anfantais o ganlyniad i hynny. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y Coleg Cenedlaethol Cymraeg yn dal i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a bod y ddarpariaeth ym Mhrifysgolion Cymru wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd hefyd fod addysg cyfrwng Cymraeg yn creu disgyblion dwyieithog ac nad oedd hynny'n rhwystr nac yn anfantais pe byddent yn parhau â'u haddysg yn Saesneg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

 

 

6.

STRATEGAETH DDRAFFT ECWITI A LLESIANT pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Strategaeth Ddrafft Ecwiti a Llesiant i'r Pwyllgor gan y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Nododd yr aelodau gyfeiriadau at 'Blant sy'n wynebu mwy o berygl o anawsterau' a gofynasant a oedd y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio i gefnogi plant yn y categori hwn. Nodwyd bod Awdurdodau Lleol eraill yn defnyddio'r grant i gyflogi unigolyn i roi cymorth uniongyrchol i blant a theuluoedd oedd mewn angen. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod gwaith yn cael ei wneud yn y maes hwn a bod gweithio gyda theuluoedd oedd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn rhan o'r strategaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai'n adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ynghylch y Grant Amddifadedd Disgyblion a'r math o waith a wneir. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y byddai'n cynnwys rhai enghreifftiau o waith sy'n ymwneud â'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn ystod yr ymweliadau safle oedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

6.2       bod y Pwyllgor yn cael adroddiad am y Grant Amddifadedd Disgyblion cyn gynted â phosibl

 

7.

MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 3 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafoddyr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 ei gyflwyno i'r gr?p.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Nodwydmai absenoldeb staff a swyddi gwag oedd yn gyfrifol am y diffygion yn y rhan fwyaf o feysydd, yn enwedig o ran y mesur ar Asesiadau Plant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3.

 

 

8.

GWEITHREDIADAU A CHYFEIRIADAU GAN BWYLLGORAU CRAFFU BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NOTE: Councillor D. Jones had earlier declared an interest in this item.]

 

The Committee received a report detailing the progress achieved in relation to actions, requests or referrals emerging from previous meetings of the Committee.

 

RESOLVED that the report be received.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad canlynol:-

 

- Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol gan gynnwys Anghenion Addysgol Arbennig

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Ebrill 2019.

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 24AIN O IONAWR 2019 pdf eicon PDF 243 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 24 Ionawr 2019 yn gywir, yn amodol ar y newid uchod –

 

Roedd y Cyng. D. Jones wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod ac roedd y Cyng. D. Cundy yn bresennol fel dirprwy.