Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12EG MAWRTH, 2019. pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CYNLLUN DATBLYGU'R AELODAU 2019/20. pdf eicon PDF 810 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y Cynllun Datblygu Aelodau arfaethedig ar gyfer 2019/20 a'r dull diwygiedig ar gyfer nodi anghenion dysgu a datblygu yn y dyfodol.

 

Roedd y cynnig hwn yn cynnig ymagwedd newydd tuag at ddatblygu aelodau yn seiliedig ar ymchwil â llywodraeth leol ac ymgynghori â chynghorwyr. Ei nod oedd ymgysylltu cymaint â phosibl er mwyn pennu gofynion dysgu a datblygu sy'n berthnasol i'r gwasanaeth cyhoeddus yn yr 21ain ganrif. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi rolau newydd ac yn cynnig model y gellid ei ddefnyddio i archwilio gyrfaoedd a datblygiad Cynghorwyr.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch fformat a hyd y gweithdai sydd wedi'u trefnu ym mis Medi. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Trefniadaeth y byddai ymgysylltu'n hanfodol a'i fod yn barod i gael arweiniad gan yr Aelodau o ran sut y dylid darparu'r gweithdai. Bydd canlyniadau'r gweithdai yn allweddol. Byddai trafodaethau un-i-un hefyd yn cael eu trefnu gyda'r Aelodau.

 

Gofynnwyd a oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i ddeiliannau dysgu sy'n cyfrannu at gredydau prifysgol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Trefniadaeth y gellid archwilio fframweithiau Rhaglen Ddysgu Broffesiynol. Pwysleisiodd hefyd ei fod yn bwysig bod cofnodion hyfforddiant yr aelodau yn cael eu diweddaru.

 

Dywedwyd bod rôl y Cynghorydd yn newid yn barhaus a bod cynnydd o ran ymdrin â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu, er bod hyfforddiant personol yn cael ei gynnig, hoffai'r adran Rheoli Pobl ymchwilio ymhellach i'r math hwn o hyfforddiant.

 

Nodwyd er bod y "rolau allweddol ar gyfer y dyfodol" yn edrych yn ddiddorol, fod rhai ohonynt yn annealladwy. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Trefniadaeth fod hwn yn fodel hyblyg a fyddai'n cael ei addasu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin a'i aelodau. Roedd y model eisoes wedi ysgogi trafodaeth ynghylch yr hyn a olygai i aelodau Sir Gaerfyrddin.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai hyfforddiant ar-lein ac e-ddysgu yn chwarae rhan bwysig o ran bodloni gofynion datblygol aelodau a'u gwahanol ffyrdd o fyw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i wneud y canlynol:

 

4.1       cymeradwyo'r cynnig i ymgysylltu ag aelodau ynghylch model Cynghorwyr yr 21ain Ganrif, ac i bennu ymagwedd newydd ar gyfer llunio a darparu'r Rhaglen Datblygu Aelodau.

 

4.2       cytuno ar yr amserlen ar gyfer llunio Rhaglen Datblygu Aelodau fanwl.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau