Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, A. Fox, a T.J. Jones

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd S Curry i'r cyfarfod wedi iddi gael ei phenodi yn ddiweddar yn aelod o'r Pwyllgor.

3.

ADOLYGIAD O DDATGANIAD Y POLISI TRWYDDEDU (DEDDF TRWYDDEDU 2003) pdf eicon PDF 430 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd o Bolisi Trwyddedu'r Cyngor a oedd yn ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth i'w gynnal bob pum mlynedd. Er bod yr adolygiad diwethaf wedi'i gynnal yn 2015, nodwyd bod Polisi Trwyddedu presennol Sir Gaerfyrddin wedi'i fabwysiadu ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd ynghylch mabwysiadu Asesiad o'r Effeithiau Cronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin.

 

Er mai'r bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r polisi ym mis Mawrth 2020, dywedodd yr Arweinydd Trwyddedu fod hynny wedi'i oedi oherwydd pandemig Coronafeirws tan adeg fwy priodol a hefyd i weld a fyddai'r cyfnod adolygu statudol yn cael ei ymestyn o ganlyniad i'r pandemig hwnnw. Gan nad oedd y cyfnod adolygu 5 mlynedd wedi'i ymestyn, roedd yr ymgynghoriadau ar yr adolygiad o'r polisi wedi'u diwygio i ganolbwyntio ar y prif feysydd statudol er mwyn ymgynghori yn eu cylch am gyfnod cyfyngedig yn unig, gydag ymgynghoriad manylach i'w gynnal pan oedd argyfwng y pandemig wedi dod i ben.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr ymarfer ymgynghori wedi digwydd rhwng 14 Rhagfyr a 10 Ionawr 2021 a bod tua 2,000 o unigolion a sefydliadau wedi derbyn y ddogfen ymgynghori, a nodwyd y canlyniadau yn yr adroddiad i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL A'R CYNGOR:

 

3.1

Bod Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo;

3.2

Bod yr Asesiad o'r Effeithiau Cronnol presennol yn cael ei gadw ar gyfer Heol yr Orsaf, Llanelli a Heol Awst, Caerfyrddin fel y manylir yn Adain 10 o'r Polisi

 

 

 

 

4.

PENODI CYNGHORYDD S.CURRY I EISTEDD AR IS BWYLLGOR TRWYDDEDU A

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn penodi'r Cynghorydd S. Curry yn aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu, yn lle'r Cynghorydd F. Akhtar, y byddai angen i'r Pwyllgor ei phenodi i lenwi'r lle gwag ar Is-bwyllgor Trwyddedu 'A'.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd S. Curry i wasanaethu ar Is-bwyllgor Trwyddedu ‘A’

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 11 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.

MR MARK DAVIES CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mark Davies, Hideaway, Heol y Pentre, Sanclêr am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Mark Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. 

8.

MR DAVID IAN ELIAS CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor, o ganlyniad i ddigwyddiadau a oedd wedi codi ar ôl i agenda'r cyfarfod gael ei dosbarthu, ei fod yn gofyn am ohirio rhoi ystyriaeth i gais Mr Elias y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio rhoi ystyriaeth i gais David Elias.

9.

MR RICHARD GORDON JONES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Richard Gordon Jones, Glannant House, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Jones yn cael ei wrthod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Richard Gordon Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.   

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau