Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Cooper. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2024, yn gofnod cywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024 yn gofnod cywir. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.
OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||||
MRS TRACY MAVIS DIXON - DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Tracy Mavis Dixon o 130 Heol Cwmaman, y Garnant, Rhydaman yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am yr amgylchiadau a oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mrs Dixon.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld Mrs Dixon ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mrs Dixon yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD bod Mrs Dixon yn parhau i ddal ei Thrwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat. gyda rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.
Y RHESWM: Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod Mrs Davies yn rhywun addas a phriodol i feddu ar Drwydded. |
|||||||
MR JONATHAN MARVIN DAVIES - CAIS I ADNEWYDDU DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Jonathan Marvin Davies o 23 Maes yr Ehedydd, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor nad oedd Mr Davies yn bresennol yn y cyfarfod ac aeth ymlaen i roi gwybod am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.
Gan gofio nad oedd Mr Davies yn bresennol yn cyfarfod:
PENDERFYNWYDD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL ohirio cais Mr Jonathan Marvin Davies i'r Pwyllgor Trwyddedu nesaf.
Y RHESWM: I roi cyfle pellach i Mr Davies fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Trwyddedu. |
|||||||
MR GARY PAUL EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Ar ôl i'r pwyllgor fynd i sesiwn breifat, datganodd y Cynghorydd Jean Lewis fuddiant a gadawodd Siambr y Cyngor ac ni chymerodd ran yn ei ystyriaethau ar ôl iddi ddod yn ymwybodol o gysylltiad â'r ymgeisydd)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Gary Paul Evans o 18 Parc Gwyn, Trefechan, Caerfyrddin am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat.
Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.
Ar hynny bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans (ynghyd â'r bartner) o ran y cais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.
Cafodd y Pwyllgor wybodaeth hefyd gan Heddlu Dyfed-Powys ar y materion a godwyd, a chafodd Mr Evans gyfle i ymateb iddi.
Cyn gwneud argymhelliad i'r Pwyllgor, rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod am gynnwys sylw a ddaeth i law yn cefnogi'r cais. Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Evans yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWWYD, gan y mwyafrif, ganiatáu cais Mr Gary Paul Evans am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Y rheswm Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod ei benderfyniad yn unol â pholisi perthnasol y Cyngor ac felly roedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. |