Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Phillips. Dywedodd y Cadeirydd fod ymddiheuriad am absenoldeb hefyd wedi dod i law gan y Cynghorydd K. Howell, ac yr oedd disgwyl iddo ymuno â'r cyfarfod yn hwyr.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 9FED RHAGFYR,2022. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 9 Rhagfyr, 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

5.

MR. CALLUM ANTHONY STUART MEADOWS-WILLIAMS DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Callum Anthony Stuart Meadows-Williams o "Fairholme", Heol y Gogledd, Hendy-gwyn ar Daf yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Meadows-Williams ynghylch y materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Meadows-Williams yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Callum Anthony Stuart Meadows-Williams yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

6.

MR. HYWEL DOUGLAS PRICE THOMAS CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Hywel Douglas Price Thomas, Fflat 27 Hafan y Morfa, Llanelli am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas a'i gynrychiolwyr ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Thomas yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr Hywel Douglas Price Thomas am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rheswm

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

7.

MR. COREY JAY OSBORNE TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod, ar ôl cyflwyno'r wybodaeth a oedd ei hangen fel rhan o brosesau llywodraethu'r Awdurdod, fod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

8.

MR. LEE CAINES TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Lee Caines o 126 Heol y Gors, Cwm-gors, Rhydaman yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.

 

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wybod i aelodau'r Pwyllgor am y materion a oedd wedi codi mewn perthynas â'i drwydded. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Caines ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei dirymu.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol ag argymhellion y Swyddog, ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr Lee Caines ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y Rheswm:

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, ni allai'r Pwyllgor fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.  Felly daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod rheswm digonol i ddirymu'r drwydded.

 

 

9.

MR. THOMAS RICHARD ROWCLIFFE TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor wybod, ar ôl cyhoeddi dogfennau'r cyfarfod, fod yr ymgeisydd wedi ildio ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.  Felly yr oedd y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau