Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Curry, P. Edwards ac A. Fox.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 15 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022, gan eu bod yn gywir.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 17 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2022 gan eu bod yn gywir.

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.

MR MOHAMMAD ASHRAF - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd Mr Ashraf yn bresennol dros y ffôn].

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan Mr Mohammad Ashraf o Meadow Croft, Bronwydd Arms, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.  

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Ashraf ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Ashraf yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Mohammad Ashraf yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

7.

MR DONALD LYN EVANS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Donald Lyn Evans Williams o 1 Heol Llwyd, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Cafodd y Pwyllgor er ystyriaeth sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Evans a'i gynrychiolydd ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Evans yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Donald Lyn Evans am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.    

8.

MR MARK EDWARD JOHN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Mark Edward John o 18 Brynderwen, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Cafodd y Pwyllgor er ystyriaeth sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John a'i gynrychiolydd ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr John yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cais a gyflwynwyd gan Mr Mark Edward John am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei wrthod.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.   

9.

MRS SARAH HELENA HAVARD - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mrs Rebecca Sarah Helena Havard o 52 Banc-y-Ddraenen, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded.  

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mrs Sarah Helena Havard yn bresennol yn y cyfarfod a'i bod wedi methu ag ymgysylltu â'r Awdurdod yngl?n â'r ohebiaeth a roddwyd iddi.  Gan roi sylw i'r uchod

 

PENDERYNWYD YN UNFRYDOL i benderfynu ar y mater yn absenoldeb Mrs Sarah Helena Havard.

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu yn rhoi manylion y mater.  Argymhellodd y dylid dirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mrs Havard ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mrs Havard ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm:

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod achos rhesymol dros ddiddymu'r drwydded.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau