Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, W.T. Evans a B.A.L. Roberts. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu “A” a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2024, gan eu bod yn gywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024, gan eu bod yn gywir. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|
MR RICHARD DENNIS THOMAS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Richard Dennis Thomas, 9 Bryn Gwdig, Porth Tywyn am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Thomas yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Richard Dennis Thomas am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR JASON ROBERT HUGHES -TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jason Robert Hughes, 46 Heol Cwmaman, y Garnant yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â chais Mr Hughes.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hughes ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Hughes yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Mr Hughes yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR LEE JENKINS - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Pwyllgor fod adroddiad yn ymwneud â Mr Lee Jenkins, 89 James Street, Llanelli sy'n meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod, wedi cael ei dynnu'n ôl yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024, er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad ers i'r eitem gael ei rhoi ar agenda'r cyfarfod hwnnw. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â chais Mr Jenkins.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jenkins ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Jenkins yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD rhoi rhybudd terfynol i Mr Jenkins ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. |
|
MR DANIEL THOMAS LESLIE GRIFFITHS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Daniel Thomas Leslie Griffiths, 19 Maes y Dderwen, Llangennech, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Griffiths ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Griffiths yn cael ei wrthod.
Ar hynny:
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Daniel Thomas Leslie Griffiths am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Y Rhesymau:
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
MR KHALIL JUMAA - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Khalil Jumaa, 17 Upper William Street, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jumaa ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jumaa yn cael ei wrthod.
Ar hynny:
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Khalil Jumaa am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Y Rhesymau:
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
MR DAVID RONALD MACLAGGAN-WALKER - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at yr eitem ar yr agenda y diwrnod hwnnw yn ymwneud â Mr David Ronald Maclaggen-Walker o 49 Heol Cwmgarw, Brynaman Uchaf, Rhydaman, sy'n meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod a dywedodd fod yr eitem wedi'i thynnu yn ôl am y rhesymau a nodwyd yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD nodi bod yr eitem ar yr agenda yn ymwneud â Thrwydded Yrru Ddeuol Mr David Ronald Maclaggen-Walkers ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat wedi'i thynnu yn ôl. |