Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd S. Najmi.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 29 TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 185 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Gwasanaethau democrataidd a gynhaliwyd ar 29ain Tachwedd 2017 yn gofnod cywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Dai Thomas wedi rhoi ymddiheuriad am ei absenoldeb o'r cyfarfod.

 

4.

GWERTHUSIAD O'R RHAGLEN SEFYDLU I'R AELODAU pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r adborth a gafwyd gan y grwpiau ffocws a gynhaliwyd i werthuso Rhaglen Sefydlu'r Aelodau ac yn arbennig yr hyn a oedd yn llwyddiannus o ran Rhaglen Sefydlu'r Aelodau 2017 a beth y gellid ei wneud yn well. Roedd yr adborth, gan gynnwys yr adborth a gafwyd gan bwyllgorau craffu amrywiol, yr Uned Gwasanaethau Democrataidd, Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion y Grwpiau a'r blaenoriaethau a nodwyd gan uwch-swyddogion y Cyngor wedi helpu i lunio'r drafft o'r Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2018/19 [Gweler cofnod rhif 5 isod].

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

5.

CYNLLUN BLYNYDDOL DATBLYGU'R AELODAU 2018/19 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y gwerthusiad o Raglen Sefydlu'r Aelodau 2017/18 [gweler cofnod 4 uchod] rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r fersiwn drafft o'r Cynllun Datblygu Aelodau 2018/19 a oedd yn amlinellu'r cyfleoedd datblygu arfaethedig a fydd ar gael i'r aelodau rhwng mis Mawrth 2018 - Ebrill 2019 a thu hwnt lle y bo'n briodol. Nodwyd na fyddai'r Cynllun yn sefydlog a gellid newid y cynllun ar unrhyw adeg i ddarparu ar gyfer amgylchiadau aelodau a swyddogion. Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd pe caiff aelod newydd ei ethol yn sgil isetholiad gellir trefnu mentora a chynllun unigol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus, ond disgwylir hefyd i gr?p gwleidyddol yr unigolyn, lle bo'n berthnasol, ddarparu cymorth.  Roedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai aelodau newydd yn manteisio i'r eithaf ar y Cynllun Datblygu Aelodau. Cytunodd yr Ymgynghorydd Datblygu Corfforaethol i ddarparu mwy o wybodaeth am y gwahanol sesiynau Sgiliau Iaith Gymraeg unigol a gynigwyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r fersiwn drafft o'r Cynllun.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL (IRPW), (CHWEFROR, 2018) pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn manylu ar y penderfyniadau a'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [Chwefror 2018] gyda'r nod o gyflwyno argymhellion i'r Cyngor i'w cynnwys yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2018/19. Roedd Adroddiad y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnwys 53 o benderfyniadau gyda'r mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath a'r hyn a welwyd yn Adroddiad 2017.

 

Wrth osod lefel y cyflogau a'r lwfansau ar gyfer 2018/19 penderfynodd y Panel y byddai cynnydd o 1.49% yng nghyflog blynyddol sylfaenol yr aelodau etholedig. Nid oedd unrhyw gynnydd wedi'i awgrymu ar gyfer cyflogau uwch ond byddai deiliaid y swyddi hynny yn cael y codiad yn yr elfen gyflog sylfaenol. Yn ogystal, cafodd y cytundeb dwy haen ar gyfer aelodau gweithredol a chadeiryddion pwyllgorau ei ddileu.

 

Gofynnwyd am farn y Pwyllgor am y taliadau i Aelodau Byrddau Gweithredol, Cadeiryddion Pwyllgorau, Penaethiaid Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig, ynghyd â'r Lwfansau Cynhaliaeth a'r Lwfansau Llety, Cydnabyddiaeth Ariannol Cadeiryddion Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, talu Ffïoedd Aelodau Cyfetholedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 a chyhoeddi ad-daliadau costau gofal.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR

 

6.1 nodi bod y Panel wedi penderfynu cynyddu'r cyflog sylfaenol yn 2018/19 ar gyfer aelodau etholedig prif awdurdodau lleol i £13,600;

 

6.2nodi bod y Panel wedi dileu'r cytundeb dwy haen ar gyfer cyflogau aelodau gweithredol a chadeiryddion pwyllgorau;  

 

6.3 bod modd cynnal y trefniadau presennol yn 2018/19 o ran :-

·         lefel y cyflog a delir i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor (lefel 2 ar hyn o bryd);

·         cyfraddau ad-dalu costau cynhaliaeth a'r arfer presennol bod yr Uned Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am drefniadau llety dros nos yr aelodau;

·         yr arfer presennol o nodi'r trefniadau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ag Awdurdodau eraill, a chynnwys y Pwyllgorau hyn yng nghynllun y Cyngor pe bai'r Cyngor yn penderfynu sefydlu Cyd-bwyllgorau yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2018/19 a thalu cyflog;

·         gosod cap ar y ffïoedd a delir i'r Aelodau Cyfetholedig sef 10 diwrnod llawn (neu 20 hanner diwrnod) o gyfarfodydd;

 

6.4 cyhoeddi manylion y symiau a ad-dalwyd i aelodau a enwir o ran ad-dalu costau gofal [opsiwn 1];

 

6.5  derbyn gweddill argymhellion a phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018 a'u cynnwys yn rhan o Gynllun presennol Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig 2018/19;

 

PENDERFYNWYD hefyd: 

 

6.6 nodi bod y Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad wedi derbyn argymhelliad y Pwyllgor y dylai presenoldeb Cadeirydd y Cyngor, yr Arweinydd a Dirprwy Arweinydd yr Wrthblaid a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol gael ei gynnwys fel dyletswydd gymeradwy yng Nghynllun Cyflogau a Lwfansau'r Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig o 2018/19 ymlaen, a byddai'r argymhelliad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau