Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU / MATERION ERAILL Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J.D. James.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Terry Davies at y ffaith mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf o'r Pwyllgor, cyn yr etholiadau oedd ar ddod, a diolchodd i'r Aelodau am eu holl gymorth yn ystod ei gyfnod yn y swydd fel Cadeirydd. Bu'r Aelodau'n talu teyrnged i'r Cynghorydd Davies am ei arweinyddiaeth.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd oedd wedi ei gynnal ar 28 Tachwedd 2016 gan eu bod yn gywir.
|
|
RHAGLEN SEFYDLU AELODAU 2017 PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelodau'n ystyried Rhaglen Ddrafft 2017 ar gyfer Sefydlu Aelodau. Byddai'r rhaglen 12 mis, a oedd wedi derbyn adborth gan y grwpiau ffocws diweddar yn cynnwys y cynghorwyr presennol, yn cefnogi aelodau newydd ac aelodau a fyddai'n dychwelyd yn dilyn yr Etholiadau ym mis Mai 2017.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhaglen waith ddrafft.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [Chwefror 2017] i'w gynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau presennol y Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2017/18. Roedd Adroddiad y Panel yn cynnwys 51 o benderfyniadau gyda'r mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath a'r hyn a welwyd yn Adroddiad 2016.
Wrth osod lefel y cyflogau a'r lwfansau ar gyfer 2017/18 penderfynodd y Panel y byddai cynnydd cymharol fach o thua 0.75% yng nghyflog blynyddol sylfaenol yr aelodau etholedig. Ni chafodd cynnydd ei gynnig ar gyfer uwch-gyflogau ond byddai deiliaid y swyddi hynny yn cael y cynnydd o ran elfen y cyflog sylfaenol. Roedd trefniadau hefyd wedi cael eu cyflwyno i gydnabod y goblygiadau o salwch tymor hir deiliaid yr uwch-gyflogau. Yn ogystal roedd y Panel, gan gofio mai ychydig iawn o bobl ledled y sefydliadau oedd wedi manteisio ar y Lwfansau Gofal, wedi penderfynu caniatáu gwahanol ddulliau o ran cyhoeddi costau gofal. Roedd y Panel hefyd wedi penderfynu defnyddio'r term 'ad-dalu costau gofal' yn lle lwfansau gofal.
Gofynnwyd am farn y Pwyllgor am y taliadau i Aelodau Gweithredol, Cadeiryddion Pwyllgorau, Penaethiaid Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig, ynghyd â'r Lwfansau Cynhaliaeth a'r Lwfansau Llety, Cydnabyddiaeth Ariannol Cadeiryddion Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a thalu Ffioedd Aelodau Cyfetholedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18, a chyhoeddi costau ad-dalu gofal.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR
5.1 nodi bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu bod y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig prif awdurdodau lleol yn cynyddu i £13,400 ar gyfer 2017/18;
5.2 cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn 2017/18 [Lefel 1];
5.3 cadw'r drefn bresennol o ran lefel yr uwch-gyflog a delir i Gadeiryddion Pwyllgorau yn 2017/18 [Lefel 1];
5.4 cadw'r drefn bresennol o ran lefel y cyflog a delir i Gadeirydd ac i Is-gadeirydd y Cyngor yn 2017/18 [Lefel 2];
5.5 cytuno ar y cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth ar gyfer 2017/18 fel y nodir isod:-
£200.00 y noson i Lundain; £95 y noson mewn mannau eraill; £25 y noson am aros gyda ffrindiau neu deulu;
Cadw'r drefn bresennol o ran y lwfans dydd a'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am drefniadau llety dros nos yr aelodau.
5.6 parhau â'r arfer presennol o nodi'r trefniadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ag Awdurdodau eraill a chynnwys y Pwyllgorau hyn yng nghynllun y Cyngor pe bai'r Cyngor yn penderfynu sefydlu Cyd-bwyllgorau yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2017/18 a thalu cyflog;
5.7 bod y ffioedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig yn aros ar y lefel bresennol ar gyfer 2017/18 sef 10 diwrnod llawn [neu 20 hanner diwrnod] o gyfarfodydd y flwyddyn;
5.8 cyhoeddi manylion y symiau i'w had-dalu i aelodau a enwir ar gyfer ad-dalu costau gofal [opsiwn 1];
5.9 derbyn gweddill argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
DARPARIAETH TGCH I'R AELODAU PDF 187 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn nodi manylion y cynigion i ddarparu gwasanaeth TGCh gwell, mwy cost effeithiol, cynaliadwy ac effeithiol i Aelodau yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2017.
PENDERFYNWYD bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi'r adroddiad a'r argymhellion sy'n rhan ohono, yn bennaf:-
6.1 bod Aelodau sydd newydd gael eu hethol yn defnyddio eu band eang eu hunain a chael Lwfans Cyfathrebu o £20 y mis;
6.2 bod Aelodau presennol sy'n cael eu hail-ethol yn parhau i ddefnyddio'r ddarpariaeth band eang safonol presennol neu ddefnyddio eu band eang cyflym iawn posibl eu hunain a chael lwfans cyfathrebu o £20;
6.3 peidio â darparu argraffwyr newydd a bod Aelodau yn cael defnyddio'r cyfleusterau argraffu yn swyddfeydd y Cyngor;
6.4 bod Gwasanaethau TGCh yn cael gwybod y dyfeisiau a ffafrir gan yr Aelodau - opsiynau i gynnwys Lenovo Mix Tablet, Lenovo Laptop, i-pad - byddai'r ddyfais sengl yn cynnwys cerdyn Data Sim;
6.5 bod Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yn defnyddio un ddyfais ac i-phone
|