Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 11eg Hydref, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 16 AWST 2022. pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.2

IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A 26 GORFFENNAF, 2022 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 16 Awst 2022, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 12 GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2022, gan eu bod yn gywir.

 

 

5.

PENODI'R CYNG LOUVAIN ROBERTS I LENWI'R SEDD AR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU B A ADAWYD YN WAG GAN Y CYNG CRANHAM

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, yn dilyn penodiad y Cynghorydd L. Roberts i'r Pwyllgor Trwyddedu, gan gymryd lle'r Cynghorydd M. Cranham, y byddai angen ei phenodi i'r swydd wag ar Is-bwyllgor Trwyddedu 'B’.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd L. Roberts i wasanaethu ar Is-bwyllgor Trwyddedu B’.

 

 

6.

ADOLYGIAD O UCHAFSWM TABL PRISIAU CERBYDAU HACNAI pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am geisiadau a oedd wedi dod i law i gynyddu'r uchafswm tabl prisiau presennol o ganlyniad i argostau cynyddol i berchenogion tacsis.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr opsiynau canlynol ar gyfer ailstrwythuro'r uchafswm tabl prisiau presennol ar gyfer cerbydau hacnai.

 

·       Opsiwn 1 Cynigiwyd gan Gymdeithas Cerbydau Hacnai Sir Gaerfyrddin;

  • Opsiwn 2 Cynigiwyd gan Aelodau'r Tariff masnach;

·       Opsiwn 3 Cynigiwyd gan Aelodau'r fasnach.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu yr ystadegau canlynol a dangosyddion sy'n berthnasol i berchnogion tacsis:-

 

·       Costau tanwydd;

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Mawrth 2011

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Rhagfyr 2021

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Gorffennaf 2022

o   Prisiau petrol a diesel cyfartalog y DU - Hydref 2022

o   Costau presennol petrol a diesel mewn gorsafoedd tanwydd lleol –Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli

·       Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol

o   Cyfraddau presennol

o   Cyfraddau cyn Ebrill 2016

·       Tabl Cenedlaethol y DU (gan gynnwys Cymru) - Yn seiliedig ar Daith 2 Filltir ar Dariff 1.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a ddarparwyd, dywedwyd bod yr hinsawdd ariannol wedi dirywio ymhellach ers y cynnydd tariff diwethaf yn 2022, a bod costau byw yn cynyddu'n gyflym.

 

Esboniodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod ymgynghoriad wedi bod ar y fasnach tacsis yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2021 ar gais a ddaeth i law am gynyddu'r uchafswm tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, daeth 80 o ymatebion i law gan 513 o yrwyr ac roedd 79 o blaid cynnydd.

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021, bu'r Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried y cynnig y gynyddu'r uchafswm tabl prisiau ar gyfer cerbydau hacnai.  Wrth ystyried y cais hwn, ystyriodd y Pwyllgor ffactorau amrywiol megis costau tanwydd, costau rhedeg, isafswm cyflog, costau byw, cymariaethau mewn tariffau gydag awdurdodau cyfagos ac awdurdodau eraill yng Nghymru a'r DU, a'r amser ers i'r tariff gael ei gynyddu diwethaf.  Penderfynodd y Pwyllgor hysbysebu'r cynnig newydd yn y wasg leol ar gost o ychydig o dan £3,000 i'r Awdurdod ac y byddai'r tariff yn weithredol pe na fyddai unrhyw gwrthwynebiadau'n dod i law.  Ar 17 Ionawr 2022 daeth y tariff newydd i rym yn Sir Gaerfyrddin gan na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan y cyhoedd.

 

Mewn ymateb i'r cynnydd sydyn mewn costau tanwydd, bu'r Adain Drwyddedu yn gofyn am sylwadau a chynigion gan 500 o yrwyr tacsis yn Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf 2022.  Cafodd yr Adain Drwyddedu 6 ymateb gydag awgrymiadau mewn perthynas â'r tariffau.

 

Eglurwyd bod yr opsiynau a gynigir i'r Pwyllgor eu hystyried heddiw wedi'u hanfon ymlaen ym mis Medi 2022 fel rhan o ymgynghoriad i'r 500 o yrwyr tacsis yn Sir Gaerfyrddin.  Allan o'r 18 ymateb a ddaeth i law o'r fasnach;

·        13 oedd o blaid Opsiwn 1

·        1 oedd o blaid Opsiwn 2

·        2 oedd o blaid Opsiwn 3

·        Doedd 2 ddim eisiau cynnydd.

 

Roedd cynrychiolydd o Gymdeithas Cerbydau Hacnai Sir Gaerfyrddin yn bresennol yn y cyfarfod a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

MR CRAIG ALLAN RICHARD MORGAN TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Craig Allan Richard Morgan o 16 Penydre, Bryntirion, Llanelli, yn berchen ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Morgan ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Morgan yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Craig Allan Richard Morgan yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

9.

MRS ABIGAIL RACHEL JONES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mrs Abigail Rachel Jones o 44 Heol Stepney, y Garnant, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i thrwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Jones ynghylch ei chais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mrs Jones yn cael ei ganiatáu a'i bod yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mrs Abigail Rachel Jones am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddi ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

 

10.

MR ANDREW PAUL REES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Andrew Paul Rees o 56 Maestir, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Rees ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Rees yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Andrew Paul Rees am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.