Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 23ain Mawrth, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian M Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

Y BROSES DDEMOCRATAIDD - DULLIAU NEWYDD O WEITHIO pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yn manylu ar sut y mae'r Awdurdod wedi trawsnewid ei ffordd o weithio yn sgil pandemig Covd19. 

 

Er bod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn cynnal pob Cyfarfod Democrataidd yn rhithwir, mae'n bryd ystyried sut y bydd y Broses Ddemocrataidd yn gweithredu yn y dyfodol, hynny yw a ddychwelir i'r hen drefn o ran pawb yn bresennol yn gorfforol (ar ôl y codir y cyfyngiadau), a ddefnyddir cyfuniad o'r ddwy elfen, neu a fydd y cyfarfodydd yn parhau'n rhithwir yn unig. Mae cyfarfodydd democrataidd yn parhau i gael eu cynnal o bell er mwyn parhau i gynnal busnes arferol y Cyngor.

 

Mae swyddfeydd bellach i raddau helaeth yn wag ar draws yr ystâd ac wrth symud ymlaen mae'r awdurdod yn edrych ar opsiynau i gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus, ac yn cydnabod bod yn rhaid iddo drawsnewid ei arferion gwaith ac ystyried sut rydym yn gweithio a faint o le sydd ei angen arnom mewn adeiladu.

 

Awgrymwyd y dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gynnal adolygiad Gorchwyl a Gorffen o ofynion aelodau er mwyn pennu anghenion aelodau etholedig wrth symud ymlaen â'r ffordd newydd o weithio o ran swyddogaeth y gwasanaethau democrataidd.

 

Cafwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Awgrymwyd 5 2 2 1 o ran gr?p gwleidyddol cytbwys o 10 aelod h.y.

5 aelod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

5 aelod ychwanegol

 

Gofynnwyd am gyngor cyfreithiol i ehangu'r aelodaeth a chadarnhaodd y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y gellir gosod yr aelodaeth yn ôl yr angen. Wrth ystyried y gwaith y Gr?p, dywedodd y gellid casglu barn yr aelodau drwy wahanol ddulliau, e.e drwy holiaduron neu sesiynau galw heibio rhithwir i gael barn aelodau.  Dywedodd Rheolwr y Prosiect yn dilyn derbyn barn yr aelodau h.y. ymgynghori’n ehangach er mwyn ddatblygu a symud ymlaen â'r broses Ddemocrataidd newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac y dylid sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys 10 aelod sy'n wleidyddol gytbwys a fyddai'n cynnwys yn awtomatig aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gysylltu â'r grwpiau gwleidyddol ar gyfer gweddill yr aelodau yn unol â'r argymhelliad uchod.

4.

PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL - CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad sy'n gofyn i'r pwyllgor nodi'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gyfer 2021/22.

 

Bydd penderfyniadau'r Panel yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2021/22, a fydd yn cael ei ystyried yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 19 Mai, 2021.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnodd y Cadeirydd pa ymgynghoriadau a wnaethwyd gan y Panel.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Cadeiryddion a Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r Panel Annibynnol ar Wasanaethau Annibynnol ym mis Hydref, 2020 a dosbarthwyd yr adroddiad drafft i Brif Awdurdodau, Cynghorau Tref a Chymuned, Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân a gofynnwyd am ymatebion ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYNLLUN DATBLYGU AELODAU 2021-22 pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yr adroddiad gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2021-22 a'r cynnig ar gyfer pecyn cymorth dysgu i gefnogi'r rhaglen. Rhoddodd wahoddiad i’r pwyllgor i roi sylwadau ar unrhyw ychwanegiadau, materion i'w dileu neu ddiwygiadau i'r cynigion.

 

Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys y cynnig cychwynnol ar y Model Cynghorydd yr 21ain Ganrif a gyflwynwyd i aelodau yn ôl ym mis Gorffennaf 2019 a bydd yn parhau i fod yn ddull cyfunol a chynhwysol o ddysgu sy'n adlewyrchu gwahanol arddulliau dysgu. Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys y ddau faes datblygu penodol a drafodwyd eisoes gydag aelodau:

·         Sgiliau Sylfaenol - Sgiliau ymarferol a gwybodaeth (mae hyn yn cael ei gynnwys yn y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth dysgu a datblygu presennol)

·         Sgiliau Perthynol - Sgiliau cysylltiol, digidol a myfyriol (i fod yn effeithiol fel Cynghorydd ar gyfer yr 21ain Ganrif ac wedi'u cynnwys fel rhan o sgyrsiau dysgu).

 

Bydd y dysgu'n rhan o dair thema i gefnogi aelodau yn eu rôl.

 

Roedd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yn awgrymu cynhyrchu tudalen bwrpasol ar gyfer aelodau gan roi dealltwriaeth glir iddynt o'u sgiliau dysgu, eu hanghenion a'r ffordd ymlaen.  Bydd y dudalen hon ar gael ar y Fewnrwyd a'r Wefan a all hefyd fod yn llwyfan recriwtio ar gyfer aelodau newydd posibl.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu ei bod wedi cysylltu â Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil a bydd yn cynnwys y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau ei fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ein bod ar hyn o bryd yn aros am ragor o arian gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu cynhyrchu mwy o gynnwys digidol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1 cymeradwyo'r cynnig ar gyfer y Pecyn Cymorth dysgu i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Aelodau.

5.2  cael arddangosiad i weld y dudalen bwrpasol hon ar gyfer aelodau yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

6.

DATBLYGIAD AELODAU - ADOLYGIADAU O DDATBLYGIAD PERSONOL pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu yr adroddiad yn crynhoi'r broses a fydd yn cael ei harwain gan aelodau ar gyfer cynnal Adolygiadau Datblygiad Personol sy'n bodloni anghenion aelodau ac yn gwahodd mwy o gyfranogiad ac sy'n ystyried y broses a fydd ar gael i bob Aelod Etholedig.

 

Mae gan Aelodau Etholedig ystod eang o rolau a chyfrifoldebau y disgwylir iddynt ymgymryd â hwy. Bydd y broses o ran yr Adolygiad o Ddatblygiad Personol yn cynorthwyo Aelodau Etholedig i nodi unrhyw gymorth y gallai fod ei angen i gyflawni'r rolau hyn yn effeithiol.

 

Mae templedi ar gael i Arweinwyr Grwpiau i gynorthwyo gyda'r adolygiadau ac i nodi y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gadarnhau unrhyw aelodau heb gysylltiad pleidiol gyda'r nod o gwblhau'r holl Adolygiadau Datblygiad Personol erbyn diwedd mis Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

7.

PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019-20 pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a oedd yn amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod blwyddyn ddinesig 2019-20 a nododd, oherwydd bod pob cyfarfod democrataidd wedi cael eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil Covid19, nid oedd yn bosibl cynnal cylch llawn cyfarfodydd Pwyllgor am y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.

8.

BLAENRHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2021-22 pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad sy'n manylu ar yr eitemau disgwyliedig ar agenda cylch cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2021-22. Roedd hyn yn unol â'r Flaenraglen Waith gan sicrhau bod holl Bwyllgorau priodol yr Awdurdod wedi cyhoeddi'r rhaglenni diweddaraf sy'n eiddo i aelodau'r Pwyllgor. 

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gyfle pellach i'r aelodau godi unrhyw eitemau ychwanegol yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR TACHWEDD 30AIN, 2020 pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 30ain Tachwedd 2020 gan eu bod yn gywir.