Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 26AIN TACHWEDD 2021 PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at gofnod 6 (Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)) a dywedodd wrth y Pwyllgor fod IRPW, ers y cyfarfod diwethaf, wedi cadarnhau lefelau cyflog fel y cynigiwyd yn wreiddiol.
PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 26 Tachwedd, 2021 yn gywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021 (gweler cofnod 3), cytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i adolygu gofynion aelodau etholedig a chyfetholedig ac ystyried ffyrdd newydd o weithio ar gyfer swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd yn y dyfodol.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r Cynghorydd Jeff Edmunds, Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a wahoddwyd i gyflwyno adroddiad terfynol, canfyddiadau ac argymhellion y Gr?p Gorchwyl y Gorffen.
Cyfarfu'r Gr?p bedair gwaith rhwng mis Mai 2021 a mis Chwefror 2022. Yn ogystal, gwahoddodd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd bob gr?p gwleidyddol i gyfarfod â hwy i drafod syniadau cychwynnol a chael barn aelodau etholedig.
Talodd y Cynghorydd Edmunds deyrnged i'r diweddar Gynghorydd Mair Stephens, a oedd yn aelod ymroddedig a hynod werthfawr o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Cyfrannodd yn fawr tuag at waith y Gr?p ac roedd yn angerddol am y fenter Ffyrdd Newydd o Weithio.
Rhoddodd y Cynghorydd Edmunds ddiolch hefyd i holl aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen am eu cyfraniad, i'r holl aelodau am eu hadborth ac i swyddogion am eu cymorth.
Nodwyd bod gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi'i ddisodli'n rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a gyflwynodd ofyniad cyfreithiol i Awdurdodau Lleol wneud a chyhoeddi trefniadau er mwyn sicrhau y gellid cynnal cyfarfodydd drwy unrhyw offer neu gyfleuster arall a olygai fod yn rhaid cynnal cyfarfodydd aml-leoliad (cymysgedd o fod yn bresennol yn gorfforol ac o bell) a chafodd hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad.
Arweiniodd adolygiad y Gr?p Gorchwyl a Gorffen at adroddiad yn cynnwys cyfanswm o bum argymhelliad a luniwyd gan y Gr?p ar ôl ystyried ystod eang o dystiolaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i'w ystyried a'i argymell i'r Cyngor.
CYTUNWYD YN UNFRYDOL I ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo adroddiad terfynol ac argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i adolygu'r broses ddemocrataidd a ffyrdd newydd o weithio.
|
|
CYNLLUN GWEITHREDU AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 365 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2021 (gweler cofnod 5), penderfynodd y Cyngor i ymrwymo i fod yn 'Gyngor Amrywiol' a chymeradwyodd ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor i roi tasg i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddatblygu cynllun gweithredu cyn etholiad llywodraeth leol 2022.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy'n hyrwyddo amrywiaeth mewn llywodraeth leol gan gynnwys:-
- hawl i aelodau gweithrediaeth a chadeiryddion pwyllgorau rannu swyddi. - dyletswydd ar brif gynghorau i lunio Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut i ddod yn aelod o'r cyngor. - dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau. - Darlledu cyfarfodydd llawn y Cyngor yn electronig. - Y gallu i fynychu cyfarfodydd y cyngor o aml-leoliadau gan gynnwys presenoldeb corfforol, hybrid ac o bell. - Darpariaethau sy'n galluogi i'r cyfnod hwyaf o absenoldeb ar gyfer pob math o absenoldeb teuluol i aelodau awdurdodau lleol gael ei bennu o fewn rheoliadau ac i absenoldeb mabwysiadu adlewyrchu'r hyn sydd ar gael i weithwyr.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn drafft o'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Roedd yr amcanion yn y Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar y rhai a awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, gellid ychwanegu rhai eraill os dymunir.
Cyfeiriwyd at ddefnyddio'r acronym "BAME" yn y Cynllun Gweithredu ac awgrymwyd y dylid defnyddio'r term yn llawn yn hytrach na'r acronym. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i fynd ar drywydd hyn a newid y Cynllun Gweithredu fel y bo'n briodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.
|