Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 28ain Chwefror, 2023 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb, ond roedd y Cadeirydd wedi cael gwybod bod disgwyl i'r Cynghorydd D. Jones ymuno â'r cyfarfod yn hwyr.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

K. Howell

6. Mr Dylan Crompton Davies - Cais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae'r Cynghorydd J.K. Howell yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 19 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "A" a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 10 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RESOLVED that, subject to the correction of a typographical error in item 1, paragraph 1, the minutes of the meeting of Licensing Committee held on the 10thJanuary, 2023 be signed as a correct record.

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

6.

MR DYLAN CROMPTON DAVIES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd J.K. Howell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac ailadroddodd ei ddatganiad ynghylch yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei drafod a phleidlais yn cael ei chynnal yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Dylan Crompton Davies, o Glyncoed, Heol Saron, Pentre-cwrt, Llandysul am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y materion a godwyd gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Dylan Crompton Davies am adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

7.

MR DAMIAN MARTYN MUNRO CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Damian Martyn Munro, o 61 Heol Penygarn, T?-croes, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais. 

 

Yna bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Munro ynghylch y cais a'r materion a godwyd gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu fod cais Mr Munro yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Damian Martyn Munro am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

8.

MR WAYNE SCOTT DICKSON CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Wayne Scott Dickson, o Falcon House, Heol Cwm-mawr, Dre-fach, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais. 

 

Yna bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Dickson ynghylch y cais a'r materion a godwyd gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu fod cais Mr Dickson yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Wayne Scott Dickson am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

9.

MR JEFFREY THOMAS CHANDLER TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jeffrey Thomas Chandler, o Fflat 3, 4 Stryd y Farchnad, Llandeilo yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod. Rhoddodd yr Arweinydd Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Chandler. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Chandler ynghylch y materion a godwyd gan yr Arweinydd Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Arweinydd Trwyddedu fod cais Mr Chandler yn cael ei atal

nes ei fod yn cwblhau Cwrs Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd priodol â'r Adran Drwyddedu.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Jeffrey Thomas Chandler ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm

 

Ar sail y ffeithiau a gyflwynwyd, ni allai'r Pwyllgor fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.  Yn unol â hynny, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded.