Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Gwener, 26ain Tachwedd, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.I Jones. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23AIN MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021, gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

SWYDDOGAETH GRAFFU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN -ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020/21 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Committee considered a report providing an overview of the Council’s Scrutiny Function and the respective Scrutiny Committees’ work during the 2020/21 municipal year.

 

Roedd gan y Cyngor bum Pwyllgor Craffu a oedd fel arfer yn cyfarfod bob chwe wythnos. Rhoddodd yr adroddiad olwg gyffredinol ar Swyddogaeth Graffu y Cyngor a chyfeiriodd yn benodol at waith y 5 Pwyllgor Craffu:-

 

·         Polisi ac Adnoddau

·         Adfywio Cymunedol

·         Addysg a Phlant

·         Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

·         Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dywedodd y Cynghorydd Giles Morgan (Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu) fod y pwyllgorau wedi treulio cryn dipyn o amser yn adolygu materion yn ymwneud â Covid.  Mynegwyd diolch i'r Gwasanaethau Democrataidd am hwyluso'r newidiadau a oedd wedi galluogi cyfarfodydd i barhau.

 

Gofynnwyd faint o gostau teithio oedd wedi'u harbed drwy gael cyfarfodydd rhithwir.  Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor y byddai'r union ffigwr yn cael ei ddosbarthu i'r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

DARPARIAETH TGCH I'R AELODAU pdf eicon PDF 431 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd roi sylwadau ar ddarparu offer TG i'r Aelodau yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022.

 

Dywedodd Pennaeth TGCh a Pholisi mai'r bwriad oedd parhau i ddarparu gliniadur, iPad a chyfleuster BYOD ar gyfer dyfeisiau symudol.  Nodwyd bod yr Awdurdod hefyd yn bwriadu cyflwyno meddalwedd ffonau meddal i alluogi galwadau ffôn dros y rhyngrwyd ac i gael gwared ar linell band eang a ddarperir gan yr Awdurdod.

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor hefyd ystyried a oedd y lwfans cyfathrebu o £20 yn gyfraniad digonol tuag at gostau gwaith sy'n gysylltiedig â'r Cyngor ar gyfer band eang a defnyddio'r ffôn.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at aelodau'n prynu eu hoffer eu hunain, a dywedwyd y byddai'n fuddiol ymchwilio i'r opsiwn hwn. Dywedodd Pennaeth TGCh a Pholisi y byddai cael gliniaduron ac iPads a roddir gan yr Awdurdod yn gwneud darparu cymorth yn llawer haws a phwysleisiodd na fyddai aelodau bellach yn elwa o gymorth TG mewnol pe baent yn caffael eu hoffer gan ddarparwr allanol.

·         Gofynnwyd beth oedd yn cael ei ystyried fel yr isafswm Mbps sy'n ofynnol ar gyfer gweithio o bell.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod tua 30 mbps yn cael ei ystyried yn feincnod. Dywedwyd bod rhai ardaloedd gwledig yn profi problemau cysylltedd a bod yr adran TG yn annog aelodau i adolygu eu pecynnau band eang presennol.

·         Cytunodd y Pwyllgor fod y lwfans cyfathrebu o £20 yn gyfraniad digonol tuag at gost band eang, a nododd y byddai cyfle i aelodau etholedig drafod cwestiynau ynghylch gofynion cysylltedd gyda'r is-adran TG.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. 

6.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT - CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 433 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Adran 147 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol drafft gan nodi ei benderfyniadau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23.

Ystyriodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, yn unol â'i Gylch Gwaith o ran gweithredu adroddiadau a gyhoeddwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Panel wedi manteisio ar y cyfle i ailosod cyflogau aelodau etholedig i gyd-fynd â'r enillion cyfartalog yng Nghymru.  Nodwyd, o ystyried Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022, fod y Panel wedi penderfynu y byddai'r penderfyniadau cyflog newydd yn weithredol o 9 Mai 2022 y tro hwn.

Codwyd y cwestiynau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Dywedwyd na ddylid cefnogi'r codiad cyflog arfaethedig ac y byddai cynnydd yn unol â chwyddiant yn fwy rhesymol.  Mynegwyd pryder y byddai codiad cyflog arfaethedig IRPW yn cyfleu'r neges anghywir ar adeg ariannol anodd.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a allai aelodau ddewis peidio â bod yn rhan o'r codiad cyflog arfaethedig, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai aelodau benderfynu peidio â chymryd y lwfans llawn.  Fodd bynnag, nodwyd bod IRPW yn annog aelodau i gymryd yr hawliad llawn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

·         derbyn yr adroddiad a

·         fel rhan o'r broses ymgynghori, bod y Cadeirydd yn cyflwyno sylwadau i'r IRPW y byddai codiad cyflog yn unol â'r gyfradd chwyddiant yn fwy priodol.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2020-21 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod blwyddyn y cyngor 2020-21 a nododd, oherwydd effaith Covid-19, na fu'n bosibl cynnal cylch llawn cyfarfodydd Pwyllgor am y flwyddyn.

 

Er bod amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor wedi'i leihau eleni, roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar sicrhau yr ymdrinnir ag anghenion a gofynion Aelodau a bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud i gefnogi aelodau yn eu dyletswyddau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i fod ar gael i aelodau’r Cyngor er gwybodaeth.

8.

SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddynodi un o'i swyddogion i swydd statudol Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a darparu digon o adnoddau i'r swyddog hwnnw gyflawni'r swyddogaethau statudol cysylltiedig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y staff, y swyddfeydd a'r adnoddau eraill a oedd ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny. 

 

Gofynnwyd i'r Pwyllgor benderfynu a oedd y gwasanaethau a ddarperir yn ddigonol i gyflawni'r broses ddemocrataidd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol:-

 

·         Nododd y Pwyllgor yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer cyfarfodydd Hybrid a dywedwyd y byddai'n fwy priodol cael staff ychwanegol o fewn Gwasanaethau Democrataidd yn hytrach na dibynnu ar gymorth gan adrannau eraill.  Er nad oedd y cais twf am staff ychwanegol wedi bod yn llwyddiannus, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod penodiadau bellach wedi'u gwneud i'r ddwy swydd wag yn yr uned a dylai'r cynnig o gael cymorth gan rannau eraill o'r adrannau fod yn ddigonol, ond byddai angen adolygu adnoddau'n gyson.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y PECYN CYMORTH DATBLYGU AELODAU pdf eicon PDF 491 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y Pecyn Cymorth Datblygu Aelodau, tudalen bwrpasol ar y Tudalennau Democratiaeth a fyddai'n cefnogi'r Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2021/22.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:

 

·         Dywedwyd bod yr aelodau wedi cyflawni cryn dipyn o hyfforddiant, ond ni cheir manylion am hyn ar wefan y Cyngor.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cyhoeddi data presenoldeb hyfforddiant ar wefan y Cyngor yn cael ei ystyried ac y byddai'n debygol o fod ar gael ar ôl mis Mai 2022.

·         Gofynnwyd pryd y byddai'r Pecyn Cymorth Datblygu ar gael i'r Aelodau.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol y byddai Cam 2 y pecyn cymorth ar gael ym mis Ionawr i'r Aelodau wneud sylwadau a rhoi adborth. Rhagwelid y byddai'r system lawn yn fyw erbyn mis Mai 2022.

·         Dywedwyd bod mynd i ddigwyddiadau hyfforddi a chyfarfodydd yn ystod y dydd yn anodd i rai aelodau a oedd yn gweithio'n llawn amser. Dywedodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith fod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i gynnal arolwg gyda'r holl Gynghorwyr ynghylch amserau cyfarfodydd ac y byddai hyn yn cael ei wneud ar ôl yr etholiad. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

·         Derbyn y Pecyn Cymorth dysgu i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Aelodau.

·         Cytuno ar gyfres o weithdai arddangos i bob aelod.