Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. Roberts.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 28AIN CHWEFROR, 2023 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

5.

MR KENNETH JOHN JOSEPH DUXBERRY CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Kenneth John Joseph Duxberry o 18 Cwrt y Gloch, Peniel, Caerfyrddin am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Duxberry yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei fod wedi gofyn i'r Pwyllgor ystyried ei achos yn ei absenoldeb.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor o'r materion oedd wedi codi mewn perthynas â thrwydded Mr Duxberry.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Duxberry yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Kenneth John Joseph Duxberry am adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

6.

MR PETER CYRIL PEARCE CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Peter Cyril Pearce o 43 Orchard Park, Talacharn am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'r cais.

 

Yna gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Pearce ynghylch y cais a'r materion a godwyd gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Pearce yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Peter Cyril Pearce am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

 

7.

MR JAMIE STEPHEN SMITH CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar yr agenda. 

 

8.

MR STEVE ANTONY WILLIAMS DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Steve Antony Williams o 110 Stryd Fawr, Rhydaman yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacni/hurio preifat gyda'r Awdurdod hwn.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Yna gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Williams ynghylch y cais a'r materion a godwyd gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Williams yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, roi rhybudd terfynol i Mr Steve Antony Williams ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod y gyrrwr  yn parhau i fod yn  rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau