Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 28ain Tachwedd, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Nodwyd nad oedd y Cynghorydd Mair Stephens Aelod o'r Bwrdd Gweithredol a Hyrwyddwr Datblygu'r Aelodau yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol

 

3.

DERBYN A LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALWYD AR Y 1AF MEDI 2016 pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a oedd wedi'i gynnal ar 1af o Fedi, 2016 gan eu bod yn gywir.

 

4.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT - CHWEFROR 2017 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (Chwefror 2017) a oedd yn cynnwys nifer o benderfyniadau ac argymhellion yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor ystyried eu cynnwys yn ei Gynllun Lwfansau Aelodau Cyfetholedig a Chynghorwyr, 2017/18. Roedd yn ofynnol i'r adroddiad blynyddol drafft gael ei anfon i Gynghorau Sir ac roedd rhaid cyflwyno sylwadau heb fod yn hwyrach na 28 Tachwedd 2016. Yr oedd hi'n ofynnol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol roi ystyriaeth i'r sylwadau a gafwyd ar y fersiwn drafft cyn cyhoeddi fersiwn terfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2017.

Ar gyfer 2017/18, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn argymell cynyddu'r cyflog sylfaenol o 0.75%.  Hwn fyddai'r cynnydd cyntaf mewn 3 blynedd a byddai'n cynrychioli cynnydd o £100 o ran cyflog sylfaenol i gynghorwyr i £13,400. Fodd bynnag, nid oedd bwriad ar hyn o bryd i gynyddu cyflogau uwch.  Yn dilyn ystyried y mater, roedd y Pwyllgor o'r farn er bod y cynnydd o 0.75% yn y cyflog sylfaenol yn dderbyniol, nid oedd yn ddigonol i annog pobl iau i ymuno â llywodraeth leol a dod yn gynghorydd, yn enwedig mewn rôl amser llawn. Awgrymwyd y gallai swyddogion weithio'n agos gydag ysgolion a cholegau sy'n meddu ar Gyngor mewnol eu hunain er mwyn addysgu ac annog pobl ifanc i barhau â'u rôl ymhellach ym maes Llywodraeth Leol.

 

Nododd yr aelodau y byddai Lwfansau Gofal yn cael eu hailenwi yn 'Ad-dalu costau gofal' a bod y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol hefyd wedi cynnig newidiadau i'r modd y mae taliadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi gan ganiatáu i gynghorau naill ai "Gyhoeddi manylion am y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwyd; neu'r cyfanswm a ad-dalwyd i'r awdurdod yn ystod y flwyddyn ond heb nodi enw unrhyw aelod.  Roedd y Pwyllgor o'r farn er mwyn bod yn agored a thryloyw, y dylai'r Awdurdod barhau i gyhoeddi lwfansau a oedd yn cael eu talu i aelodau unigol ar wefan y Cyngor.

 

Mynegwyd nad yw'r rhai sy'n ymgymryd â rôl Is-gadeirydd ar hyn o bryd yn cael unrhyw lwfans am wneud hynny.  Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith wrth yr Aelodau fod darpariaeth ar gael pe bai'r Pwyllgor yn dymuno ymgeisio am Gyflog Uwch ychwanegol, fodd bynnag, byddai angen gweld tystiolaeth o'r llwyth gwaith ychwanegol er mwyn i'r cais fod yn llwyddiannus.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai ymateb yn cael ei anfon ymlaen i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys sylwadau'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn awdurdodi'r Cadeirydd i gyflwyno ymateb i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ar ran y Pwyllgor.

5.

SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN – ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015/16 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol 2015/16 Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ei swyddogaeth graffu i'r Pwyllgor.

Dywedodd y Cadeirydd fod y swyddogaeth graffu o fewn y Cyngor wedi ei datblygu'n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a'i bod bellach yn fwy grymus ac effeithiol.

Yn dilyn y pwyslais cynyddol ar swyddogaethau Craffu, gofynnwyd a fyddai modd estyn y cyfleuster gweddarlledu ar gyfer pob Pwyllgor Craffu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor fod hwn yn amserol oherwydd bod y contract gweddarlledu presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2017, a byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried wrth symud ymlaen i'r contract newydd.

Nododd Aelod fod camgymeriad ar dudalen 115 o'r adroddiad yn cyfeirio at 2014/15 yn hytrach na 2015/16.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n cywiro'r camgymeriad a byddai hefyd yn trefnu cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Swyddogaeth Graffu ar wefan y Cyngor.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

5.1      Dderbyn yr adroddiad;
5.2      Cyhoeddi'r adroddiad ar wefan y Cyngor.
</AI5><AI6>

6.

ADOLYGAETH BLYNYDDOL SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Adolygiad Blynyddol ynghylch Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yr adroddiad yn rhoi amlinelliad i'r aelodau o'r cymorth a ddarparwyd gan yr Uned Gwasanaethau Democrataidd dros y 12 mis diwethaf a oedd yn cynnwys;-

 

·         Adnoddau Gwasanaethau Democrataidd

·         Cymorth i'r Pwyllgor

·         Cymorth Dinesig a Chymorth i’r Aelodau

·         Cymorth a Llety i Aelodau Etholedig

·         Rhaglen Waith Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

 

O ran y nodyn atgoffa a anfonwyd at Arweinwyr pob Gr?p Gwleidyddol yn pwysleisio'r pwysigrwydd o gynnal cyfarfodydd un i un gyda'u haelodau er mwyn pennu anghenion hyfforddi. Mynegwyd siom nad oedd yr Arweinwyr wedi darparu ymateb eto a thrwy beidio â gwneud roeddent wedi colli cyfle da i ddarparu ar gyfer anghenion hyfforddiant eu Haelodau.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau na fu'n bosibl i gylchredeg yr Arolwg Ymsefydlu (a gytunwyd yn y cyfarfod diwethaf) oherwydd anawsterau technegol, fodd bynnag roedd cynlluniau ar waith i gynnal Grwpiau Ffocws yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad a'i ddiolch i holl aelodau'r Uned Gwasanaethau Democrataidd am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i nodi Adolygiad Blynyddol Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd</AI6>

 

7.

BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried blaenraglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17 a oedd yn rhoi Eitemau ar yr Agenda ar gyfer 2016/17/18 i'r Aelodau ar gyfer  Cylch y Pwyllgorau Democrataidd. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor y byddai Adolygiadau Datblygiad Personol yn cael eu hychwanegu at yr agenda yn rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r adroddiad.