Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant - Dydd Mercher, 4ydd Medi, 2019 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan L. Bowen, J. Jenkins, B. Thomas a D. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAU PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at yr Amcanion Llesiant perthnasol.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol mewn perthynas â'r adroddiad –

 

Nododd yr Aelodau, o ran fformat a chynnwys yr adroddiad, nad oedd data yn ymwneud â chanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol y nodwyd yn yr adroddiad bod ei ddisgwyl ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019 wedi'i gynnwys, er bod y data perthnasol ar gael ar-lein. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod y byddai'r data y cyfeiriwyd ato'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Mynegwyd pryder ynghylch ffigurau presenoldeb yn yr ysgol ar Dudalen 36 yr adroddiad, a nodai mai ffigurau presenoldeb ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin oedd y ffigurau isaf yng Nghymru, gan eu bod wedi disgyn o 94.4% i 93.9% ac o'r 21ain safle i'r 22aub safle yn genedlaethol. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y mesurau a oedd ar waith i wella presenoldeb. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod fod y ffigurau'n ymwneud â data o 2017/18 a bod yr adran eisoes wedi nodi patrymau yn 2018/19 sy'n cael sylw, a bydd llythyr yn cael ei anfon at yr holl rieni a gwarcheidwaid yn annog presenoldeb llawn. Nododd ymhellach fod llai na 2% o wahaniaeth rhwng yr awdurdod â'r perfformiad gorau a'r awdurdod â'r perfformiad gwaethaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Gwasanaeth Lles Addysg wedi'i ailfodelu a'i gysylltu â'r Swyddog Diogelu Addysg, gyda'r bwriad y bydd y newid yn darparu cymorth gwell ac yn gwella presenoldeb plant sy'n anodd eu cyrraedd a phlant agored i niwed. Roedd mwy o gymorth â ffocws yn cael ei roi i ysgolion i reoli absenoldeb. Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod i'r Aelodau, o ran y data a oedd yn cael ei adolygu, fod y broses o godio absenoldeb yn anghyson, a byddai hyfforddiant ac arweiniad ar gysondeb yn cael eu darparu; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn sicrhau gwelliant. Yn y blynyddoedd diwethaf, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd cysondeb o ran codio, ond bellach roedd yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol unigol. Cytunodd yr Aelodau nad oedd y ffigurau presenoldeb isel yn cyd-fynd â pherfformiad da mewn meysydd eraill.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y system sgorio newydd y cyfeirir ati ar Dudalen 41, a oedd yn mesur canlyniadau arholiadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod fod hwn yn fesur newydd a oedd yn disodli'r hen system o fesur 5 canlyniad TGAU, a oedd yn cynnwys Iaith a Mathemateg. Byddai'r mesur newydd yn sgorio'r naw canlyniad gorau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod data cymharol o flynyddoedd blaenorol ar gael a byddai'n cael ei gynnwys yn yr adroddiad ar Ganlyniadau Amodol Arholiadau a fyddai'n cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Byddai data am gyrhaeddiad yn ymwneud â rhywedd hefyd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnydd yn nifer y disgyblion ym Mlwyddyn 11 ac 13 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 475 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r sylwadau a gafwyd, ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y cyfnod ymgynghori a'r hysbysiad statudol a gyhoeddwyd i weithredu'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.

 

Mynegodd yr Aelodau'r materion/cwestiynau canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod, wrth roi sylw i sylwadau ynghylch y nifer isel o ymatebion a'r dulliau ymgynghori, fod o leiaf ddau ddigwyddiad ymgynghori wedi cael eu cynnal ym mhob ysgol a bod deunyddiau cymorth ar gael drwy gydol yr ymgynghori. Nododd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd ymgynghori wyneb yn wyneb yn ofynnol yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion a gallai'r awdurdod fodloni rhwymedigaethau'r côd drwy lunio arolwg dwyieithog ar-lein.

 

Nododd yr Aelodau fod yr ymatebion yn amlygu'r diffyg dewis ar gyfer rhieni a oedd yn ffafrio addysg drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cymorth sydd ar gael i'r rheiny sy'n dymuno symud ysgolion, yng ngoleuni'r newidiadau i'r ddarpariaeth. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant, fel pwynt cyffredinol o ran polisi, nad oes unrhyw rwymedigaeth i gynnig dewis iaith. Nod yr awdurdod oedd sicrhau bod cynifer o ddisgyblion ag y bo modd yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt fod yn 11 oed, a chynnal hynny yn ystod eu haddysg uwchradd. Byddai newid y ddarpariaeth yn cefnogi'r nod hwn.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y cymorth sydd ar gael i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg o ran helpu eu plant i wneud eu gwaith cartref, a dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod hwn yn bryder cyffredin a bod yr adran yn ymwybodol o'r anawsterau posibl. Cyfeiriwyd at lefel y gwaith cartref yn ystod y Cyfnod Sylfaen, gan nodi bod gwaith cartref yn cael ei osod i'r disgybl, nid i'r rhiant. Rhoddodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod hefyd y byddai Fforwm y Gymraeg Mewn Addysg yn parhau i adolygu'r mater ac y byddai'n agored i awgrymiadau gan Aelodau ynghylch datblygu cymorth yn y maes hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.

 

7.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRITCHARD pdf eicon PDF 472 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r sylwadau a gafwyd, ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y cyfnod ymgynghori a'r hysbysiad statudol a gyhoeddwyd i weithredu'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard.

 

Cydnabu'r Aelodau fod yr ymatebion yn adlewyrchu materion tebyg i'r eitem flaenorol ar yr Agenda.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2018/19 pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19.  Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y materion hynny a gyfeiriwyd at y Bwrdd Gweithredol a Phwyllgorau Craffu eraill, neu a gafwyd ganddynt. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant 2018/19.

 

 

9.

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT DOGFEN DDRAFFT CYNLLUNIO A CHWMPASU - FFEDEREIDDIO YSGOLION YN SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o'r ddogfen gwmpasu i'r Aelodau ac ystyriwyd y trefniadau cynllunio a amlinellwyd yn y ddogfen. Rhoddwyd ystyriaeth i bresenoldeb a phwrpas amlinellol yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1       derbyn y ddogfen gwmpasu;

9.2       cymeradwyo nodau a chwmpas y gwaith;

9.3       y dylai holl Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant fynd i'r sesiwn Craffu Un Diwrnod ar 6 Tachwedd 2019

9.4         bod yr aelodaeth o'r gr?p adolygu fel a ganlyn:-

Y Cynghorydd Ieuan Davies

Mrs Melanie Davies

Y Cynghorydd Dot Jones

Y Cynghorydd Shahana Najmi/John Jenkins

Y Cynghorydd Darren Price (Cadeirydd)

Y Cynghorydd Kim Broom

Y Cynghorydd Jean Lewis

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r eitemau ar gyfer y dyfodol a dywedodd y dylai'r adroddiad am y Ddarpariaeth Iechyd Meddwl mewn Addysg hefyd gynnwys trosolwg o arferion da a throsolwg cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

11.

DIWEDDARIAD AR WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant wybod y byddai adroddiad yn amlinellu trosolwg lleol a rhanbarthol o'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 6ED O FEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 4YDD O ORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 336 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019 yn gofnod cywir.