Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen a D.
Williams.
|
2. |
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ni
chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip
waharddedig.
|
3. |
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law
gan y cyhoedd.
|
4. |
GWEITHIO GYDA'R RHEINY NAD YDYNT MEWN ADDYSG, CYFLOGAETH NA HYFFORDDIANT (NEET) PDF 232 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd
y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg a diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud
gyda'r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
(NEET). Roedd yr adroddiad yn manylu ar
ddarpariaeth y gwasanaeth a oedd yn cynnwys y canlynol:-
-
Amcanion Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU yn y maes gwaith hwn;
-
Amcanion a bennir yn lleol,
gweithio mewn partneriaeth a pherfformiad;
-
Datblygiadau
rhanbarthol;
-
Risgiau a heriau.
Codwyd
y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- Cyfeiriwyd at effaith covid a
gofynnwyd i swyddogion a fyddwn yn gallu dal i fyny â'r
cyfleoedd NEET a gollwyd ac a fyddai modd i ni fod yn ôl ar y
trywydd iawn i gyrraedd y nod. Dywedodd
y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi parhau i
weithio drwy gydol y pandemig a'i fod wedi mynd yn ôl i
gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn eithaf cyflym ar ôl i'r
pandemig ddechrau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth
Ieuenctid fod gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion yn allweddol i'r
gwaith hwn ac roeddynt yn ôl mewn ysgolion ar y cyfle
cynharaf posibl. Mae llawer o waith
wedi'i wneud o fewn yr adran i sicrhau bod asesiadau risg ac
arferion gweithio diogel ar waith i alluogi staff i barhau i
weithio'n ddiogel ac yn gyfrifol. Ychwanegodd nad oes angen iddynt
ddal i fyny fel gwasanaeth gan eu bod wedi parhau i weithio drwy
gydol y pandemig;
- Cyfeiriwyd at y Warant i Bobl Ifanc a mynegwyd pryder ynghylch
y diffyg cynnydd ar y fenter hon oherwydd materion adnoddau mewnol
Llywodraeth Cymru. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd y materion hyn yn
cael eu datrys gan ei bod yn annheg bod ein pobl ifanc yn cael eu
hamddifadu o gyfleoedd oherwydd Llywodraeth Cymru. Dywedodd Prif
Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid wrth y Pwyllgor fod
cysylltiad cryf rhwng y fenter hon a'r adolygiad o'r Fframwaith
Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a bod adroddiad diweddaru ar y
Fframwaith i fod i ddod yn y flwyddyn newydd;
- Gan fod yn rhaid i Awdurdodau Lleol wneud cynnig am arian y
Gronfa Ffyniant Gyffredin bob blwyddyn, gofynnwyd i swyddogion
faint o ansicrwydd y mae hynny'n ei greu a hefyd a oes rhaid i bob
Awdurdod Lleol gystadlu yn erbyn ei gilydd am yr arian hwn ac os
nad yw'n dod i law yna beth ydym yn ei wneud. Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith bod llawer o'r cyllid
sydd ar gael ar ffurf grantiau tymor byr a gofynnwyd i swyddogion a
oes unrhyw benderfyniadau'n debygol ar lefel genedlaethol i greu
system hirdymor fwy cynaliadwy.
Esboniodd y Cyfarwyddwr fod nifer o'r rhaglenni yn rhai tymor byr
dros 3 blynedd. Roedd yn cytuno ei bod yn anodd oherwydd bod
timau'n sefydlu'n dda ystod y cyfnod hwnnw ond pan ddaw'r cyllid i
ben, rhaid diddymu'r timau. Ychwanegodd Prif Reolwr y Gwasanaethau
Cymorth Ieuenctid fod pryder y bydd pob Awdurdod Lleol a'r trydydd
sector yn cyflwyno cynigion a fydd yn arwain at fod rhai ardaloedd
yn colli allan, a fyddai'n destun pryder mawr. ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.
|
5. |
GWASANAETHAU CYMORTH I DEULUOEDD: ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT PDF 226 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg
o'r modd y mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu
cymorth ataliol i deuluoedd ar draws ein sir. Roedd yr adroddiad yn
manylu ar yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaethau ataliol a sut y
mae'r rhain yn cael sylw. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cyfeirio at yr anghenion sy'n dod i'r amlwg gan
deuluoedd a'r galwadau ar wasanaethau o safbwynt cymorth i
deuluoedd/gwasanaeth ataliol.
