Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Phillips a T.J. Jones.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020, gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||||||||||
MR KENNETH JOHN JOSEPH DUXBERRY - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: (NODER: Gan fod y Cynghorydd E. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, gadawodd y cyfarfod ac felly nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid yr eitem hon. Llywyddwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd D.E. Williams, yr Is-gadeirydd)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Kenneth John Joseph Duxberry, 18 Cwrt y Gloch, Peniel, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Duxberry ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Duxberry yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Kenneth John Joseph Duxberry am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
||||||||||
MR JOHN MICHAEL ELIAS - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr John Michael Elias, 21 Cae Person, Llanddarog i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Elias ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Elias yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr John Michael Elias am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
||||||||||
MR THOMAS PETER HAYNES FULLER - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: (NODER: Gan fod y Cynghorydd E. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, gadawodd y cyfarfod ac felly nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid yr eitem hon. Llywyddwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd D.E. Williams, yr Is-gadeirydd)
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Thomas Peter Haynes Fuller, 1 Maesyderi, Llandeilo yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat ar hyn o bryd gan yr Awdurdod hwn a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Fuller ynghylch y mater hwnnw.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Fuller yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Thomas Peter Haynes Fuller am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
||||||||||
MR JEANETTE DAVIES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs Jeanette Davies, 27 Heol Llwyn Bedw, yr Hendy am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Davies ynghylch ei chais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mrs Davies yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mrs Jeanette Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
||||||||||
MR LEE CAINES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Lee Caines 126 Heol-y-Gors, Cwm-gors, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Caines ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Caines yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Lee Caines am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
||||||||||
MR BHUPINDER MALLEY - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: (Noder: Oherwydd ymrwymiad gwaith arall, nid oedd y Cynghorydd M. Charles yn bresennol wrth ystyried yr eitem hon.)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Bhupinder Malley, 16 Y Bwthyn, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Malley ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Malley yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Buphinder Malley am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|