Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Schiavone, I. Davies, J. Jenkins, B. Thomas, Edward Thomas, Mrs G Cornock-Evans a’r Parch D. Richards.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law.
|
|||||||||||||
RECRIWTIO A CHADW STAFF PDF 285 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Yn ystod y gwaith o gynllunio blaenraglen waith 2019/20, nododd y Pwyllgor Recriwtio a Chadw Staff fel maes diddordeb a gofynnodd am adroddiad manwl.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Cyfeiriodd yr Aelodau at brif ganfyddiadau'r adroddiad gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar ran Llywodraeth Cymru; y cyfeirir ato ar dudalen 17 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu profiadau ymarferwyr addysg cofrestredig yng Nghymru. Nododd y canfyddiadau fod nifer sylweddol o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf a nodwyd bod y llwyth gwaith sylweddol yn faes a oedd yn peri anfodlonrwydd i nifer o ymatebwyr. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant at dudalen 23 yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed i roi arweiniad i athrawon ar ffyrdd y gellid lleihau pwysau gwaith. Roedd y canllawiau hefyd yn ceisio egluro'r hyn a ddisgwylir gan athrawon mewn perthynas â marcio a chynllunio, a darparu cyngor cyson wedi'i gymeradwyo gan Estyn.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd athrawon a oedd wedi cwblhau'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn gallu dod o hyd i swyddi perthnasol ac a dderbyniwyd ceisiadau digonol am swyddi Prifathrawon, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant er y pwysau parhaus ar athrawon roedd nifer digonol o benaethiaid yn cymhwyso. Derbyniwyd nad oedd pob athro a oedd wedi ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn bwriadu dilyn gyrfa fel Prifathro. Roedd yn cydnabod rhai o'r heriau mewn perthynas â nodi unigolion â'r priodoleddau angenrheidiol a nododd fod dull mwy strategol o fynd i'r afael â hyn ar y gweill.
Nododd yr Aelodau fod nifer sylweddol o swyddi gwag dros dro yn cael eu hysbysebu yn Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd ai dyma oedd y sefyllfa yn genedlaethol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o sefyllfa ariannu'r rhan fwyaf o ysgolion.
Wrth egluro mater a godwyd ynghylch recriwtio digon o staff dwyieithog dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod rhywfaint o waith rhanbarthol yn cael ei wneud gan ERW yn ogystal â chynllun cenedlaethol i annog athrawon dwyieithog mewn ysgolion cynradd i ailhyfforddi fel athrawon Cymraeg uwchradd. Nododd ymhellach fod Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa gref o ran recriwtio staff dwyieithog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
GWASANAETH CYMORTH IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Aelodau drosolwg o'r adroddiad ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gan Brif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Wrth nodi'r cynnydd sylweddol yn y Grant Cymorth gan Lywodraeth Cymru yn 2019/20 gofynnodd yr Aelodau beth oedd bwriad y cyllid ac a fyddai'n parhau ar y lefel honno yn y blynyddoedd dilynol. Dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid fod y cynnydd mewn cyllid yn cynnwys dyraniadau i wella iechyd a llesiant emosiynol ac atal digartrefedd. Nododd y swyddog fod y gwasanaeth wedi cyflogi wyth aelod o staff ychwanegol gan gynnwys Cydgysylltydd Digartrefedd. Nid oedd unrhyw awgrym hyd yma ynghylch lefel y cyllid dilynol.
Mewn ymateb i gwestiwn ar ddatblygu'r gweithlu, dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid fod gan y gwasanaeth ei gynllun hyfforddi ei hun sy'n cydymffurfio â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd yn cynnal cwrs gwaith ieuenctid pwrpasol y mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gefnogi. Mae'n ofynnol i Weithwyr Ieuenctid gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ac mae hyn wedi cynyddu cydnabyddiaeth am waith ieuenctid yn broffesiynol.
Cyfeiriodd yr Aelodau at nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd a gofynnwyd a oedd rhaniad amlwg rhwng ardaloedd gwledig/trefol, ac a oedd yr un lefel o wasanaeth yn cael ei ddarparu ledled y sir. Dywedodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ieuenctid fod gwasanaeth cyson yn cael ei ddarparu ledled y Sir a bod yr un gwasanaeth yn cael ei dderbyn waeth beth fo'r lleoliad. Nodwyd hefyd bod y gwasanaeth yn aml yn gweithio gyda theulu'r person ifanc a gafodd ei atgyfeirio ac yn cefnogi'r pontio o'r gwasanaethau i blant i wasanaethau oedolion, lle byddai cefnogaeth o ran symud ymlaen yn cael ei nodi.
Nodwyd nad oedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y ddarpariaeth grant i'r 3ydd sector. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'r Aelodau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorydd L. Bowen ac S. Allen wedi datgan diddordeb yn gynharach yn yr eitem hon ac wedi gadael y Siambr drwy gydol yr eitem.]
Bu'r Aelodau yn ystyried y sylwadau a gafwyd i'r Hysbysiadau Statudol unigol o ran newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel. Gan fodloni nad oedd unrhyw gynigion cysylltiedig eraill; roedd yr aelodau'n cydnabod yr ymgynghorwyd ar y cynigion statudol a'u bod wedi'u cyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'u bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Bu'r Aelodau'n ystyried y dogfennau ymgynghori a'r adroddiadau ymgynghori, y gwrthwynebiadau a'r ymatebion i'r hysbysiadau yn yr adroddiad gwrthwynebu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol i weithredu'r cynnig fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.
|
|||||||||||||
PENDERFYNIAD - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRICHARD PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelodau'n ystyried cyflwyniadau a gafwyd i'r Hysbysiad Statudol mewn perthynas â newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard. Gan fodloni nad oedd unrhyw gynigion cysylltiedig eraill; roedd yr Aelodau'n cydnabod yr ymgynghorwyd ar y cynnig statudol a'i fod wedi'i gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Bu'r Aelodau'n ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, y gwrthwynebiadau a'r ymatebion i'r hysbysiadau yn yr adroddiad gwrthwynebu.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL i argymell bod y Bwrdd Gweithredol yn gweithredu'r cynnig fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol mewn perthynas â newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard.
|
|||||||||||||
ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT - DIWEDDARIAD CYLLIDEB PDF 448 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 (cofnod 7.3) gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg o'r sefyllfa bresennol, a'r mesurau a gyflwynwyd eisoes ac sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Gweithredu, i oresgyn y pwysau presennol.
Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –
Cyfeiriodd yr Aelodau at y llythyr a anfonwyd i'r 30 o ysgolion sy'n wynebu diffyg yn y gyllideb a gofynnwyd am arwydd o'r math o arbedion effeithlonrwydd sy'n debygol o gael eu nodi. Dywedodd Pennaeth y Cwricwlwm a Llesiant ei fod ef a Phennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wedi cyfarfod â'r Pennaeth a Chadeirydd Corff Llywodraethu pob ysgol ac roedd yn cydnabod y cafwyd rhai sylwadau negyddol mewn perthynas â'r llythyr a anfonwyd, fodd bynnag, roedd y neges yn y llythyr yn glir ac roedd nifer o sgyrsiau cadarnhaol wedi deillio o ganlyniad i hyn. Gofynnwyd i ysgolion a nodwyd i nodi arbedion effeithlonrwydd a chyflwyno strategaeth gyllideb am dair blynedd; y disgwyl oedd y byddai cyllidebau'n cynnwys gostyngiadau mewn costau staffio, gwariant rheolaidd a rhywfaint o ostyngiad o ran yr hyn a gynigir yn y cwricwlwm.
Roedd yr Aelodau'n cydnabod bod dros ddeng mlynedd o galedi a gostyngiadau cyllidebol gwirioneddol yn debygol iawn o fod wedi effeithio ar y sefyllfa ariannol bresennol, ond gofynnwyd a oedd unrhyw strategaethau eraill wedi'u nodi ar gyfer gwella. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ymhlith rhai o'r meysydd a nodwyd oedd cyflogi staff cymorth a Chynorthwywyr Addysgu yn ganolog, adolygu telerau cyflogaeth hanesyddol a datblygu hyfforddiant mwy cadarn ar gyfer llywodraethwyr ysgol.
Nodwyd bod yr adroddiad, ar dudalen 137, yn cyfeirio at 'opsiynau mewn perthynas â rhesymoli', gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y math o resymoli sy'n cael ei ystyried. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yn ogystal ag adolygiad o'r dalgylchoedd presennol, y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynaliadwyedd patrwm presennol ysgolion cynradd a ffederasiynau ar draws y sir. Byddai adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg hefyd yn cael ei gynnal.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
MATER WEDI EI GYFEIRIO GAN Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU PDF 288 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau i wrthdroi ei benderfyniad i dderbyn adroddiadau Monitro Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf drwy e-bost, y tu allan i broses y pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau nad oeddent yn dymuno gwrthdroi eu penderfyniad ac, wrth wneud y penderfyniad hwnnw, nodwyd y canlynol –
- bod y penderfyniad i ddosbarthu'r adroddiad a nodwyd y tu allan i broses y pwyllgor yn cyd-fynd â'r hyfforddiant a ddarparwyd gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus ym mis Mawrth 2019 a gynghorodd yr Aelodau i ystyried amseroldeb adroddiadau a gyflwynwyd i graffu arnynt. - bod y Pwyllgor wedi adolygu prif straen y Gyllideb Refeniw drwy gyfrwng y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen, Adroddiadau a Sesiynau Briffio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cyfeiriad.
|
|||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i'r aelodau adolygu'r Flaenraglen Waith ac ystyried adroddiadau a ddosbarthwyd y tu allan i broses y pwyllgor ers y cyfarfod diwethaf ar 15 Hydref 2019.
Nodwyd, oherwydd oedi wrth baratoi Cynllun Cyllideb 2020/21, ei bod yn debygol y byddai'r cyfarfod ym mis Rhagfyr yn cael ei ohirio tan fis Ionawr. Bydd yr eitemau sydd wedi'u nodi ar y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfod mis Ionawr yn cael eu symud i'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 19 Chwefror 2020.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.
|