Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, K. Madge, L. Roberts a D.E.W. Williams. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Cynghorydd W.T. Evans yn hwyr yn ymuno â'r cyfarfod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 11 Hydref, 2022 yn gofnod cywir. |
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD. NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
MR SHAUN CRAIG LANE CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Shaun Craig Lane o 6 Bryn Dreinog, Capel Hendre, Rhydaman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Lane ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Lane yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Shaun Craig Lane am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MR KEVIN JONES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Kevin Jones o 96 Trem y Bryn, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Phillips ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD ganiatáu cais Mr Kevin Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |
|
MR STUART PROTHEROE TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Stuart Protheroe o 14 Heol Buckley, Llanelli, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Protheroe ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Protheroe yn cael ei ddiddymu.
Ar hynny:
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chyngor y Swyddog, i ddiddymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Stuart Prothero ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Rheswm:
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded. |