Codwyd
y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod gwahanol systemau casglu
data yn cael eu defnyddio ledled yr Awdurdod a gofynnwyd i
swyddogion beth sy'n atal pob gwasanaeth rhag defnyddio'r un
system. Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Plant wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ceisio gwneud
camau i gyflawni hyn, ond roedd hon yn dasg anodd a chymhleth gan
fod gan bob gwasanaeth ofynion casglu data penodol;
- Mynegwyd pryder ynghylch effaith Dechrau'n Deg ar y Cynnig
Gofal Plant gan fod mynediad at gymorth yn seiliedig ar
gôd post yr unigolyn a gofynnwyd
i swyddogion a ellid ymestyn y Cynnig Gofal Plant i gynnwys pob
plentyn yn y ward. Eglurodd Pennaeth y
Gwasanaethau Plant fod swyddogion, ym mhob amgylchiad, yn gwneud
pob ymdrech i beidio â rhannu cymunedau; fodd bynnag, roedd y
swyddogion wedi'u cyfyngu yn yr hyn y gallant ei wneud o safbwynt allgymorth oherwydd
telerau'r grant. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr at y ffaith fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi
ymestyn y Cynnig Gofal Plant i bob plentyn 2 flwydd oed ac ar y
pryd roedd swyddogion yn cydweithio i ymestyn y fenter
honno. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau
Plant sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw effaith ar Dechrau'n
Deg yn cael ei rhagweld;
- Cyfeiriwyd at effaith y pandemig covid ar y staff, a'r gweithlu blinedig o
ganlyniad, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd llawer o'r staff yn
absennol o'r gwaith yn yr is-adran. Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Plant fod y pandemig wedi cael effaith ac roedd y
staff ar y pryd yn delio â rhai sefyllfaoedd cymhleth iawn a
bod iechyd a llesiant y staff yn brif ystyriaeth. Tynnodd sylw at y ffaith mai un o'r prif broblemau
oedd yr anallu i lenwi swyddi gwag.
Pwysleisiodd na ellir diystyru'r pwysau ar y
gwasanaeth. Ychwanegodd eu bod yn
ffodus o gael staff gwych sy'n gwneud gwaith anhygoel;
- Cyfeiriwyd at y gostyngiad o 20% mewn atgyfeiriadau a
gofynnwyd i swyddogion a oeddent, o ganlyniad, yn rhagweld cynnydd
mawr yn nifer yr atgyfeiriadau yn y dyfodol. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr
anallu i gwrdd â theuluoedd oherwydd covid yn anochel wedi arwain at y gostyngiad hwnnw,
a chan fod swyddogion bellach yn gallu cynnal ymweliadau roedd yn
hyderus y gwelwn y cyfraddau'n codi eto. Mae gwir angen y cymorth hwnnw ar deuluoedd ac
unwaith y byddant yn gwybod ei fod ar gael eto byddant yn manteisio
arno;
- Pan ofynnwyd faint o atgyfeiriadau sy'n dod o ysgolion a faint
sy'n dod o deuluoedd, eglurodd y Cyfarwyddwr fod y data yn yr
adroddiad yn ...
Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.
|
6. |
ADRODDIAD TERFYNOL DRAFFT GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A PHLANT 2020/21 Y BROSES YMGYNGHORI YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION
PDF 242 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021,
cytunodd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant i sefydlu Gr?p
Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiad o'r broses ymgynghori
bresennol ar gyfer newid trefniadaeth ysgolion, gan gynnwys
newidiadau i'r ddarpariaeth ieithyddol a chau ysgolion.
Ar
ôl ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a
gynhaliwyd rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2021, roedd y Gr?p Gorchwyl
a Gorffen wedi llunio fersiwn drafft o adroddiad terfynol ac
argymhellion. Gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r argymhellion hyn
i'w hystyried gan y Cabinet.
Cyflwynwyd y sylw canlynol ar yr adroddiad:-
- Er eu bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith y Gr?p
Gorchwyl a Gorffen, mynegwyd pryder na ddylid hwyluso rhai materion
megis newid cyfrwng iaith mewn ysgol.
Esboniodd y Cadeirydd mai'r cynnig oedd y dylid cynnal ymgynghoriad
anffurfiol a chyfnod ymgynghori ffurfiol a fyddai'n rhoi cyfle
digonol i bawb gyflwyno unrhyw
sylwadau/gwrthwynebiadau;
PENDERFYNWYD y dylai adroddiad terfynol
drafft y Gr?p Gorchwyl a Gorffen 2020/21 ar y Broses Ymgynghori ar
Drefniadaeth Ysgolion a'r argymhellion sydd ynddo gael eu
cymeradwyo i'w hystyried gan y Cabinet.
|
7. |
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 205 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod
nesaf y Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr,
2022.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod atgyfeiriad wedi dod
i law oddi wrth y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn gofyn i'r
Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ymchwilio i'r llithriad yn y
Rhaglen Moderneiddio Addysg. Dywedodd
wrth y Pwyllgor y byddai'r atgyfeiriad yn cael ei ystyried yn y
cyfarfod nesaf yng nghyd-destun trafodaeth ar yr adroddiad
ymgynghori ynghylch y gyllideb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o
eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod
nesaf
|
8. |
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 30AIN TACHWEDD 2021. PDF 245 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Codwyd pwynt yngl?n â manylion y cofnodion. Eglurodd y Cadeirydd nad oedd yn bosibl cofnodi pob pwynt a wnaed yn ystod cyfarfod, ond bod recordiad llawn o holl gyfarfodydd y cyngor a we-ddarlledwyd ar gael ar wefan y cyngor.
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021 gan eu bod yn
gywir.
|