Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 27ain Mehefin, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Roberts a
D. E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

PENODI AELODAU AR GYFER YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM WEDDILL BLWYDDYN Y CYNGOR 2023-24 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ddarpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a roddai fanylion ynghylch aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu “A” a “B” ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24 fel a ganlyn:

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

 

Y Cynghorydd Suzy Curry, Y Cynghorydd Mansel Charles, Y Cynghorydd Alex Evans, Y Cynghorydd Tyssul Evans, Y Cynghorydd Ken Howell, Y Cynghorydd Peter Cooper ac un swydd wag.


 

Is-bwyllgor Trwyddedu B”

 

Y Cynghorydd Hefin Jones, Y Cynghorydd Jean Lewis, Y Cynghorydd Dorian Phillips, Y Cynghorydd Elwyn Williams, Y Cynghorydd Dot Jones, Y Cynghorydd Kevin Madge a'r Cynghorydd Louvain Roberts.

 

 

4.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023/24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

Bod y Cynghorydd M. Charles yn cael ei benodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu “A” ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24;

 

4.2

Bod y Cynghorydd D.E. Williams yn cael ei phenodi'n Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

 

5.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 20FED EBRILL 2023 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor A y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 20 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.

 

 

6.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

13 EBRILL, 2023 pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor B y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 13 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.

 

 

6.2

8 MEHEFIN 2023 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor B y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 8 Mehefin 2023 yn gofnod cywir.

 

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 4 EBRILL, 2023. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 4 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.

 

 

8.

TRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Geoffrey Karin Davies o Airport Flyer, 37a Heol Newydd, Dafen, Llanelli am eithriad o amodau 5a a 5b Amodau Trwydded y Cyngor ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat PH 546 - Kia Optima rhif cofrestru CP18 UTF, Cerbyd Hurio Preifat PH 567 - Ford Tourneo rhif cofrestru SA72 GPF a Cherbyd Hurio Preifat PH 509a Renault Trafic rhif cofrestru CU18 HXB.

 

Dywedwyd, gan mai bwriad Mr Davies oedd gweithredu'r cerbyd at ddiben hurio dethol, gwaith meysydd awyr/porthladdoedd yn unig, ei fod wedi gofyn am eithriad o amodau 5a a 5b o Amodau Trwydded y Cyngor, sef na fydd yn ofynnol iddo arddangos sticeri drws a phlât trwydded ar y bympar ôl ar ei gerbyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor pe bai'n cytuno i roi eithriad i Mr Davies, y byddai'r amodau canlynol ynghlwm wrth y Drwydded:-

 

  1. Bod Cerbyd Hurio Preifat PH 546 - Kia Optima rhif cofrestru CP18 UTF, Cerbyd Hurio Preifat PH 567 - Ford Tourneo rhif cofrestru SA72 GPF a Cherbyd Hurio Preifat PH 509 - Renault Trafic rhif cofrestru CU18 HXB yn cael eu heithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra byddant yn cael eu defnyddio at ddibenion Hurio Dethol fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr Davies. 

 

  1. Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Hurio Preifat, yn hytrach na'r math Hurio Dethol o waith a restrir, fod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath. 

 

  1. Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a gyflwynwyd gan Mr Geoffrey Karin Davies am eithriad o Amodau 5a a 5b o Amodau Trwydded y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat PH 546 - Kia Optima rhif cofrestru CP18 UTF, Cerbyd Hurio Preifat PH567 - Ford Tourneo rhif cofrestru SA72 GPF a Cherbyd Hurio Preifat PH 509 - Renault Trafic rhif cofrestru CU18 HXB.

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.   

 

 

10.

MR GEOFFREY KARIN DAVIES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi'i dderbyn gan Mr Geoffrey Karin Davies, 37a Heol Newydd, Dafen, Llanelli, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr. Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Geoffrey Karin Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

11.

MR LEE JENKINS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu at y cais a dderbyniwyd gan Mr Lee Jenkins, 89 Stryd Iago, Llanelli, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat,a gofynnodd am gael gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn cael gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Geoffrey Karin Davies yn cael ei ganiatáu a’i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

12.

MR JONATHAN THOMAS JONES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi'i dderbyn gan Mr Jonathan Thomas Jones, 44 Heol Glenalla, Llanelli, am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Jones yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Jonathan Thomas Jones yn cael ei ganiatáu a’i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

13.

MR CARWYN DAVIES - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi'i dderbyn gan Mr Carwyn Davies, Iscoed, Llanybydder am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod cais Mr Carwyn Davies yn cael ei ganiatáu a’i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.