Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr B.D.J. Phillips ac M.J.A. Lewis.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu B a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu A a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2024 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
MR DAVID PHILIP DALY - DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr David Philip Daly o 23 Gerddi Lingield, Hendy-gwyn ar Daf, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Daly.
PENDERFYNWYD YN UNFRODOL fod Mr Daly yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR JONATHAN MARVIN DAVIES - CAIS I ADNEWYDDU DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Roedd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wedi gofyn am i'w gais gael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio cais Mr Jonathan Marvin Davies am adolygu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.
|
|
MR THOMAS PETER HAYNES FULLER CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Thomas Peter Haynes Fuller o 4 Lôn Cae Ffynnon, Llandeilo am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Fuller ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Roedd y Cynrychiolydd o'r Heddlu wedi rhoi gwybodaeth mewn perthynas â'r materion a godwyd i'r Pwyllgor.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Fuller yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Thomas Peter Haynes Fuller am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR JON-PAUL THOMAS ENGLEFIELD CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Jon-Paul Thomas Englefield o 28 Glasfryn, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat. Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Englefield ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Englefield yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais a gyflwynwyd gan Mr Jon-Paul Thomas Englefield an Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gan roi rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MISS CAROLYN ANNE EVANS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Miss Carolyn Anne Evans o 2 Hengegin, Llandyfân, Rhydaman yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Miss Evans.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Miss Evans ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Miss Evans yn cael ei dirymu.
Rhoddwyd cyfle i Gynrychiolydd yr Heddlu roi gwybodaeth mewn perthynas â'r materion a godwyd.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal trwydded Miss Carolyn Anne Evans am y cyfnod rhwng 6.00pm ar 25 Hydref 2024 a 6.00pm ar 28 Hydref 2024
Y Rhesymau :
O ran y ffeithiau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod achos rhesymol dros atal trwydded Miss Evans ond bod y ffactorau lliniaru yn cyfiawnhau cyfnod byr iawn o atal yn unig.
|
|
MR ABDALLAH MOHAMED AHMED - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Abdallah Mohamed Ahmed o Mountain View, Clos Anthony, Tre Ioan, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Ahmed ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Rhoddwyd cyfle i Gynrychiolydd yr Heddlu roi gwybodaeth mewn perthynas â'r materion a godwyd.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Ahmed yn cael ei wrthod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Abdallah Mohamed Ahmed am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Y RHESYMAU :
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, mae'r ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
MR MOHAMED NAYRAB - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mohamed Nayrab o 15 Parc y Bryn, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Nayrab ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Rhoddwyd cyfle i Gynrychiolydd yr Heddlu roi gwybodaeth mewn perthynas â'r materion a godwyd.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Nayrab yn cael ei wrthod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Mohamad Nayrab am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Y RHESYMAU :
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, mae'r ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded
|