Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.Jones a S. Najmi, a Mrs G. Cornock-Evans (Rhiant-lywodraethwr - Caerfyrddin).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

G. Jones

4, 5 a 6           

Mae ei wraig yn gweithio yn yr Adran Addysg

E. Schiavone

4, 5 a 6           

 

Mae ei wraig yn gweithio yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro'r Gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Addysg a Phlant a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Mae'r Gwasanaeth Addysg a Phlant ar hyn o bryd yn rhagweld gorwariant o £1.672m o ran y gyllideb refeniw.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Dywedwyd bod y gorwariant amcanol wedi lleihau o £1.9 miliwn ar ddiwedd mis Awst i £1.6 miliwn ar ddiwedd mis Hydref a bod yr adroddiad drafft diweddaraf tan 31 Rhagfyr 2019 a gyflwynwyd yn dangos darlun ychydig yn well. Gofynnodd yr aelodau am y ffactorau sy'n cyfrannu ymhellach at lai o orwario. Nodwyd y gallai'r gorwariant leihau ymhellach pe na bai rhai trefniadau wrth gefn bach yn cael eu cyflwyno.

 

 

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A CHYFLAWNIAD YSGOLION 2017 - 2018. pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Daeth Adroddiad Perfformiad a Chyflawniad Ysgolion ar gyfer 2017/18 gerbron y Pwyllgor. Gofynnwyd i'r Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad a'r materion allweddol oedd yn deillio o'r dadansoddiad o'r data meintiol ac ansoddol mewn perthynas â pherfformiad yr ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg drosolwg ar lafar o'r adroddiad ac yn benodol tynnodd sylw'r aelodau at yr eitemau canlynol:

  • Crynodeb o asesiadau athrawon a chanlyniadau arholiadau disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a 5.
  • Deilliannau Gwelliannau Ysgol
  • Datblygu Gwerthoedd a Sgiliau ar gyfer Dysgu Gydol Oes

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

  • Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am ddisgyblion sy'n cael gwersi preifat ychwanegol y tu allan i'r ysgol ac a oedd hyn yn cael ei fonitro, a chodwyd pryderon penodol ynghylch gwersi ychwanegol sy'n cael eu derbyn oherwydd y diffyg o ran pwnc penodol neu ysgol. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch yr agenda amddifadedd ac anghydraddoldeb mewn perthynas â'r mater hwn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y byddai'n anodd ceisio rheoli'r maes hwn, ond, efallai y byddai'n bosibl ystyried ffordd o fonitro'r mater.

 

  • Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Sir Gaerfyrddin, a ddisgrifir yn yr adroddiad fel gwasanaeth cwnsela annibynnol yn yr ysgolion sydd wedi'i achredu’n broffesiynol, sydd ar gael i bobl ifanc o flwyddyn 6 i 18 oed. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod angen sylweddol am y gwasanaeth hwn, sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd, mewn ysgolion uwchradd fel arfer, dri diwrnod yr wythnos. Darperir adroddiad dienw i benaethiaid er mwyn cael trosolwg o faterion a phryderon.

 

  • Codwyd pryderon o ran Dangosydd y Cyfnod Sylfaen a Maes Deilliannau Dysgu (1.1.1 Tudalen 31), sy'n dangos ein bod yn parhau'n is na chyfartaledd Cymru o ran ein perfformiad Dangosydd y Cyfnod Sylfaen – sy'n dangos gostyngiad o 4.7%. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad oedd y meysydd dan sylw yn cael eu hasesu yn yr un modd ledled y wlad, er bod gwaith yn cael ei wneud i ddatrys y broblem hon.

 

  • Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch eitem 1.2 yn yr adroddiad (Presenoldeb - Perfformiad Ysgolion Cynradd) a mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch y perfformiad sy'n is na'r targed dros y tair blynedd diwethaf. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod dadansoddiad pellach o'r ffigurau yn dangos mai iechyd a gwyliau (gyda chaniatâd a heb ganiatâd) oedd y prif resymau dros absenoldeb. Dywedodd, os oedd gan y Gwasanaeth Lles Addysg neu ysgol bryderon penodol ynghylch presenoldeb disgybl, byddai camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i weithio gyda rhieni'r disgybl hwnnw.

 

  • Roedd y cynnydd sylweddol yn nifer graddedigion y Rhaglen CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth) wedi calonogi Aelodau, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am nifer y graddedigion a oedd bellach mewn swydd neu'n aros i gael eu penodi. Yn ogystal, mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch y cyfleoedd sydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG ADRODDIAD CYNNYDD HYD AT RHAGFYR 2018. pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr G. Jones ac E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Moderneiddio Addysg ym mis Rhagfyr 2018.

 

Rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg drosolwg ar lafar o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at brosiectau ym Mand A sydd ar fin cael eu cwblhau a phrosiectau Band B a fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailystyried y cyfraddau ymyrryd grant ar gyfer Band B yn ddiweddar ac wedi cynyddu cyfradd y grant ar gyfer prosiectau cyfalaf mewn ysgolion prif ffrwd i 65% a 75% ar gyfer Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hen safle Ysgol Tregib, Llandeilo, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg fod adroddiad ar y safle wedi cael ei ystyried yn anffurfiol gan y Bwrdd Gweithredol cyn cyflwyno'r mater i'r Bwrdd Gweithredol yn ffurfiol yn ddiweddarach. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol hefyd at yr oedi o ran y rhaglen yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, gan nodi bod y broses o brynu darn ychwanegol o dir ar gyfer safle newydd wedi achosi oedi, ond bod cytundeb mewn egwyddor i brynu tir ychwanegol wedi cael ei dderbyn.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth am y cynnig i ffedereiddio ysgolion a chau ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y portffolio ysgolion cynradd wedi bod yn cael ei adolygu ers mis Medi, a bod trafodaethau yn dechrau ynghylch creu ffederasiynau newydd. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar nifer y disgyblion a lleoliadau a maint yr uned a fydd yn cael ei chreu; mae'n well bod gan y ffederasiwn dros 100 o ddisgyblion. Cydnabuwyd bod angen sgiliau arwain penodol ar y swyddogion sy'n rhan o'r broses o ffedereiddio a bod hyfforddiant perthnasol yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a fyddai penaethiaid yn agored i'r syniad o ffedereiddio ysgolion, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad yw'r Awdurdod Lleol yn gallu cynnal yr 'ôl troed' presennol a bod cynllun clir ar waith i gryfhau'r gwasanaeth presennol. Pwysleisiodd nad oedd unrhyw fwriad i ddileu darpariaeth leol; fodd bynnag, roedd angen bod yn glir o ran darparu'r gwasanaeth gorau posibl gyda'r cyllid sydd ar gael, a all olygu ffedereiddio ysgolion llai.

 

Rhannodd y Pwyllgor enghreifftiau o gymunedau'n defnyddio cyfleusterau ysgolion lleol a chytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith er mwyn creu model a fyddai'n galluogi cymunedau lleol i ddefnyddio'r asedau hyn. Nododd yr Aelodau fod cyfrifoldeb am ddifrod, goruchwyliaeth, yswiriant a gwaith cynnal a chadw ymysg y materion sy'n creu rhwystrau o ran rhannu cyfleusterau ysgol. Dywedodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y Corff Llywodraethu yn gyfrifol am gyfleusterau'r ysgol ac y byddai unrhyw gytundeb rhyngddynt hwy a'r sefydliad sy'n cymryd cyfrifoldeb am y cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol. Yn ogystal, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd unrhyw enghreifftiau hysbys o arfer gorau mewn Awdurdodau Lleol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD CRAFFU ERW. pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant gyflwyniad a roddwyd yn flaenorol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynghorwyr - Craffu ar ERW ar 10 Ionawr 2019, a fyddai'n cael ei ystyried gan Gyd-bwyllgor ERW yn y cyfarfod nesaf ar 8 Chwefror 2019. Roedd y cyflwyniad yn amlinellu'r diwygiadau arfaethedig i bartneriaeth ERW.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod y cyflwyniad:

 

Nodwyd ei bod yn ymddangos bod y diwygiadau yn gosod gweledigaeth fwy eglur ynghylch sut y dylai ERW weithio yn y dyfodol, a rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod pwyslais clir ar wella ysgolion a chodi safonau presennol.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod rhai problemau anodd o ran systemau a strwythurau ERW, a hefyd o ran disgwyliadau pob Awdurdod Lleol; fodd bynnag, byddai'r newidiadau diweddar a gyflawnwyd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro a'r diwygiadau arfaethedig yn lliniaru'r materion hynny yn y dyfodol.

 

Nodwyd bod y diwygiadau newydd yn cefnogi gweithio trawsffiniol ac yn galluogi staff i ymgymryd â rhagor o waith y tu allan i'w hawdurdod lleol. Roedd hefyd yn cynnig strwythur mwy cadarn ar gyfer adrodd a monitro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf am graffu ar ERW yn cael ei derbyn.

 

8.

ADRODDIAD CYNNYDD ADDYSG OEDOLION YN Y GYMUNED 2018-19. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r aelodau at y newidiadau o ran cyllid. Gallai grant uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned newid ar ôl mis Medi 2019 (LlC i gadarnhau'r amserlen), yn dilyn proses ymgynghori helaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'n debygol y byddai'r grant yn parhau i gael ei ddyfarnu i golegau Awdurdod Addysg Lleol/Addysg Bellach ym mhob Awdurdod Lleol, ond, byddai'r dyraniadau yn cael eu hailgyfrifo i sicrhau dyraniadau mwy cyfartal ledled Cymru. Er hynny, nid oedd swm y dyraniad wedi'i gadarnhau eto. Roedd yn debygol y byddai'r fethodoleg ariannu yn debyg i fodel ariannu Addysg Bellach yn hytrach na'r dyraniad cyfandaliad presennol, a byddai cyllid yn cael ei hawlio'n uniongyrchol yn seiliedig ar ddarpariaeth, a fydd â goblygiadau o bosibl i'r gyllideb gyffredinol ar gyfer y gwasanaeth.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch y safonau'n disgyn islaw'r safonau cenedlaethol yn 2016-17, dywedodd y Rheolwr Dysgu Cymunedol fod hyn oherwydd y modd y mae safonau'n cael eu cofnodi ar hyn o bryd. Ceir achosion lle gallai cyfnod dysgu gwmpasu mwy na blwyddyn a hefyd newidiadau o fewn blwyddyn academaidd. Credwyd ei bod yn annhebygol y byddai'r safonau yn parhau yn is na'r safonau cenedlaethol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y modd y caiff cyrsiau eu hysbysebu a'r mathau o gyrsiau sydd ar gael. Dywedodd y Rheolwr Dysgu Cymunedol fod manylion cyrsiau ar gael ar y wefan ac ar lwyfan Dewis Cymru. Atgyfeiriwyd rhai cyfranogwyr gan asiantaethau eraill. Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y cyrsiau a ddarparwyd wedi symud i ffwrdd o gyrsiau hamdden i gyrsiau a oedd yn canolbwyntio ar gynyddu cyflogadwyedd a chynnal llythrennedd digidol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am drosglwyddo ased sef Canolfan Gymunedol Glanaman i Gyngor Tref Cwmaman, ac yn benodol, sut y cafodd y broses o drosglwyddo ei hariannu a'r rheswm dros drosglwyddo'r ased. Dywedodd y Rheolwr Dysgu Cymunedol fod y broses drosglwyddo wedi'i hariannu ar raddfa symudol o bum mlynedd. Byddai'n cael 100% o'r cyllid gan CSC yn y flwyddyn gyntaf, a byddai hynny'n lleihau i 75% yn yr ail flwyddyn ac yn y blaen. Roedd Canolfan Gymunedol Glanaman wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion yn cymryd rhan mewn dysgu a byddai'r ganolfan wedi cau pe byddai'r broses trosglwyddo asedau wedi cael ei gwrthod. Roedd Canolfannau Dysgu Cymunedol eraill eisoes wedi mynd trwy'r broses o drosglwyddo asedau, drwy drosglwyddo canolfannau i'r gymuned leol. Rhannodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant enghraifft o gyfleuster sy'n cael ei gynnal gan y gymuned yn llwyddiannus; roedd Canolfan y Mynydd Du ym Mrynaman yn cynnig darpariaeth addysg i oedolion mewn ymateb i angen lleol, lle na fu darpariaeth yn y gorffennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

 

9.

CRONFA DATBLYGU YSGOLION. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg o'i adroddiad.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Nododd yr Aelodau y derbyniwyd cyfanswm o 11 cais ar gyfer y Gronfa Datblygu Ysgolion, sef ceisiadau am gyfanswm o £224k o gyllid. Ymysg yr 11 cais, roedd tri eisoes wedi'u cymeradwyo, sef gwerth cyfunol o £116k. Daeth y ceisiadau eraill i law yn ddiweddar ac maent yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae'r rhan fwyaf o geisiadau a dderbyniwyd yn ymwneud â chynigion i uwchraddio cyfarpar TG er mwyn bodloni gofynion digidol modern neu brynu systemau ffôn i alluogi ysgolion i adael cytundebau prydles drud. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch y Gronfa Datblygu Ysgolion.

 

10.

CYNLLUN YSGOLION IACH, SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan y Swyddog Ysgolion Iach ynghylch Menter Ysgolion Iach Sir Gaerfyrddin.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y gostyngiad sylweddol yn nifer yr ysgolion sy'n cyflawni Cam 4 a 5, y mae'n rhaid eu cyflawni cyn iddynt gael eu hasesu ar gyfer y Wobr Ansawdd Genedlaethol. Dywedodd y Swyddog Ysgolion Iach y bu cynnydd o ran y dystiolaeth sydd ei hangen wrth fynd drwy'r camau, ond bod ysgolion yn cyflawni'r cerrig milltir gofynnol a bod disgwyl i Ysgol Feithrin Rhydaman gael ei hasesu ar ddiwedd mis Mawrth. Roedd saith ysgol yn y broses, neu ar fin dechrau'r broses o wneud cais am y Wobr Ansawdd Genedlaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Swyddog Ysgolion Iach fod rhieni yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y fenter a bod ysgolion yn aml yn gwahodd rhieni i weld cyflwyniad, neu rannu gwybodaeth mewn llythyr newyddion. Hefyd, roedd rhai o'r cerrig milltir yr oedd yn ofynnol i ysgolion eu cyflawni, yn cynnwys rhieni a'r gymuned ehangach.

 

Dangosodd yr Aelodau ddiddordeb mawr yn y rhaglen Speakr a sut yr oedd yn cael ei defnyddio mewn ysgolion i fonitro llesiant disgyblion, ac roeddent am ddod i ddeall pam mai 54 o ysgolion yn unig sy'n defnyddio'r rhaglen hon ar hyn o bryd. Dywedodd y Swyddog Ysgolion Iach mai cost yr offer TG oedd prif rwystr ysgolion, ac yn aml mae'n dibynnu ar p'un a bod gan yr ysgol flaenoriaethau eraill yn eu cyllidebau. Wrth roi trosolwg o'r rhaglen Speakr, dywedodd fod y rhaglen yn caniatáu i blant gofnodi sut y maent yn teimlo bob bore wrth gyrraedd yr ysgol, ac ar adegau eraill yn ystod y dydd. Mae disgyblion yn gallu nodi sut maent yn teimlo ar yr adeg benodol honno, ac mae'r system yn rhoi cyfle i ddisgyblion roi rheswm dros eu teimladau. Hyfforddwyd staff i ymdrin ag unrhyw bryderon a byddent yn datblygu cynllun i helpu unrhyw blentyn. Yn ogystal, byddai gweithdy yn cael ei gynnal ar 7 Mawrth 2019 ar gyfer Cydgysylltwyr Ysgolion Iach ynghylch y Rhaglen Speakr gyda'r nod o annog ysgolion i ymuno â'r rhaglen. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a ellid cael cyllid ar gyfer y rhaglen Speakr o'r Gronfa Datblygu Ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant na fyddai hynny'n broblem gan fod y symiau dan sylw yn gymharol fach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad ynghylch y Fenter Ysgolion Iach.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o eitemau sydd i ddod. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 13 Mawrth 2019.

 

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODIONCYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 18FED RHAGFYR 2018. pdf eicon PDF 296 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau