Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.Fox.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU 2021-22 pdf eicon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn sgil darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig yr Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2021/22 fel a ganlyn:

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Y Cynghorwyr Mansel Charles, Suzy Curry, Amanda Fox, Ken Howell, Jim Jones, Dorian Phillips ac Elwyn Williams.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "B”

Cynghorwyr: Tyssul Evans; Penny Edwards; Irfon Jones; Andre McPherson; Susan Phillips, Edward Thomas ac Eirwyn Williams.

 

4.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

bod y Cynghorydd M. Charles yn cael ei benodi’n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "A" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22;

4.2

bod y Cynghorydd H.I. Jones yn cael ei benodi yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

5.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 11EG CHWEFROR, 2021 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021, gan eu bod yn gywir.

 

6.

LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR:

Dogfennau ychwanegol:

6.1

9FED CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2021, gan eu bod yn gywir.

 

6.2

28AIN EBRILL 2021 pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021, gan eu bod yn gywir.

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.   

8.

MR MICHAEL DAVID JAMES TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oedd Mr James yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei fod wedi gofyn i'r Pwyllgor fwrw ymlaen ag ystyried y mater yn ei absenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Michael David James o 20 Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, ar hyn o bryd yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Darllenwyd datganiad gan Mr James i'r Pwyllgor.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr James yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Michael David James yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

O ran y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oedd y ffeithiau a gyflwynwyd yn cyfiawnhau atal neu ddirymu'r drwydded, ond y dylid rhoi rhybudd.

 

9.

MR JASON DANIEL BAKER CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod nad oedd Mr Jason Daniel Baker yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ac roedd wedi gofyn am ohirio ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Jason Daniel Baker am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

 

 

10.

MR NIGEL ANDREW NOBES TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Mr Nigel Andrew Nobes, 7 Stryd y Bont, Castellnewydd Emlyn yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod ond bod ei drwydded wedi'i hatal ar hyn o bryd.

 

Cafodd Mr Nobes ei gyfweld gan ei gynrychiolydd cyfreithiol yngl?n â'r materion ynghylch atal ei drwydded ac yn dilyn hynny cafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Nobes ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, codi’r gwaharddiad ar y Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat Mr Nigel Andrew Nobes a’i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

O ran y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oedd y ffeithiau a gyflwynwyd yn cyfiawnhau dirymu'r drwydded ond y dylid rhoi rhybudd.

11.

MRS JEANETTE DAVIES TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu nad oedd Mrs. Davies yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei bod wedi gofyn i'r Pwyllgor fwrw ymlaen ag ystyried y mater yn ei habsenoldeb.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Jeanette Davies of 27 Heol Llwyn Bedw, Hendy, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod rhai materion wedi codi ynghylch ei thrwydded. Darllenwyd datganiad gan Mrs Davies i'r Pwyllgor.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mrs Davies ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, y dylid dirymu TrwyddedGyrwyr Deuol Hacni/Llogi Preifat Mrs Jeanette Davies.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon nad oedd Mrs Davies yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau