Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T.J. Jones a'r Cynghorydd A. Fox.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E.G Thomas

2.              Eitem 7 ar yr Agenda - Mr Gavin James Oram - Cais i Adnewyddu Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Mae'r gyrrwr yn byw yn ei ward ac mae'n ei adnabod.

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 21 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

5.

MR DAVID SIMON WILLIAMS TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr David Simon Williams o 44 Stryd Pemberton, Llanelli, yn meddu ar drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Williams yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr David Simon Williams yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod y ffeithiau'n cyfiawnhau atal neu ddirymu'r drwydded, ond y dylid rhoi rhybudd.

 

 

6.

MR PAUL ANTHONY DAVIES CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Paul Anthony Davies o 14B Stryd Murray, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei wrthod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cais a gyflwynwyd gan Mr Paul Anthony Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei wrthod.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i'w Pwyllgor, roedd y Pwyllgor yn fodlon NAD oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

7.

MR GAVIN JAMES ORAM CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Cofnodion:

(NODER: Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd E. Thomas y cyfarfod ac felly nid oedd yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.  Cafodd yr eitem ei chadeirio gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd D.E. Williams.)

 

Oherwydd ymrwymiadau gwaith nid oedd Mr Oram yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a gofynnodd i'r Pwyllgor barhau i ystyried y cais yn ei absenoldeb.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Gavin James Oram o Kennel Cotttage, Kings Lodge, Llandeilo, i adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat, a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Oram yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Gavin James Oram am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod Mr Oram yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau